'Argyfwng dyled' er gwaethaf taliadau i bobl ar incwm is o'r gwanwyn
- Cyhoeddwyd
Mae "argyfwng dyled" yn wynebu rhai teuluoedd wedi'r Nadolig wrth iddyn nhw orfod ad-dalu costau misol, yn ôl Cyngor ar Bopeth Cymru.
Daw sylwadau eu cyfarwyddwr cynorthwyol, Luke Young, wrth i Lywodraeth y DU gyhoeddi manylion ar sut y bydd pobl ar incwm is yn cael taliadau ychwanegol o'r gwanwyn i helpu gyda chostau byw cynyddol.
Mae'r £900 - fydd yn cael ei roi i bobl sy'n hawlio budd-daliadau ac sy'n gymwys - yn ychwanegol i'r hyn gafodd ei gynnig y llynedd.
Daw'r manylion gan lywodraeth y DU ar ôl i'r canghellor, Jeremy Hunt, gyhoeddi y byddai cymorth ar gael yn natganiad yr hydref.
Y llynedd, meddai Mr Young, fe wnaeth nifer mwy nag erioed ofyn am gyngor a chymorth gan Cyngor ar Bopeth, ac mae'n disgwyl i'r cynnydd yma barhau yn 2023.
Dywedodd ei fod yn pryderu, er y taliadau, fod nifer o deuluoedd yn wynebu mynd i ddyled dros y flwyddyn nesaf.
"Mae'r gefnogaeth ariannol o lywodraeth y DU yn mynd i fod yn hanfodol i bobl ar fudd-daliadau yn y flwyddyn sydd i ddod, felly rydym yn wir ei groesawu.
"Ond rydym y pryderu am y bwlch sy'n ymddangos o ran y costau mae'n rhaid eu talu."
Ychwanegodd y byddai hyn ond yn gwaethygu oherwydd chwyddiant.
"Ry'n ni wedi cynnal arolygon barn sy'n dangos fod canran fawr o gartrefi, gan gynnwys yng Nghymru, ddim yn gallu fforddio cost ychwanegol o £20 yn eu cyllideb fisol.
"Nawr i rai, efallai mai pryd o fwyd takeaway yw hynny, ond i nifer o gartrefi, dyna'r dewis allai eu torri."
Taliad cyntaf yn y gwanwyn
Gyda'r arian ychwanegol fydd ar gael y flwyddyn nesaf, bydd y taliad cyntaf yn cael ei wneud yn y gwanwyn gyda dau daliad arall i ddilyn yn yr hydref a'r gwanwyn canlynol.
Bydd £150 ychwanegol yn cael ei dalu i bobl ag anableddau a £300 i bensiynwyr ar ben taliadau'r gaeaf.
Yn ôl Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies, bydd y taliadau yn rhai awtomatig a ni fydd rhaid gwneud cais amdanynt.
Mae aros tan y gwanwyn ar gyfer y taliad cyntaf yn amser hir, yn ôl Dr Steffan Evans, Pennaeth Polisi melin drafod Sefydliad Bevan.
Wrth siarad ar Dros Frecwast dywedodd: "Y gofid yw, hyd yn oed gyda'r cymorth ymchwanegol, yw e'n mynd i fod yn ddigon?
"Yn sicr, mae'n mynd i deimlo'n bell i ffwrdd, ry'n ni 'di clywed sôn am y pwysau ar y gwasanaeth iechyd dros yr wythnosau dwetha', ond hefyd ar fanciau bwyd ac ati.
"Mae'n mynd i fod yn amser hir i bobl aros.
"Er bod y cymroth ychwanegol 'ma'n dod, ar y llaw arall, fe fydd y cap ynni 'na ar filiau trydan a nwy yn cynyddu yn y gwanwyn."
Ychwanegodd David TC Davies fod y taliadau yn rhan o becyn ehangach Llywodraeth y DU i roi cymorth ariannol i aelwydydd.
"Yn 2022 fe wnaeth dros 400,000 o gartrefi yng Nghymru dderbyn £650 i helpu gyda'u taliadau, fe wnaeth dros 600,000 o bensiynwyr Cymru dderbyn £300, gyda 400,000 o bobl yn derbyn £150 o arian anabledd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd18 Mai 2022