Ateb y Galw: Mared Rand Jones

  • Cyhoeddwyd
Mared Rand JonesFfynhonnell y llun, Mared Rand Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mared Rand Jones

Mared Rand Jones, Prif Weithredwr newydd Ffermwyr Ifanc Cymru sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos yma.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dwi'n credu taw fy atgof cyntaf oedd cymeryd rhan yn sioe Mudiad Meithrin yn Eisteddfod Genedlaethol Llambed yn 1984. Fe wnaeth Cylch Meithrin Tregaron eitem am y Porthmyn ac roeddwn i yn un o'r Porthmyn. Does dim llawer o gof o fod ar y llwyfan ond dwi'n cofio'r wisg a'r het bowler du!

Ffynhonnell y llun, Mared Rand Jones
Disgrifiad o’r llun,

Allwch chi adnabod Mared fel un o'r porthmyn?

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Fy hoff le yng Nghymru yw gartre ar y fferm deuluol, Llanfair Fach, sydd ym mhentref Llanfair Clydogau ger Llambed. Mae gen i atgofion melys o gael fy magu ar y fferm gyda fy rhieni, dau frawd a chwaer. Dwi byth yn blino edrych ar yr olygfa odidog o'r ffarm.

Ffynhonnell y llun, Mared Rand Jones
Disgrifiad o’r llun,

Fferm Llanfair Fach

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Y diwrnod gorau oedd dydd Sadwrn, 9fed o Fai 2009 pan oedd tîm rygbi Llambed yn chwarae yn y ffeinal yng nghystadleuaeth Cwpan Swalec yn Stadiwm y Principality. Roedd hi'n teimlo fel bod tref Llambed a'r ardaloedd cyfagos i gyd wedi teithio lawr i gefnogi'r tîm. Yn anffodus, collwyd yn erbyn Clwb Rygbi Treforys o drwch blewyn ond ni wnaeth hynny stopio cefnogwyr Llambed rhag dathlu. Cymerwyd clwb Walkabout drosodd gan bobl Llambed y noson honno, roedd hyd yn oed fy rhieni yno. Noson a hanner!

Ffynhonnell y llun, Mared Rand Jones
Disgrifiad o’r llun,

Y dorf yn gwylio Llambed v Treforys

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Caredig, brwdfrydig a chymdeithasol.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Y digwyddiad sydd o hyd yn gwneud i mi wenu wrth edrych yn ôl yw trip penwythnos i gyfarfod blynyddol CFfI Cenedlaethol i Blackpool. Roedd dau fws o ffermwyr ifanc Ceredigion yn mynd yno a chafwyd penwythnosau o chwerthin, canu, dawnsio a chyfle i gymdeithasu a gwneud ffrindiau da am oes. Yn sicr, roedd yn ddihangfa o realiti bywyd am benwythnos.

Ffynhonnell y llun, Mared Rand Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cyfarfod blynyddol CFfI Cenedlaethol yn Blackpool

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Wel y digwyddiad wnaeth godi y mwyaf o gywilydd arna i yw pan gwympais wrth ddod allan o grandstand Sioe Frenhinol Cymru llynedd. Bu rhaid galw'r ambiwlans ac roedd y parafeddygon yn meddwl fy mod wedi torri fy nghoes chwith a fy mhigwrn de.

Roedd rhaid iddynt fy nghario allan i'r ambiwlans, a hyn o flaen pawb. Yn ffodus roedd canolfan feddygol ar faes y Sioe gyda chyfleusterau pelydr-x felly doedd dim rhaid mynd i'r ysbyty, a diolch byth, nid oeddwn wedi torri asgwrn ond yn hytrach wedi cleisio'n wael a niweidio ligament.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Y tro diwethaf imi lefain oedd wythnos diwethaf, fy niwrnod olaf yn fy swydd fel Pennaeth Gweithrediadau i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. Fe wnes i weithio gyda'r gymdeithas am bron i bum mlynedd a mwynhau'r gwaith yn fawr iawn a gwneud ffrindiau da.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n gwario gormod o arian ar ddillad ac esgidiau!

Ffynhonnell y llun, Mared Rand Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mared ar ei gwyliau

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu albym a pham?

Dwi ddim yn berson sy'n gwylio llawer o ffilmiau ond fy hoff ffilm yw Fast & Furious.

Fy hoff albwm yw The Struts - Strange Days. Mae'r drymiwr, Gethin Davies yn dod o Landdewi-Brefi. Dwi'n ei gofio yn cymeryd rhan yng nghystadleuaeth grŵp pop Llanddewi-Brefi yn Eisteddfod CFfI Ceredigion ac yn awr mae'n teithio'r byd gyda'r band ac wedi cefnogi The Rolling Stones ym Mharis.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod, a pham?

Dwi'n hoff iawn o wylio comedi ac mi fyddem wrth fy modd yn cwrdd â'r comedïwr Lee Mack. Mae'n gwneud i mi chwerthin bob tro - tonig!

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mae gen i obsesiwn ble mae rhaid i bopeth gyd-fynd yn berffaith â'i gilydd boed yn esgidiau, gwallt, dodrefn, lliwiau ayyb.

Ffynhonnell y llun, Mared Rand Jones
Disgrifiad o’r llun,

Gyda Eden yn TregaRoc

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Byddem yn trefnu parti enfawr yn un o'r siediau ar y fferm gartref a gwahodd fy nheulu a'm ffrindiau i gyd i ddod. Byddai'r parti yn dechrau yn gynnar yn y bore ac yn mynd ymlaen tan oriau man yr hwyr gyda DJ Bry yn ein diddanu.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Dyma lun o griw sy'n trefnu TregaRoc sef Gŵyl Gerddoriaeth Gymraeg sydd yn cael ei chynnal yn Nhregaron bob mis Mai. Dechreuodd yr ŵyl gyntaf yn 2014 er mwyn creu digwyddiad Cymraeg cymdeithasol a chefnogi busnesau lleol ac rwy'n falch i ddweud bod yr ŵyl yn mynd o nerth i nerth.

Ffynhonnell y llun, Mared Rand Jones
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o drefnwyr TregaRoc

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Mae yna ddau berson hoffwn fod am ddiwrnod. Yn gyntaf y Prif Weinidog er mwyn medru newid polisïau a sicrhau bod pobl sydd yn byw yng nghefn gwlad ddim yn cael eu hanghofio.

Hefyd hoffwn fod yn frenhines am ddiwrnod er mwyn cael y profiad o gael pawb yn gofalu amdanaf megis paratoi bwyd, dillad, gwallt ayyb. Hefyd cael y cyfle i gwrdd ag amryw o bobl a mynd i ddigwyddiadau gwahanol ar draws y wlad.

Hefyd o ddiddordeb: