Rhaid cael arian i'r diwydiant dur 'yn fuan', medd undeb

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Port Talbot steelworksFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwaith dur Tata ym Mhort Talbot yn cyflogi 4,000 o bobl

Gallai'r trafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a'r cwmnïau gwaith dur mwyaf am gymorth ariannol ddod i ben yn fuan, medd Ysgrifennydd Cymru.

Dywed David TC Davies bod y trafodaethau i sicrhau cymorthdaliadau ar gyfer gostwng allyriadau wedi cyrraedd "man diddorol".

Yn ôl adroddiadau mae gwaith dur mwyaf y DU, sy'n cyflogi 4,000 ym Mhort Talbot, wedi gofyn i lywodraeth y DU am £1.5bn i ddatgarboneiddio y safle.

Dywed pennaeth undebau llafur Cymru bod yn "rhaid i'r arian ddod yn fuan".

'Disgwyl newyddion yn fuan'

"Yr hyn sy'n drist yw ein bod ni eisoes wedi gweld beth ddigwyddodd yn yr 80au pan gaeodd y pyllau glo a doedd gennym yr un cynllun," meddai Shavanah Taj, Ysgrifennydd yy TUC yng Nghymru wrth siarad ar raglen Sunday Supplement Radio Wales.

"Fe gafodd y cymunedau hynny eu difetha a'u gadael ar ôl. Os na fyddwn yn ofalus bydd yr un peth yn digwydd yma.

"Rhaid i ni gael cynllun ar gyfer y diwydiant dur ac mae 'na gynllun - mae'r undebau llafur, y cyflogwyr ac hyd yn oed Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynnal trafodaethau rheolaidd.

Ychwanegodd: "Mae ganddynt gynllun ar gyfer y dyfodol ond dyw'r arian ddim ar gael."

Disgrifiad o’r llun,

Fel rhan o'r ymdrechion i leihau effaith safle Port Talbot ar yr amgylchedd, credir bod Tata eisiau cau dwy ffwrnais chwyth ac adeiladu ffwrneisi trydan llai niweidiol

Wrth siarad ar BBC Politics Wales, dywedodd Mr Davies bod trafodaethau yn cael eu cynnal ymhlith Llywodraeth y DU a nifer o gwmnïau dur yn y DU.

"Rwy'n credu eu bod ar fin cyrraedd cam diddorol yn y trafodaethau. Rwy' wedi cael trafodaeth ar hyn yn ystod y deuddydd diwethaf ac rwy'n credu y gallwn ddisgwyl newyddion yn fuan," ychwanegodd.

Mae undeb Unite wedi ysgrifennu llythyr at lywodraeth y DU yn gofyn am gyfarfod brys i gynorthwyo'r diwydiant dur ac mae cynrychiolwyr wedi cyhuddo'r llywodraeth o beidio "gweithredu'n ddigonol".

'Cymorth yn barod'

Mae cwmni Liberty Steel eisoes wedi cyhoeddi y byddan nhw'n "atal" ei safleoedd yng Nghasnewydd a Thredegar fel rhan o waith ailstrwythuro'r busnes.

Dywedodd Mr TC Davies wrth Politics Wales: "Rwy'n bendant yn credu bod y diwydiant dur yn wynebu sefyllfa anodd ar hyn o bryd am amryw o resymau ac mae'r llywodraeth yn cydnabod hynny.

"Ry'n ni wedi sefydlu cynllun sy'n sicrhau nad yw busnesau yn gorfod talu'n llawn y cynnydd ym mhris ynni - o ganlyniad i'r brwydro yn Wcráin.

"Ry'n ni hefyd wedi buddsoddi £800m yn ychwanegol yn y diwydiant dur yn ystod y 10 mlynedd diwethaf er mwyn cydnabod eu bod eisoes yn talu biliau ynni uchel o ganlyniad i'w defnydd helaeth o drydan a threthi carbon.

Ychwanegodd: "Ry'n ni hefyd wedi rhoi £1.5bn mewn cronfeydd gwahanol - arian y gall cwmnïau dur wneud cais amdano er mwyn datgarboneiddio."