Minffordd: Mab wedi 'cicio a sathru' ar Dafydd Thomas
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi clywed sut y cafodd dyn ei lusgo allan o'i gar gan ei fab cyn cael ei gicio a'i sathru gydag esgidiau oedd â chapiau metel.
Mae Tony Thomas, 45, yn gwadu llofruddio ei dad Dafydd Thomas, 65, ym Minffordd, Gwynedd ym Mawrth 2021.
Wrth agor yr achos, fe glywodd y llys i Mr Thomas farw ar ôl dioddef "ergydion ailadroddus i'w wyneb".
Dywedodd Gordon Cole KC ar ran yr erlyniad fod Tony Thomas yn cyfaddef cicio a sathru ar ei dad, ond ei fod yn gwadu ei lofruddio.
'Rhoi ei fywyd i'r busnes'
Fe glywodd y rheithgor yn Llys y Goron yr Wyddgrug fod Dafydd Thomas yn ŵr busnes lleol llwyddiannus.
Sefydlodd gwmni Gwynedd Environmental Waste Service (GEWS) oedd yn cyflogi tua 65 o bobl yn lleol.
"Roedd wedi rhoi ei fywyd yn llwyr i sefydlu ac adeiladau'r busnes," meddai Mr Cole KC.
Roedd Mr Thomas yn byw mewn ffermdy ym Minffordd gyda'i wraig, Elizabeth Thomas a'u merch - oedd yn llys fam a llys chwaer i'w fab, Tony Thomas.
Roedd Tony yn byw mewn tŷ arall tua 500 metr i ffwrdd o'r ffermdy.
Fe glywodd y rheithgor fod Tony Thomas wedi dioddef problemau iechyd meddwl ers yn fyfyriwr yn y brifysgol.
Ar y diwrnod y bu farw Dafydd Thomas, dywedodd yr erlyniad fod Tony Thomas wedi dod i gartref ei dad yn chwilio amdano, ond nad oedd yno gan ei fod ar y ffordd 'nôl o'r siop leol.
Clywodd y llys i Tony Thomas adael y cartref yn ddiweddarach ond pan fethodd Dafydd Thomas a dychwelyd, fe ddechreuodd ei wraig boeni amdano gan edrych ar ap Find my iPhone i ddod o hyd iddo.
Ar ôl gweld ei fod "rhyw 100 metr" i lawr y lôn, fe aeth i chwilio amdano ond daeth o hyd i'w gŵr wrth ymyl ei gar gydag anafiadau sylweddol i'w wyneb a gwaed yn llifo.
Er i'r gwasanaethau brys gael eu galw, bu farw Dafydd Thomas yn y fan a'r lle.
'Hawl dros ran o'r tir'
Yn ôl yr erlyniad, fe gafodd Tony Thomas ei arestio yn hwyrach y prynhawn hwnnw tu allan i'w gartref gyda bag yn llawn dillad gwlyb oedd newydd eu golchi.
Yn ddiweddarach fe gafodd gwaed ei ddarganfod ar ei esgidiau.
Clywodd y llys fod Tony Thomas yn credu fod ganddo berchnogaeth neu hawl dros ran o'r tir oedd yn eiddo i'w dad.
Roedd Tony Thomas yn byw bywyd tawel, heb swydd oedd yn talu, ac yn treulio ei amser yn ffermio moch.
Wrth gloi agoriad yr achos, fe ddywedodd Gordon Cole KC fod yr erlyniad yn credu "bod y dystiolaeth yn dangos yn gryf mai Tony Thomas oedd yn gyfrifol".
"Fe ddioddefodd Mr Thomas esgyrn wedi eu torri yn ei wyneb ac i chwech o'i asennau gael eu torri."
Daeth patholegydd i gasgliad iddo farw ar ôl anadlu gwaed a gafodd ei achosi oherwydd anafiadau sylweddol i'w wyneb.
Wrth i'r achos fynd yn ei flaen ddydd Mawrth, fe glywodd y llys sut y gwnaeth gwraig Dafydd Thomas ei ddarganfod ar lawr wrth ei gar.
Fe welodd y rheithgor gopi fideo o gyfweliad heddlu a roddodd Elizabeth Thomas, fu'n briod am dros chwarter canrif gyda Dafydd Thomas, wedi ei farwolaeth.
"Nes i glywed llais Tony a 'nath o agor y portsh yn holi lle oedd Dafydd," meddai Ms Thomas yn y fideo.
"'Nath o ddeud, 'wyt ti'n gwybod rhywbeth am y moch'?"
"Nachdw medda fi."
Yn ddiweddarach, esboniodd Ms Thomas ei bod wedi gweld Tony Thomas yn cerdded o gyfeiriad gwaelod y lôn yn araf ac ar ôl i Dafydd Thomas fethu a dychwelyd, fe edrychodd ar ap Find my iPhone a gadael i fynd i chwilio amdano.
"Fel o'n i'n mynd oedd o ar draws y llawr yn syth ac yn gwaedu, so 'nes i weiddi arno i weld os o'n i'n cael response a ffonio 999.
"O'n i'n trio egluro lle oeddan ni a rhywun ar ffôn yn deu'tha fi neud CPR a 'nes i hynna tan ddoth yr ambiwlans.
"O'n i'n neud y CPR... mwyaf o'n i'n 'neud y mwyaf o waed o'dd yn dod o'i geg."
'Perthynas wedi dirywio'
Pan ddaeth Tony Thomas draw am y tŷ yn gyntaf, dywedodd Ms Thomas: "Doedd o ddim yn gweiddi ond just rhywbeth yn ei lygaid o - alla' i'm esbonio."
"Doedd o ddim ei hun."
Yn y cyfnod cyn i Ms Thomas ddarganfod ei gŵr, dywedodd ei bod wedi gweld Tony Thomas yn cerdded o'r cyfeiriad lle'r oedd Dafydd yn gorwedd.
"'Nes i weld o'n dod fyny a finna' yn edrych drwy ffenest y gegin... mi o'n i ofn o.
"Roedd o'n cerdded yn dow dow so 'nes i feddwl oreit, fydd o'm byd mawr gan fod o i weld yn iawn yn cerdded."
Wrth drafod stad feddyliol Tony Thomas dywedodd Elizabeth Thomas ei fod wedi derbyn diagnosis o anhwylder deubegynol (bipolar).
"Oedd o 'di dioddef ers blynyddoedd, ers coleg bendant, ond 'nath o waethygu yn y ddwy flynedd diwethaf.
"Roedd o wedi bod yn [uned iechyd meddwl] Hergest," meddai.
Esboniodd fod y berthynas rhwng Tony Thomas a'i dad wedi dirwyio "yn raddol".
"Roedd Dafydd 'isio helpu Tony, ond oedd pawb yn d'eud bod o 'di mynd rhy bell."
Mae Tony Thomas yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth, ac mae'r achos yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2023