Ymchwiliad wedi graffiti hiliol mewn pentref yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
graffiti hiliol
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd lluniau eu cymryd ddydd Llun o'r graffiti hiliol ar y ffordd

Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio ar ôl i graffiti hiliol gael ei baentio ar ffordd yng Ngwynedd.

Cafodd lluniau eu tynnu ddydd Llun oedd yn dangos geiriau sarhaus a symbol Natsïaidd wedi eu paentio ar Ffordd y Capel yn Nyffryn Ardudwy.

Mae dau berson bellach yn cael eu holi mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Erbyn dydd Mawrth roedd y graffiti wedi cael ei lanhau oddi ar y ffordd.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Gogledd: "Fe wnaethon ni dderbyn adroddiad am 16:23 ddoe fod graffiti hiliol wedi cael ei ysgrifennu ar Ffordd y Capel, Dyffryn Ardudwy.

"Mae ymchwiliadau'r heddlu'n parhau, ac mae trefniadau wedi cael eu gwneud i holi dau berson mewn cysylltiad â'r digwyddiad."

'Sioc'

Dywedodd Steffan Chambers, is-gadeirydd Cyngor Cymuned Dyffryn Ardudwy a Thalybont, ei fod yntau a'i gyd-gynghorwyr yn condemnio'r weithred.

"Mae'n afiach gen i weld y fath beth, a dwi'n falch bod y mater wedi mynd i'r heddlu," meddai.

"Mae fan hyn yn bentre' bach cefn gwlad lle does 'na'm hanes o bethau fel hyn, hate crime neu unrhyw ddigwyddiadau o hiliaeth, felly yn amlwg mae hwnna'n dod fel sioc."

Ychwanegodd mai mater i'r heddlu oedd ymchwilio i'r rheswm y tu ôl i'r weithred.

"Hyd yn oed os mai rhywun [yn chwarae'n wirion] ydy o, mae dal angen addysgu pobl fod hyn ddim yn dderbyniol."