Grŵp sglefrolio merched a phobl anneuaidd yn llwyddiant

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae'r grŵp sglefrolio wedi cael ei sefydlu i greu awyrgylch mwy cyfforddus a diogel

Mae grŵp sglefrolio i ferched a phobl anneuaidd wedi cael cannoedd yn cofrestru ers iddo gael ei ffurfio yn y cyfnod clo.

Roedd Jess Mead, myfyrwraig PhD, yn teimlo nad oedd yn ffitio i mewn pan aeth i'w pharc sglefrio lleol yn Abertawe.

Felly sefydlodd grŵp Facebook yn gofyn a oedd merched neu bobl anneuaidd â diddordeb mewn sglefrolio mewn amgylchedd mwy cefnogol.

Mynychodd tua 10 o bobl i ddechrau, ond mae'r sesiynau dan do mewn neuadd chwaraeon wedi bod yn orlawn ers hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jess Mead nad yw rhai menywod ifanc "wedi teimlo'n gyfforddus yn mynd yn syth i mewn i barc sglefrio"

Dywedodd Jess ei bod hi "ddim yn teimlo'n gyfforddus" wrth fynychu parc sglefrio a oedd yn cynnwys dynion a bechgyn yn eu harddegau yn bennaf.

"Yn aml iawn roedd sglefrfyrddau a sgwteri cyflym iawn ac nid dyna'r naws roeddwn i eisiau," meddai.

"Roeddwn i'n meddwl efallai bod merched eraill yn teimlo'r un ffordd â mi."

Ers sefydlu'r sesiynau, dywedodd fod rhywun yn aml "yn dod i fyny... i ddweud pa mor ddiolchgar ydyn nhw".

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai aelodau yn eu 50au neu 60au, a heb sglefrio ers degawdau

"Rydyn ni wedi cael merched ifanc sydd wastad wedi eisiau sglefrio ond sydd ddim wedi teimlo'n gyfforddus yn mynd yn syth i barc sglefrio.

"Rydyn ni wedi cael aelodau hŷn yn dod yma - pobl 50 neu 60 oed - sydd heb sglefrio ers eu bod yn 20 oed.

"Mae eu clywed nhw yn dweud eu bod nhw'n teimlo'n ifanc eto oherwydd bod ganddyn nhw le y gallan nhw ei wneud... mae wedi gwneud i mi deimlo'n wych."

'Fy nghael i allan o'r tŷ'

Dywedodd Macy Quinn-Sears, myfyriwr ôl-raddedig anneuaidd, fod y grŵp wedi eu helpu i wneud ffrindiau a theimlo'n rhan o gymuned ar ôl profi unigedd mewn cyfnodau clo.

"Roeddwn i'n euog o ddod yn feudwyaidd iawn yn ystod y pandemig," meddai.

"Mae'n anodd iawn dod o hyd i'r rhesymau hynny i fynd allan, yn enwedig os yw'r brifysgol ar-lein a gallaf archebu fy siopa ar-lein a gallaf hyd yn oed archebu fy nghoffi ar-lein.

"Roedd sglefrio yn beth gwych i ddechrau fy nghael i allan o'r tŷ yn yr heulwen.

"Ond ers ymuno â'r grŵp hwn mae wedi gwneud rhyfeddodau ar gyfer fy nhrefn wythnosol."

Disgrifiad o’r llun,

"Ers ymuno â'r grŵp hwn mae wedi gwneud rhyfeddodau," meddai Macy Quinn-Sears

Ychwanegodd Macy: "Mae iechyd meddwl ac ymarfer corff mor bwysig, ond mae'n anodd iawn gorfodi'ch hun i wneud y pethau hynny pan fyddwch chi'n eu gwneud ar eich pen eich hun.

"Mae'n anodd mynd allan am dro pan fyddwch chi'n gwybod eich bod chi ar eich pen eich hun neu hyd yn oed yn dechrau hobi newydd.

"Ond mae'r grŵp yn gwneud i chi deimlo'n gynwysedig ac mae pobl yn edrych allan amdanoch chi ac maen nhw'n colli chi pan nad ydych chi yno.

"A dyna'r peth pwysicaf i mi mewn gwirionedd."

Dywedodd aelod arall o'r grŵp: "Mae'n hwylus, mae pawb yn mwynhau, does dim pwysau ac rydych chi'n gallu troi i fyny, cael go, eistedd i lawr, mynd, beth bynnag... mae pawb yn jyst ffab."

Gwyliwch BBC Wales Live ar BBC One Wales am 22:30 nos Fercher, neu ar iPlayer.

Pynciau cysylltiedig