Ystradfellte: Teyrngedau teuluoedd i gwpl 'serchus'
- Cyhoeddwyd
Mae teuluoedd dwy fenyw a fu farw yn ardal Rhaeadr Ystradfellte ym Mhowys wedi talu teyrngedau gan eu disgrifio fel "cwpl serchus".
Bu farw Rachael a Helen Patching, oedd yn 33 a 52 oed, tra ar wyliau yng Nghymru o ardal Caint.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 11:45 ddydd Mercher, 4 Ionawr, yn dilyn adroddiadau bod dau berson yn y dŵr.
Cafodd cyrff y ddwy eu canfod yn yr afon yn y dyddiau dilynol.
Mewn datganiad ar y cyd, mae teuluoedd y ddwy wedi diolch i bawb a geisiodd eu cynorthwyo, gan ddweud bod "dioddef y fath golled ddifesur" wedi eu "llorio".
"Roedden nhw'n gwpl mor ffyddlon, anhunanol a serchus, ac yn cael effaith bositif aruthrol ar bawb roedden nhw'n eu cyfarfod," medd y datganiad, a ddisgrifiodd eu cariad ac ymroddiad at ofalu am anifeiliaid dros y blynyddoedd.
"Bydd eu chwerthin di-baid yn cael ei gofio am byth gan bawb a gafodd y fraint o'u nabod.
"Does dim geiriau all fynegi'n ddigonol gymaint yr oedd perthnasau, ffrindiau a chydweithwyr yn ei feddwl ohonyn nhw."
Maen nhw hefyd yn talu teyrnged i bawb "a roddodd gefnogaeth ac arweiniad hael" iddyn nhw "ar adeg mor anodd" gan gynnwys yr heddlu a'r gwasanaethau tân ac ambiwlans, gwirfoddolwyr Tîm Achub Mynydd y Bannau Canolog, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Powys.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2023