Teyrngedau i ddyn, 36, wedi marwolaethau Afon Tawe

  • Cyhoeddwyd
Jay Kyle JenkinsFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mewn datganiad, dywedodd teulu Jay Kyle Jenkins mai ef oedd eu "bachgen hardd, caredig."

Mae teulu wedi talu teyrnged i'w mab "caredig a diffuant" wedi i gar gael ei ddarganfod mewn afon fore dydd Nadolig.

Jay Kyle Jenkins, 36 oed o ardal St Thomas, oedd y teithiwr yn y car oedd yn cael ei yrru gan Rachel Curtis, o Fonymaen, Abertawe.

Daethpwyd o hyd i'w cyrff ger Mini Cooper a oedd dan ddŵr yn yr Afon Tawe.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 03:05 ger Heol New Cut yng nghanol y ddinas.

Mewn datganiad, dywedodd teulu Mr Jenkins mai ef oedd eu "bachgen hardd, caredig."

"Roedd Jay yn enaid caredig, diffuant a oedd bob amser yn helpu pobl eraill.

"Bu Jay yn gweithio fel trydanwr ac roedd yn ffrind i Rachel ers eu dyddiau ysgol."

Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad ac mae swyddogion yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y car yn mynd fewn i'r afon, neu sydd â CCTV neu luniau camera cerbyd, i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig