Minffordd: Mab yn pledio'n ddieuog i lofruddiaeth ei dad

  • Cyhoeddwyd
Dafydd ThomasFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Dafydd Thomas ar 25 Mawrth, 2021

Mae dyn o Finffordd ger Penrhyndeudraeth, Gwynedd wedi gwadu iddo ladd ei dad yn ei gartref ym Mawrth 2021.

Fe wnaeth Tony Thomas, sy'n 44 oed, bledio'n ddieuog i gyhuddiadau o lofruddio a dynladdiad yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Llun.

Roedd ei dad Dafydd Thomas, 65 oed, yn gyfarwyddwr ar gwmni Gwynedd Environmental Waste Services.

Mae disgwyl i'r achos barhau am dair wythnos.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol