Hunllefau mam am 'ddelwedd olaf' o'i mab wedi ymosodiad ci

  • Cyhoeddwyd
Jack Lis
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Jack ar 8 Tachwedd 2021 wedi i gi ymosod arno

Mae mam i fachgen 10 oed o Gaerffili gafodd ei ladd gan gi peryglus yn dweud ei bod hi'n dal i allu gweld sut oedd ei mab yn edrych wedi iddo farw.

Fe wnaeth Jack Lis ddioddef anafiadau "nad oedd modd eu goroesi" i'w ben a'i wddf wedi i gi oedd yn cael ei alw'n 'Beast' ymosod arno mewn tŷ ym Mhenyrheol fis Tachwedd 2021.

Cafodd dyn a dynes eu carcharu ym mis Mehefin 2022 am berchen neu fod yn gyfrifol am gi peryglus oedd allan o reolaeth.

Yn ei chyfweliad cyntaf gyda'r BBC dywedodd Emma Whitfield, mam Jack: "Bob tro dwi'n cau fy llygad dwi'n ceisio dweud wrth fy hun mai nid hwnna yw'r ddelwedd olaf sydd gen i ohono.

"Dwi'n ceisio dweud wrth fy hun mai pan wnaeth e gau'r drws gyda'r skateboard yn ei law yw e, ond dyw e ddim yn wir."

Troseddwyr yn bridio cŵn

Roedd 'beast' yn Fwli Americanaidd mawr, sydd yn frid o gi sydd wedi ei wahardd.

Fe ymosododd ar Jack pan aeth i mewn i dŷ am tua 16:00 ar 8 Tachwedd 2021, ar ôl bod yn chwarae gerllaw.

Wrth siarad gyda BBC Panorama, dywedodd Emma Whitfield fod y ci wedi ymosod ar wyneb a gwddf Jack.

"Roedden nhw'n cario 'mlaen dweud eu bod nhw'n gweithio arno fe, maen nhw'n gweithio arno fe, ac wedyn daeth y parafeddyg yn ôl gyda blanced ac ro'n i'n gwybod," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y ci 'Bwli Americanaidd' ei ddifa gan swyddogion heddlu arfog wedi'r digwyddiad

"Alla' i ddim dweud yn uchel beth arall welais i achos dwi ddim eisiau i bobl eraill gael y ddelwedd yna hefyd."

Mae ymchwiliad BBC Panorama wedi darganfod sut mae troseddwyr trefnedig (organized crime) yn symud tuag at fridio cŵn eithafol.

Mae cŵn tarw Ffrengig a Seisnig, a'r Bwli Americanaidd newydd, yn cael eu bridio gyda nodweddion llawer mwy na'r arfer - megis torchau croen eithafol, neu gyrff cyhyrog - ac yn cael eu gwerthu am ddegau o filoedd o bunnau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Er nad yw'r Bwlis Americanaidd fel 'Beast' wedi eu gwahardd, yn hanesyddol maen nhw wedi cael eu traws-fridio gyda'r Daeargi Pydew (Pitbull) sydd wedi'u gwahardd ym Mhrydain ers 1991.

Canolfan achub 'yn gweld hyn bob wythnos'

Mae Hope Rescue yn ganolfan achub cŵn yn Llanharan sy'n edrych ar ôl cŵn sydd wedi eu gadael neu eu cam-drin.

Dywedodd eu sylfaenydd Vanessa Waddon fod y ganolfan yn derbyn cŵn sydd wedi'u bridio'n eithafol yn rheolaidd.

"Artaith yw hyn - rydych chi'n gwybod beth mae'r cŵn yn mynd i edrych fel, ond 'dych chi dal yn eu bridio er mwyn cael nodweddion gormodol," meddai.

"Rydyn ni'n gweld hyn bob wythnos. Dyma fywyd dydd i ddydd i ni yma yn y ganolfan nawr."

Mae rhaglen Panorama 'Dogs, Dealers and Organised Crime' ar gael i'w gwylio ar BBC iplayer nawr, ac ar BBC One Wales am 22:40.

Pynciau cysylltiedig