Rhyw a rhywedd: 'Does dim rhaid bod yn un peth neu'r llall'

  • Cyhoeddwyd
Meilir Rhys WilliamsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Meilir yn actor a chanwr sy'n chwarae rhan y mecanic Rhys yn y ddrama Rownd a Rownd ar S4C

"Dydw i ddim yn ffitio yr un bocs - dydw i erioed wedi ffitio mewn i'r un bocs. Dwi hefyd yn ffitio yn y ddau focs."

Mae'r actor Meilir Rhys Williams yn trafod labeli cymdeithasol, beth yw 'bod yn ddyn' a 'bod yn ddynes', a pham ei fod yn credu ei bod yn hen bryd i gymdeithas stopio rhoi pobl mewn bocsys.

Wedi ei fagu mewn cymdeithas draddodiadol yng nghefn gwlad, yn hoyw a "ddim yn ffitio" y darlun traddodiadol o fachgen, roedd yn teimlo fod rhannau o'i bersonoliaeth yn cael eu gweld mewn ffordd negyddol wrth dyfu fyny.

"Yn ddiweddar iawn dwi wedi dod i berchnogi y rhannau yma o nghymeriad dim ond wrth eu defnyddio nhw 'fath ag arf yn hytrach na'u gweld nhw fel gwendidau," meddai.

"Dwi yn byw mewn cymdeithas cefn gwlad lle mae'r syniadau traddodiadol am be' ydi o i fod yn ddyn neu'n ddynes neu'n berson yn gallu bod yn reit gryf.

"Unwaith dwi wedi dod yn fwy hyderus ynof fi fy hun mae ymateb pobl wedi bod yr un mor bositif a'r ymateb dwi wedi ei gael ynof fi fy hun i'r newid yna."

'Dau focs i rywedd'

Mae'r trafodaethau diweddar ar y termau deuaidd ac anneuaidd (binary a non-binary) ymhlith pobl sy'n teimlo nad ydyn nhw'n ffitio'r label benywaidd na gwrywaidd wedi rhoi hyder i Meilir a'i helpu i ddeall mwy am ei hun.

"Mae'r sgwrs yma 'di helpu fi i dyfu go iawn 'fatha person, yn enwedig y sgwrs ar hunaniaeth, yn enwedig yn y gymuned LGBTQ+, sef bod yn anneuaidd, sef non-binary," meddai Meilir, sydd yn uniaethu gyda'r term.

Mae'n sgwrs mae wedi ei chael yn y dafarn gyda'i ffrindiau ac mae'n hapus i drafod a cheisio egluro i unrhyw un sydd eisiau gwybod a dysgu mwy.

"Binary (deuaidd) ydy 'bi', sy'n golygu dau focs. Felly binary ydy'r syniad bod gynnon ni ddau focs ar gyfer ein rhywedd, pwy allwn ni fod fel pobl, a mae o'n based ar dy genitalia di, yn [y system] hen ffasiwn: 'fatha bod be sgen ti rhwng dy goesau yn dy siapio di fel person.

'System hen ffasiwn'

"Dwi mor ecseited inni symud ymlaen fel cymdeithas i stopio rhoi'r pwysau ar blant sydd ddim wedi cael eu geni [eto] i fod yn rhywbeth. Cyn iddyn nhw gael eu geni mae pobl yn gofyn 'Be ydio?'... 'Be mai'n gael? Merch ta hogyn?'

"Back off, gad iddo fo gymryd ei wynt cyntaf i ddechrau cyn i ti roi dy stamp arnyn nhw.

"Dyna'r system hen ffasiwn - binary - deuaidd yn Gymraeg.

"Felly mae non-binary yn syniad dy fod ti ddim yn ffitio mewn i'r ddau focs - yr un bocs na'r llall - anneuaidd.

...hyd yn oed fel y person oedd yn adnabod ei hun i fod yn ddyn hoyw, mae na gymaint o bethau o fewn y bocs yne dydw i ddim yn ffitio mewn iddo fo.
Meilir Rhys Williams

"Wrth i fi ddod i ymchwilio a dod i 'nabod ffigyrau cyhoeddus sy'n cyflwyno eu hunain yn anneuaidd a dod i ddarllen mwy am [y pwnc] a'i astudio fo a gwybod be' mae'n feddwl, waw, mae wedi rhoi tingls i fi.

"Achos, hyd yn oed fel y person oedd yn adnabod ei hun i fod yn ddyn hoyw, mae 'na gymaint o bethau o fewn y bocs yne dydw i ddim yn ffitio mewn iddo fo."

Roedd Meilir yn siarad gyda Non Parry mewn sgwrs ehangach am hunaniaeth a iechyd meddwl ar bodlediad Digon, Radio Cymru.

