Llunio achos am arian i helpu busnesau Porthaethwy
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Ynys Môn yn llunio achos i wneud cais am arian gan y llywodraeth i helpu busnesau Porthaethwy.
Bellach mae hi bron yn fis ers cau Pont y Borth, sy'n cysylltu'r dref â'r tir mawr, oherwydd gwaith diogelwch brys.
Yn ôl nifer o gaffis a siopau Porthaethwy, mae llai o bobl yn dod i'r stryd fawr ac mae eu trosiant wedi gostwng.
Mae sawl un yn galw am weithredu, gan awgrymu opsiynau fel lleihau trethi busnes, darparu parcio am ddim a hysbysebu fod y dref ar agor.
Mae Cyngor Môn wedi cyhoeddi hefyd y bydd gwasanaeth bws wennol yn dechrau ddydd Llun er mwyn helpu teithwyr yn ne'r ynys.
Mae'r gwasanaeth bws i ac o Benmon, Caim a Glanrafon wedi'i atal ers yr haf ar ôl cyflwyno cyfyngiadau pwysau ar Bont y Borth - fisoedd cyn i'r bont orfod cau yn llwyr.
Roedd pentrefwyr wedi dweud wrth Cymru Fyw eu bod wedi eu "hynysu" oherwydd y diffyg gwasanaeth.
Dywedodd y cyngor ei fod bellach wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddarparu bws wennol i wasanaethu'r ardaloedd hynny.
Ond ar hyn o bryd, dim ond tan y Nadolig mae'r llywodraeth wedi cytuno i ariannu'r gwasanaeth.
Fel arfer, dydy Llywodraeth Cymru ddim yn rhoi arian i ardaloedd sydd wedi eu heffeithio gan waith ffordd, yn ôl y Cynghorydd Carwyn Jones, dirprwy arweinydd yr awdurdod lleol ym Môn.
Ond mae'r cyngor yn gobeithio am eithriad yn achos Porthaethwy, ac maen nhw felly yn gwneud arolwg cychwynnol i fesur effaith cau'r bont ar fusnesau'r cylch.
"Fel rheol, yr ateb 'dan ni'n ei gael ydy bod 'na ddim cefnogaeth ar gael pan fo ffordd yn cael ei chau, ond bod y llywodraeth yn fodlon edrych ar yr achos yma fel achos arbennig iawn," meddai.
"Felly dan ni wrthi y p'nawn 'ma a dydd Llun yn cael yr holiadur 'ma allan i'r 80 o fusnesau sydd ganddon ni wedi eu cofrestru yma yn lleol.
"Y gobaith - a byddwn i'n annog pawb i lenwi'r holiadur yma - ydy ein bod ni'n cael tystiolaeth o be' ydy'r gwir effaith."
Mae gan y ffotograffydd Glyn Davies oriel yn y dref, â'i waliau'n llawn lluniau o'r bont enwog sydd ar gau.
Dywedodd bod "llawer llai" yn siopa yn y dref, gyda rhai'n cael eu dylanwadau gan "nonsens" ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n honni bod rhaid ciwio am "oriau ac oriau" i gyrraedd yr ynys.
Awgrymodd y byddai lleihau trethi busnes yn helpu busnesau'r cylch.
"Mae 75% o'n cwsmeriaid ni o ardal Caer," meddai.
"Dyma'r rhai sydd wedi clywed y straeon erchyll am bobl yn methu croesi'r bont ac felly mae o'n dylanwadu ar bobl a fyddai fel arall yn ystyried piciad i Ynys Môn."
Dywedodd Elizabeth Waters, sy'n rhedeg siop ddillad, fod 'na gwymp "sylweddol" yn ei henillion o'i gymharu â'r un cyfnod yn y flwyddyn cyn y pandemig.
Mae llai yn dod i'r dref hefyd, meddai.
"Dwi'n cael pobl yn ffonio ac yn dweud 'ro'n i am ddod draw, ond dwi ddim eisiau gorfod aros yn y traffig.' Felly mae o yn cadw pobl i ffwrdd.
"Dwi'n dweud wrthyn nhw ei bod hi am fod fel hyn tan fis Mawrth, felly rhaid iddyn nhw ddod i arfer 'efo fo a chiwio os ydyn nhw'n gorfod. Does 'na ddim [ciwiau] drwy'r adeg, ond mae o wedi cael effaith ar fusnes."
Ychwanegodd y byddai'n hoffi gweld yr awdurdodau'n hysbysebu "fod Porthaethwy ar agor".
'Dim gwybodaeth'
Yn siop y cigydd, fe ddywedodd Sian Williams y byddai parcio am ddim yn help i ddenu pobl i'r dref.
"'Dan ni ddim 'di cael unrhyw fath o wybodaeth dros y mis dwytha' am be' sy'n digwydd nesaf," meddai.
"Mae pobl yn dal i drio dod i Borth ond dydy hi ddim mor brysur ag oedd hi."
Yn ôl Ruth Williams, sy'n rhedeg caffi, mae'n "job dweud be' 'di'r gwahaniaeth" i'w busnes hi ers cau'r bont ond "mae 'na lai o bobl o gwmpas".
Mae'r Nadolig, meddai, yn mynd i fod yn gyfnod pwysig, ac mae siopau'n gobeithio gwneud y dre'n ddel i ddenu cwsmeriaid yno.
"'Efo 'Dolig yn dŵad, mae pawb yn gwneud ymdrech mawr efo'r Christmas decorations a petha' fel'na i wneud y lle edrych yn lovely a dod â phobl mewn," meddai.
Ychwanegodd y byddai grant i fusnesau Porthaethwy yn "neis iawn", ond mai "pres 'di pres - it's not a neverending pot".
Mae arolwg Cyngor Ynys Môn yn cael ei yrru'n uniongyrchol i ddegau o fusnesau'r ardal, ond mae'r awdurdod yn annog unrhyw un sydd ddim wedi derbyn un erbyn 21 Tachwedd i gysylltu gyda nhw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2022