Aled Glynne Davies: Agor cwest cyn-olygydd Radio Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae cwest i farwolaeth Aled Glynne Davies wedi clywed i'w gorff gael ei ganfod yn y dŵr ger Canolfan Hwylio Caerdydd yn y Bae.
Cafwyd hyd i'w gorff am 09:40 fore Mercher, 4 Ionawr, a'i adnabod yn ffurfiol gan ei wraig drannoeth.
Roedd cyn-olygydd Radio Cymru wedi bod ar goll ers Nos Galan, ar ôl cael ei weld ddiwethaf yn ardal Pontcanna nos Sadwrn, 31 Rhagfyr.
Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal ar 13 Ionawr yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn y brifddinas.
Eglurodd crwner cynorthwyol Canol De Cymru bod yn rhaid cynnal cwest os ydy rhywun wedi marw mewn modd treisgar, annaturiol neu os nad ydy achos y farwolaeth yn eglur.
Ychwanegodd Dr Sarah Richards fod y farwolaeth yn un roedd angen ymchwilio ymhellach iddi.
Cafodd y cwest ei ohirio tan i ymchwiliad yr heddlu i farwolaeth Mr Davies gael ei gwblhau.
'Dyn doeth, llawn hiwmor'
Roedd Aled Glynne Davies yn olygydd BBC Radio Cymru rhwng 1995 a 2006.
Bu'n gweithio hefyd ar wasanaeth Newyddion y BBC ar S4C, ac arwain y tîm sefydlodd wefan Gymraeg gyntaf y BBC, Cymru'r Byd.
Yn fwy diweddar fe sefydlodd y cwmni cynhyrchu, Goriad, gyda'i wraig Afryl, gan weithio ar nifer o gynyrchiadau teledu a radio, gan gynnwys y rhaglen wythnosol Bore Sul i Radio Cymru.
Yn dilyn ei farwolaeth, cafodd ei ddisgrifio fel "golygydd mwyaf beiddgar Radio Cymru" a "dyn doeth, hawddgar, llawn hiwmor".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2023