Caerdydd yn talu rhan o'r ffi trosglwyddo am Emiliano Sala

  • Cyhoeddwyd
Emiliano SalaFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Sala, 28, wedi i awyren a oedd yn ei gludo i Gaerdydd blymio i'r Sianel ym mis Ionawr 2019

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi talu rhan gyntaf y ffi trosglwyddo i glwb Nantes am y pêl-droediwr Emiliano Sala.

Bu farw Sala, 28, wedi i awyren y Piper Malibu blymio i'r Sianel ger Guernsey ar 21 Ionawr 2019.

Roedd y chwaraewr o'r Ariannin yn teithio o Ffrainc i ymuno â Chaerdydd a oedd ar y pryd yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Yn sgil y taliad, a gredir o fod oddeutu £7m, mae Cynghrair Pêl-droed Lloegr (EFL) wedi codi embargo a roddwyd ar y clwb fel eu bod yn gallu arwyddo chwaraewyr ym mis Ionawr.

Nid yw Fifa, corff llywodraethu pêl-droed y byd, wedi cadarnhau eto a fydd embargo ar wahân yn cael ei godi hefyd.

Gan fod Caerdydd yn wreiddiol wedi gwrthod talu rhan gyntaf o £15m y ffi trosglwyddo a gytunwyd gyda Nantes, fe wnaeth Fifa osod embargo trosglwyddo tair ffenest ar y clwb.

Fe gollodd Caerdydd eu hapêl yn erbyn dyfarniad Fifa mewn llys cymodi (Court of Arbitration for Sport) yn Lausanne.

Roedd yr Adar Gleision yn honni na ddylen nhw dalu unrhyw arian gan nad oedd Sala yn swyddogol yn chwarae iddyn nhw adeg ei farwolaeth.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans agency
Disgrifiad o’r llun,

Teyrngedau i Emiliano Sala yn Stadiwm Dinas Caerdydd wedi ei farwolaeth ar 21 Ionawr 2019

Fis diwethaf fe wnaeth cadeirydd Caerdydd gadarnhau eu bod wedi cael gorchymyn i dalu ffi gychwynnol o £5.3m. Roedd y taliad a wnaed yn fwy na hynny yn sgil cyfraddau llog.

Dywed Mehmet Dalman fod trafodaethau cyfreithiol eraill ar y gweill.

Mae Caerdydd wedi apelio yn erbyn gwrandawiad y llys cymodi i Lys Ffederal y Swistir ac mae disgwyl i'r llys hwnnw gyflwyno ei ddedfryd cyn diwedd Ionawr neu ddechrau Chwefror.

Maen nhw'n gobeithio y bydd Fifa yn cael gwared ar yr embargo tair ffenest - sef y gosb a roddwyd am beidio talu rhan gyntaf y ffi.

Mae rheolau embargo trosglwyddo'r EFL yn wahanol i rai FIFA ond roedd Caerdydd wedi apelio i'r gynghrair am godi'r sancsiynau.

Mae Caerdydd yn 20fed yn nhabl y Bencampwriaeth ar hyn o bryd.