Bwcle: Dyn, 25, yn gwadu llofruddiaeth Steven Wilkinson
- Cyhoeddwyd

Bu farw Steven Wilkinson, a oedd yn byw yn lleol, ar ôl digwyddiad ym Mwcle
Mae dyn 25 oed wedi gwadu llofruddio dyn arall mewn achos o drywanu yn Sir y Fflint.
Mae Jamie Mitchell, o Fwcle, wedi ei gyhuddo o ladd Steven Wilkinson, 23 oed, yn y dref fis Hydref y llynedd.
Wrth agor y cwest fis Hydref, fe nododd patholegydd fod Mr Wilkinson wedi marw ar ôl cael ei drywanu drwy ei galon a'i ysgyfaint.
Ymddangosodd Mr Mitchell drwy gyswllt fideo yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Llun.
Dywedodd y barnwr y bydd yn cael ei gadw'n y ddalfa tan yr achos llys, a fydd yn dechrau ar 17 Ebrill.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Precinct Way ym Mwcle ym mis Hydref
Dywedodd teulu Mr Wilkinson ei fod "mor frwdfrydig ynghylch bywyd" ar ôl iddo farw yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
"Ble bynnag roedd o'n mynd, roedd chwerthin i'w gael.
"Nid yn unig y mae wedi gadael gwacter yn ein calonnau, ond yn ein bywydau hefyd."