Mae wedi cael sgyrsiau yn y dafarn lle mae ffrind wedi gofyn, efallai'n ddilornus, i be mae rhywun fel y canwr Sam Smith wedi cyhoeddi ei fod yn anneuaidd?

Ei ymateb, meddai Meilir, yw cyflwyno safbwynt gwahanol iddyn nhw drwy ddefnyddio ei hun fel enghraifft o rywun nad ydio wedi ffitio i'r bocs 'bachgen', na'r bocs 'merch' yn draddodiadol ac felly fod ganddo elfennau o'r ddau focs yma.

"Dyne, i fi, ydi bod yn anneuaidd," meddai Meilir. "Dydw i ddim yn ffitio yr un bocs - dydw i erioed wedi ffitio mewn i'r un bocs. Dwi hefyd yn ffitio yn y ddau focs.

"Mae yna bethau yn y ddau focs, dwi'n teimlo yn draddodiadol wrywaidd iawn ac yn draddodiadol fenywaidd iawn.

"Mae dy hunaniaeth di a'r ffordd rwyt ti yn dod i adnabod dy hun yn rhywbeth mor bersonol ac mae gen i gymaint o barch at y topic rŵan."

Disgrifiad,

Ydych chi'n gwybod y termau cywir?

'Fo, hi, nhw'

Er ei fod yn nodi ei hun fel 'fo/him/he' ar ei broffil Twitter, dydi'r dewis o ragenw ddim yn poeni llawer arno.

"I fi yn bersonol, gei di alw fi yn rwbeth.

"Dwi ddim yn teimlo mod i'n gorfod bod yn un peth neu'r llall. Felly o ran rhagenwau dwi'n hapus i rywun alw fi'n fo, hi neu nhw - unrhyw un - a dwi'n teimlo mod i'n eu perchnogi nhw."

Er hynny, mae'n parchu ac yn tynnu ei het i unrhyw un sydd yn ddigon dewr i gydnabod yn gyhoeddus nad yw eu hunaniaeth yr un peth ag sy'n ddisgwyliedig ohonyn nhw gan gymdeithas.

"Mae i gyd yn dod lawr i social constructs: mae LGBTQ+ - cyn bo hir fydd y wyddor i gyd yno - [yn bodoli] achos rydyn ni'n gorfod prescribio i system sydd ddim wedi ei greu i ni.

Meilir Rhys Williams
Meilir Rhys Williams
...cyn bo hir fydd ne ddim labeli achos fyddi di'n cael dy gymryd fel yr unigolyn ag yr wyt ti.

"Mae yna system lle dyma wyt ti i fod - mae yne ddau focs a mi rwyt ti i fod i licio yr opposite sex. Dyne ydy'r gymdeithas draddodiadol sy' wedi cael ei chreu.

"Os nag wyt ti'n ffitio hwnne mae rhaid inni roi label arnat ti fel bod ni'n deall pwy wyt ti.

"Ar ddiwedd y dydd yr ateb i hyn, wrth i'n cymunedau ni ddatblygu ac esblygu, ydy cyn bo hir fydd ne ddim labeli achos fyddi di'n cael dy gymryd fel yr unigolyn ag yr wyt ti. Fydd pobl ddim yn rhoi y stamp arnat ti cyn i ti ddod allan i'r byd."

Ar y funud, meddai, mae hunaniaeth rhywun yn gorfod ffitio mewn i'r bocsys sydd wedi eu creu gan gymdeithas batriarchaidd, heteronormative (lle mai heterorywiaeth yw'r 'normal').

"Dim ond unwaith fyddwn ni wedi cael gwared â'r rheine y bydd dim angen labeli," meddai.

Cyfyngiadau cymdeithasol

Ac i bobl sy'n dweud wrtho fod yr holl sôn am ddewis rhagenwau a labeli LHDTC+ (LGBTQ+) fel deuaidd ac anneuaidd yn 'petty' mae gan Meilir ateb pendant:

"Yr unig reswm mae'n rhaid inni eu cael nhw ydy achos bod ein cymuned ni'n petty - dydw i ddim yn ffitio mewn i dy focs bach di; achos y meddylfryd yna a'r social constructs hen ffasiwn yma sydd yn dal mor gryf yn ein cymdeithas ni mae'n rhaid inni eu rhoi nhw. A dyna pam bod o'n dod drosodd yn petty achos mae'r social contructs yma ryden ni wedi eu creu yn petty."

Bydd gan Meilir gyfle i drafod mwy ar y pynciau yma mewn podlediad newydd gyda Iestyn Wyn o fudiad Stonewall ar BBC Sounds yn nes ymlaen yn y gwanwyn.Bydd y ddau yn trafod bywydau a straeon y gymuned LHDT+ yng Nghymru - eu profiadau a'r pethau sy'n eu hysbrydoli - gydag amrywiol westeion.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig