Ateb y Galw: Bethan McLean
- Cyhoeddwyd
Yr actores o Ferthyr Tydfil, Bethan McLean sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos yma ar ôl cael ei henwebu gan Steffan Cennydd.
Ar hyn y bryd, mae Bethan i'w gweld yn chwarae rhan Mags yn ail gyfres Yr Amgueddfa sydd ar S4C bob nos Sul am 21:00.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Chwarae yn yr eira gyda Mam, Dad, Delyth (fy chwaer) a Benji y ci.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Ynys Môn (ble gath Dad ei fagu) yn sefyll wrth y môr ym Miwmares ac yn edrych ar y mynyddoedd. Teimlad o ryddhad.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Noson allan fydde gwylio Matt Corby yn Berlin 2016 gyda Delyth (fy chwaer), Rhiannon ac Olga! Dawnsio trwy'r nos, noson hollol hyfryd.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Cryf (ddim yn gorfforol), penderfynol, Mam.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Dyhuno lan mewn pabell mewn festival a sylweddoli bo' fi wedi cysgu trwy'r ŵyl gyfan. On i'n absolutely gutted ond 'da ni gyd yn chwerthin amdano fe.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Rhoi siopa fi yn y boot yn Asda, cyn sylweddoli bod e'n car rhywun arall. Cringe.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Bore 'ma yn gwylio Dance Monsters gyda fy mab, odd e'n gân emosiynol a roedd y monster yn hedfan trwy'r awyr. Dwi'n eitha sensitif.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Anghofio ateb negeseuon nôl a rhegi.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu albym a pham?
Harry Potters…i gyd. O'n i'n dwli arnyn nhw pan o'n i'n iau, dwi wastad yn rhoi nhw 'mlaen am rywfath o gysur.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Olivia Coleman, mae'n edrych fel right laugh a dwi jyst yn massive fan.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod
'Sdim lot o bobl yn gwybod bod gen i fibromyalgia. Dyw e ddim yn amharu arna' i bob dydd diolch byth ond mae'n gallu bod yn boenus.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Diwrnod gyda fy nheulu, yn fy hoff le, gyda cherddoriaeth a chacen siocled Mam.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Llun o fi a William (fy mab) ar un o fy hoff ddiwrnodau erioed.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Miley Cyrus, dwi'n ffindo hi'n fascinating.
Hefyd o ddiddordeb: