Rygbi: 'Chwaraewyr cyffredin yn cael eu talu gormod'

  • Cyhoeddwyd
Gareth DaviesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Gareth Davies 21 cap i Gymru rhwng 1978 ac 1985, ac roedd yn gadeirydd URC rhwng 2014 a 2020

Mae cyn-gadeirydd Undeb Rygbi Cymru yn credu fod "chwaraewyr cyffredin yn cael eu talu gormod", wrth i bryderon newydd ddod i'r amlwg am gyllideb clybiau rygbi proffesiynol.

Yn ddiweddar mae dau o brif glybiau Lloegr, sef y Wasps a Chaerwrangon, wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr a cholli eu lle ym mhrif adran y wlad.

Yr wythnos hon fe ddywedodd prif weithredwr Undeb Rygbi Lloegr, Bill Sweeney, bod y model cyllido presennol "wedi torri".

Ychwanegodd fod clybiau wedi bod yn gwario mwy nac y dylen nhw am "amser rhy hir".

'Dim torfeydd tebyg i bêl-droed'

Mae'r Scarlets, Caerdydd, y Dreigiau a'r Gweilch yn cynnal trafodaethau gydag Undeb Rygbi Cymru ar ddyfodol y gêm yng Nghymru yn sgil y sefyllfa ariannol.

Tan y bydd cytundeb mae marc cwestiwn yn parhau ynghylch maint cyllideb y clybiau proffesiynol yng Nghymru o dymor 2023-24 ymlaen.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Wasps yw'r ail glwb yn Uwch Gynghrair Lloegr i fynd i ddwylo'r gweinyddwyr dros yr wythnosau diwethaf, gyda 167 o chwaraewyr a staff yn colli eu swyddi

Mae cyn-gadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Gareth Davies, yn cefnogi sylwadau Bill Sweeney sef bod methiant wedi bod i reoli cyllidebau o fewn y gêm ers troi'n broffesiynol yng nghanol y 1990au.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Mawrth, dywedodd: "Mae'n drueni am y clybiau yma yn mynd mas o waith wrth gwrs, gyda sawl person wedi colli eu swyddi.

"Wedi dweud 'ny mae gwers yna hefyd i fi, y ffaith fod y gêm, fi'n credu dros y blynyddoedd diwethaf - ni wedi gweld e yng Nghymru a gwledydd eraill - [clybiau] yn byw tu fas i beth mae'r gêm yn gallu ei fforddio.

"'Dyn ni ddim yn gweld torfeydd fel ni'n cael mewn pêl-droed ond ni'n gweld yr arian yn mynd lan."

'Methu fforddio fe'

"Roeddwn i'n gweithio 'da Radio Cymru nos Sadwrn... ac roeddwn i'n teimlo bod chwaraewyr - falle bod e'n dadleuol beth rwy'n mynd i ddweud - ond mae chwaraewyr cyffredin yn cael eu talu lawer gormod rwy'n credu.

"Dyna beth yw gwraidd y broblem, yr arian sy'n mynd mas i dalu chwaraewyr, hyfforddwyr ac yn y blaen.

"Dyw'r gêm yn methu fforddio fe. Ni 'di gweld arian private equity a phopeth yn dod i fewn, ond hyd yn oed ar ôl 'ny, ni'n gweld y clybiau yn mynd mas o fusnes.

"Mae pawb yn cystadlu am gael y chwaraewyr gorau felly mae'r arian yn cadw i fynd lan drwy'r amser.

"Reit o'r dechrau, pan aeth y gêm yn broffesiynol yn 1995, dy'n ni ddim wedi rheoli cyllidebau'r clybiau na'r undebau i raddau."