Y gwaith o drwsio Pont y Borth wedi dechrau

  • Cyhoeddwyd
Pont y BorthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Pont y Borth - sy'n cysylltu Ynys Môn a'r tir mawr - ar gau i draffig ers 21 Hydref y llynedd

Mae'r gwaith o drwsio Pont y Borth bellach wedi dechrau, yn ôl Llywodraeth Cymru, sy'n gobeithio ei hailagor i draffig ymhen pedair wythnos.

Fe gaeodd y bont 200 oed yn sydyn fis Hydref diwethaf oherwydd risgiau diogelwch "difrifol", yn dilyn cyngor gan beirianwyr cwmni UK Highways.

Cadarnhaodd gweinidogion bod y rhaglen waith i'w hailagor i draffig wedi cychwyn ddydd Iau.

Y gobaith ydy cwblhau'r gwaith ymhen pedair wythnos gyn belled fod y tywydd yn ffafriol.

Daw'r cynllun "pwysig a chymhleth" yn dilyn "strategaeth ddylunio a chaffael bwrpasol" i alluogi'r gwaith brys.

'Ddiolchgar i drigolion yr ardal'

Fe gaewyd y bont ar 21 Hydref wedi i beirianwyr ddarganfod yr angen am waith brys ar y rhodenni (hangers).

Gan achosi problemau traffig ar naill ochr y Fenai a mwy o straen ar yr unig groesiad gweithredol, sef Pont Britannia, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr effaith yn lleol.

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd a Thrafnidiaeth, ei fod yn falch i allu "bwrw ymlaen yn gyflym gyda'r gwaith hynod bwysig a chymhleth hwn".

Disgrifiad o’r llun,

Mae mwy o draffig yn gorfod teithio dros Bont Britannia yn sgil cau Pont y Borth i gerbydau

"Yn y cyfamser, mae'r pecyn cymorth i leddfu'r pwysau trafnidiaeth ar bobl sy'n teithio'n ôl ac ymlaen i Ynys Môn yn parhau yn ei le a dwi'n ddiolchgar i drigolion yr ardal am eu hamynedd wrth i'r gwaith ar y bont barhau."

Mae'r pecyn hwnnw, yn dilyn pryderon dros yr effaith ar fusnesau a thrigolion Porthaethwy, yn cynnwys parcio am ddim yn y dref a darparu mwy o safleoedd bysiau.

'Amgylchiadau anodd'

Dywedodd llefarydd ar ran UK Highways A55 Ltd, sy'n dal y cytundeb i gynnal a chadw'r bont, bod ei thrwsio wedi profi i fod yn "broblem unigryw".

"Rydyn ni'n cydnabod bod cau Pont Menai wedi tarfu ar y gymuned leol ac wedi gwneud amgylchiadau'n anodd," meddan nhw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen gwaith brys ar rodenni'r bont

"Rydyn ni'n gwerthfawrogi amynedd pawb wrth inni fynd ati i ddatblygu ateb brys er mwyn datrys y broblem ddigynsail hon.

"Rydyn ni am ddiolch i bawb am eu gwaith caled wrth ddod o hyd i'r ateb hwn mor gyflym, yn enwedig i drigolion Ynys Môn a'r gogledd am eu cadernid.

"Daeth nifer o heriau peirianegol cymhleth i'n rhan wrth inni fynd ati i geisio dod o hyd i ateb i'r broblem unigryw hon.

"Fe wnaethom weithio'n hynod o agos gyda Highways UK, Llywodraeth Cymru, a thîm ehangach peirianwyr y prosiect er mwyn deall y problemau a'r cyfyngiadau'n llawn, ac er mwyn inni fedru datblygu ateb sy'n ddiogel ac yn gadarn i ddefnyddwyr y bont, ac i'r strwythur ei hun, gan wneud hynny cyn gynted â phosibl."

Er yn croesawu'r ffaith bod y gwaith trwsio wedi dechrau, dywedodd llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, Natasha Asghar bod Llywodraeth Cymru wedi bod "yn rhy araf o lawer i weithredu.

Ychwanegodd: "Bydd yr oedi o ganlyniad cau [y bont] yn parhau i gael effaith anferthol ar bobl a busnesau ar draws gogledd Cymru gan amharu ar fywyd bob dydd a cholled incwm."

Pynciau cysylltiedig