Ysgolion a ffyrdd ar gau eto gyda mwy o dywydd oer i ddod
- Cyhoeddwyd
Roedd ysgolion mewn sawl rhan o Gymru ar gau unwaith eto ddydd Mercher oherwydd y tywydd rhewllyd.
Daeth rhybudd arall y Swyddfa Dywydd am gawodydd gaeafol yng Nghymru i rym ganol dydd Mercher - bydd yn para tan 12:00 ddydd Iau.
Roedd yr A55, y brif ffordd ar hyd gogledd Cymru, wedi ei chau i gyfeiriad y dwyrain am gyfnod yn dilyn gwrthdrawiad ger Allt Rhuallt. Mae bellach wedi ailagor.
Mae'r amodau rhewllyd eisoes wedi achosi nifer o ddamweiniau eraill hefyd, gan effeithio ar sawl lleoliad, dolen allanol.
Fe wnaeth un ffermwr ddefnyddio ei dractor i gludo nyrsys i weld claf oedrannus, wrth i'r tywydd rhewllyd barhau i achosi trafferthion teithio.
Rhybudd newydd
O 12:00 ddydd Mercher tan ganol dydd ddydd Iau, mae rhybudd tywydd am eira neu gawodydd gaeafol mewn grym ar gyfer bob sir yng Nghymru heblaw am Sir Fôn.
Mae disgwyl y gallai tir uchel weld 2-5cm ychwanegol o eira dros nos gyda chawodydd o eirlaw yn debygol ar hyd yr arfordir.
Fe allai arwain at amodau gwael ar y ffyrdd gyda rhybudd yn benodol am beryglon rhew.
Dywedodd Gareth Wyn Jones, ffermwr yn ardal Llanfairfechan sydd hefyd yn gyflwynydd teledu, fod y ffyrdd yn Sir Conwy wedi bod yn "beryglus".
"Mi gawson ni sawl digwyddiad ddoe a neithiwr yn y pentref," meddai wrth BBC Radio Wales Breakfast.
Dywedodd bod nyrsys oedd methu gyrru eu car i fyny ffordd yn y pentref i gyrraedd un o'u cleifion, felly fe gynigiodd help iddyn nhw.
"Nes i roi'r ddwy nyrs yn y tractor ac mi wnaethon nhw fwynhau'r trip bach i fyny yna," meddai.
Ddydd Mawrth roedd nifer o ysgolion ar gau oherwydd eira a rhew, a rhagor eisoes yn parhau i fod ar gau ddydd Mercher.
Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw ym Mhont-y-pŵl, Torfaen, ymhlith rhai o'r ysgolion sydd ar gau fore Mercher.
Mae'r amodau'n golygu bod nifer o ffyrdd yn Abertawe, Rhondda Cynon Taf, Sir Ddinbych a Chonwy ar gau o hyd, tra bod llifogydd hefyd wedi cau'r A470 rhwng Rhaeadr Gwy a Llangurig ym Mhowys.
Roedd oedi hir ar yr A470 yn Storey Arms oherwydd yr amodau anodd.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ym Merthyr Tudful mae'r cyngor yn dweud bod tirlithriad sylweddol wedi rhwystro ffordd rhwng Trefechan a Thal-y-bont ar Wysg.
Fe wnaeth 200 tunnell o dir ddisgyn ar y ffordd, ond dylai ailagor rywbryd wythnos nesaf.
Gwiriwch a oes ysgolion ynghau yn eich ardal chi
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2023