Gorchymyn Caerdydd i dalu £5.3m am Emiliano Sala
- Cyhoeddwyd
Mae'r corff rheoli pêl-droed, FIFA, wedi gorchymyn Caerdydd i dalu £5.3m (€6m) i Nantes am drosglwyddiad y diweddar chwaraewr, Emiliano Sala.
Mae'r clybiau wedi bod yn dadlau dros y taliad ers marwolaeth yr Archentwr mewn damwain awyren ym mis Ionawr.
Bu farw'r ymosodwr, 28, wrth deithio o Ffrainc i ymuno â'i glwb newydd.
Roedd Caerdydd wedi dadlau na ddylen nhw dalu'r ffi o £15m gan nad oedd Sala yn chwaraewr Caerdydd yn swyddogol pan fu farw.
Mae'r clwb yn dweud y bydd yn "chwilio am eglurder pellach gan FIFA" wedi'r cyhoeddiad.
Cafodd Sala ei gyhoeddi fel chwaraewr newydd Caerdydd ym mis Ionawr.
Roedd yn teithio i Gaerdydd pan blymiodd yr awyren Piper Malibu yr oedd yn teithio ynddi i Fôr Udd ar 21 Ionawr.
Cafodd ei gorff ei ganfod ym mis Chwefror ond dydy'r peilot, David Ibbotson, 59 o Sir Lincoln, erioed wedi ei ddarganfod.
Fe wnaeth Nantes yrru llythyr at Uwch Gynghrair Lloegr ar 5 Chwefror yn hawlio'r cyntaf o dri thaliad o fewn 10 diwrnod.
Roedd yr Adar Gleision yn dadlau nad oedd y trosglwyddiad wedi ei gwblhau gan nad oedd Sala wedi arwyddo cytundeb oedd wedi'i adolygu, ac felly nad oedd wedi ei gofrestru gyda'r Uwch Gynghrair.
Roedd rhaid i banel FIFA benderfynu ar y mater ar ôl i'r clybiau fethu a dod i gytundeb.
Y ffi am Sala oedd yr uchaf erioed i Glwb Pêl-droed Caerdydd ei gytuno am chwaraewr, ac mae'r swm o £5.3m yn cyfateb i'r rhandal cyntaf o'r ffi llawn.
'Cydnabod y penderfyniad'
Dywedodd llefarydd ar ran FIFA bod y swm yn cyfateb i'r "rhandaliad cyntaf sy'n ddyledus yn unol â'r cytundeb".
"Am resymau cyfrinachedd, ni allwn wneud sylw pellach ar hyn o bryd ar randaliadau posib yn y dyfodol nac amodau eraill y cytundeb."
Mewn datganiad, dywedodd CPD Caerdydd bod y clwb yn "cydnabod y penderfyniad a gyhoeddwyd" gan FIFA, ond y byddai'n "chwilio am eglurder pellach gan FIFA ar union ystyr y datganiad er mwyn gwneud penderfyniad deallus am ein camau nesaf".
Mewn datganiad, dywedodd cyfreithwyr Nantes bod y clwb yn croesawu'r penderfyniad.
"Mae'n rhaid i Gaerdydd barchu eu hymrwymiad a chyfreithiau chwaraeon," meddai Jerôme Marsaudon a Louis-Marie Absil.
Ychwanegodd y datganiad bod "FIFA wedi atgoffa... am yr ymrwymiadau sy'n cael eu gwneud gan glybiau yng nghyd-destun trosglwyddiadau chwaraewyr sy'n rhaid eu parchu".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2019