Sala wedi marw wedi i'w awyren gwympo'n ddarnau yn yr awyr

  • Cyhoeddwyd
Emiliano SalaFfynhonnell y llun, AFP

Mae rheithgor yn y cwest i farwolaeth Emiliano Sala wedi dod i'r casgliad y bu farw'r pêl-droediwr proffesiynol o ganlyniad i wrthdrawiad awyren ar ôl cael ei wenwyno gan garbon monocsid.

Roedd yr Archentwr 28 oed yn teithio yn yr awyren breifat Piper Malibu rhwng Nantes a Chaerdydd pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar 21 Ionawr 2019.

Fe gymerodd rheithgor o chwech menyw a tri dyn saith awr i gyhoeddi rheithfarn naratif.

Fe fydd Uwch Crwner Dorset yn cyhoeddi adroddiad i atal marwolaethau yn y dyfodol o ganlyniad i'r darganfyddiadau.

Fe glywodd y cwest bod y peilot, David Ibbotson, wedi colli rheolaeth o'r awyren wrth iddi ddisgyn ar gyflymder oedd yn ormodol i'r fath hon o awyren.

Daeth y rheithgor i'r casgliad yr oedd Emiliano Sala yn fyw pan darodd yr awyren y dŵr, ond ei fod e'n lwyr anymwybodol ar y pryd oherwydd gollyngiad carbon monocsid i gaban yr awyren tra'r oedd hi yn yr awyr

Roedd hwn yn hediad anghyfreithlon heb yr awdurdodau na'r tystysgrifau cywir, yn ôl casgliadau'r rheithgor.

Nid ydy corff y peilot, Mr Ibbotson, wedi cael ei ddarganfod.

Fe glywodd y cwest nad oedd Mr Ibbotson wedi ei hyfforddi i hedfan awyrennau gyda'r nos a doedd ganddo ddim ddealltwriaeth o sut i ddefnyddio cyfrifiadur arbenigol er mwyn hedfan awyren o'r fath mewn tywydd gwael.

Anafiadau i'w ben a'i gorff

Bu farw Mr Sala o ganlyniad i anafiadau i'w ben a'i gorff wedi i'r awyren taro'r Môr Udd ger Guernsey.

Roedd o'n anymwybodol ar y pryd oherwydd gollyngiadau carbon monocsid i gaban yr awyren. Yn ôl y rheithgor, roedd hyn o ganlyniad i fethiant gwyntyll gwagio'r awyren.

Mae'r Crwner, Rachael Griffin, wedi cyhoeddi adroddiad i atal marwolaethau yn y dyfodol sy'n galw am fwy o rym i'r Awdurdod Hedfan Sifil er mwyn iddyn nhw ymchwilio i achosion o hediadau anghyfreithlon o'r fath.

Fe glywodd y cwest hefyd bod pryderon ynglŷn â'r nifer o hediadau preifat anghyfreithlon sydd yn digwydd o hyd yn y byd chwaraeon a cherddoriaeth.

Disgrifiad o’r llun,

"Cyn chwarae pêl-droed yn broffesiynol a dod draw yma - fy mrawd i oedd e," medd brawd Emiliano Sala, Dario

Dywedodd Ms Griffin y bydd yr adroddiad yn cael ei anfon at yr Ysgrifennydd Gwladol Trafnidiaeth, Grant Shapps AS, er mwyn iddo gynnal ymgynghoriad gyda'r Awdurdod Hedfan Sifil ynglŷn â rhoi mwy o bwerau iddyn nhw allu ymchwilio i hediadau anghyfreithlon.

Yn ôl teulu Emiliano Sala, cafodd sawl cyfle i atal yr hediad yma eu colli.

Daeth i'r amlwg bod yr Awdurdod Hedfan Sifil wedi ymchwilio i'r dyn drefnodd yr ehediad - David Henderson - yn y gorffennol, ond doedd dim digon o dystiolaeth i gymryd yr achos ymlaen.

Mae Henderson yn treulio 18 mis yn y carchar yn barod ar ôl ei gael yn euog y llynedd yn Llys y Goron am beryglu diogelwch awyren.

Fe fydd yr Ysgrifennydd Gwladol Chwaraeon a Diwylliant, Nadine Dorries AS, a sawl corff rheoli chwaraeon a phenaethiaid mudiadau busnes yn derbyn copi o'r adroddiad hefyd, meddai. Bwriad y Crwner yw tynnu eu sylw at y broblem o hediadau anghyfreithlon o'r fath sydd o hyd yn cymryd lle, meddai.

Pynciau cysylltiedig