'Nathon ni gyd ddweud... 'nawn ni jest mynd amdani ta!'
- Cyhoeddwyd
Mae caffi Perthyn ym Methel, Caernarfon, wedi ail agor, ond y tro hwn fel menter gymunedol.
Am flynyddoedd doedd 'na ddim caffi i'w gael yn y pentref. Newidiodd hynny yn 2020 wrth i gaffi Perthyn agor fel busnes yn un rhan o hen safle tafarn y Bedol, oedd wedi bod ynghau ers peth amser cyn hynny.
Parhaodd y caffi yn agored tan y llynedd, ond mae bellach wedi ail agor fel menter gymunedol o dan yr un enw. Mae'r cynghorydd lleol, Sasha Williams, yn un o'r bobl sydd wedi bod yn gweithio'n galed i agor y drysau unwaith eto, ac mi gafodd Cymru Fyw sgwrs gyda hi i gael clywed mwy.
Parhau â'r enw
Eglurodd Sasha sut y daeth y gymuned yn gyfrifol am y fenter i ddechrau.
"Nath Elen a Nia, dwy chwaer, ddechrau'r busnes. Roedd un ohonyn nhw wedyn yn rhedeg y busnes ei hun tra'n gweithio'n llawn amser hefyd. Nath Elen gysylltu hefo fi a gofyn os ydw i'n meddwl bod 'na chance i allu cadw fo'n agored.
"Pan oedda' chdi'n sbio ar y grantiau, oedd 'na fwy o help os oedda' chdi'n ei wneud o fel menter gymunedol. Mi nathon ni ddod a pwyllgor bach at ein gilydd wedyn, ac oedda chdi'n gweld bod pobl yn gweld budd o'i gael o yma.
"Da 'ni wedi cadw pethau ar y funud fel oedd Elen yn ei redeg o, yn agored am dri diwrnod yr wythnos. Mae ei mam hi'n cario 'mlaen i weithio yma. 'Da ni'n dibynnu lot arnyn nhw ar hyn o bryd gan eu bod nhw'n gwybod be' 'di be.'"
"Does 'na ddim byd wedi bod yma!"
Yng nghanlyniadau cyfrifiad 2021, a gafodd eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr, daeth Bethel yn drydydd yn y rhestr o ardaloedd bach sydd â'r canran uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Er hynny, mae prinder wedi bod ar hyd y blynyddoedd o ganolfannau yn y pentref lle allai'r gymuned ddod ynghyd.
Dydi hynny ddim wedi amharu ar yr ysbryd cymunedol, yn ôl Sasha: "'Da ni'n lwcus iawn, gyna ni ysgol brilliant, ac ma gyna ni gymuned glos. Ma' pobl sydd 'di mynd o 'ma i'r coleg yn dod yn ôl adra. Mae 'na rai yn mynd i drafeilio, ac wedyn pan ma nhw'n barod i fagu plant ma nhw'n dod yn ôl adra i Bethel."
Mae hefyd yn cydnabod bod y Neuadd Goffa yn cynnig gofod i bobl drefnu gweithgareddau a dod at ei gilydd, ond yn credu hefyd nad oes 'na ddigon o ganolfannau agored wedi bod yn y pentref ar hyd y blynyddoedd.
"Ond mae o'n bechod... oedd ganddon ni ddwy siop ar un adeg, oedd 'na siop gig, a siop chips am gyfnod hefyd.
"Dyna un o'r rhesymau oeddan ni'n teimlo mor gryf am y caffi. O'n i'n gweithio yma hefo Elen am gyfnod, ac oedda' chdi'n gweld pobl yn dod i mewn... yr henoed, plant ar ôl ysgol... oedd o'n rhywle lle oedd pobl yn gallu dod i weld ei gilydd.
"Mae o'n gwneud i chdi feddwl pam bod Bethel mor boblogaidd! Does 'na ddim byd wedi bod yma!'
"Fel cynghorydd, dwi'n cael cwestiynau fel... 'pryd 'da ni'n cael pyb yn ôl?' a 'pryd da ni'n cael siop?' - dyna'r ddau beth mae pobl ei isio. Dwi'n dweud bo' fi am wneud fy ngorau. 'Da ni am drio datblygu siop yng nghefn yr adeilad, ond dwi ddim yn gaddo bo' ni'n cael pyb yn ôl de!"
Dibynnu ar wirfoddolwyr
Allai'r fenter ddim datblygu ymhellach heb gyfraniad mwy o bobl, fodd bynnag, ac mae gwirfoddolwyr yn rhan bwysig o'r ymdrech honno.
"Mae o'n lot fawr iawn o waith i ni fel chwech o bobl rannu'r baich. Fel 'da ni'n cael mwy o wirfoddolwyr, fydd y baich arna' ni fel criw ddim gymaint wedyn."
I gymhlethu pethau ymhellach, mae'n rhaid cael rhywun i gydlynu'r gwirfoddolwyr hyn hefyd.
"Mae o'n waith hir dymor, felly 'da ni angen rheolwr. 'Da ni ar ganol drafftio cytundebau. Mae rhai'n dod i weithio yn casual, sydd yn haws i'w drin, ond mi fydd 'na gytundebau i dri person, gobeithio - dau ohonyn nhw'n rhan amser ac un yn llawn amser."
'Ti'n isda yn fama yn cael dy baned... ac mae hwnna wedi ei gyfro gan grant'
Mae Sasha yn ymwybodol iawn eu bod yn agor mewn cyfnod heriol i bobl yn ariannol, ac wedi ystyried hynny wrth osod prisiau.
"Y gwir amdani ydy ti'm yn gwybod be' ma pobl yn gallu ei fforddio. Mae 'na rai isio mynd allan i gymdeithasu. Ti isio bod yn rhesymol hefo be' ti'n gynnig."
Ar ben hynny, mae busnesau o'r fath yn wynebu cyfnod o gostau uchel ar gyfer prynu nwyddau a thanwydd, ac mae ceisio cydbwyso hyn hefo'r galw yn anodd.
"'Da ni ddim yn gwybod faint o bobl sydd yn mynd i ddod drwy'r drws, a 'da ni ddim yn gwybod faint o staff fyddwn ni ei angen. Ambell ddiwrnod 'da ni 'di gweld y basa' ni wedi gallu gwneud hefo dau aelod arall o staff yma."
Ond mae un cynllun gan Gyngor Gwynedd wedi profi i fod yn gymorth mawr iddyn nhw, sef grant Croeso Cynnes. Mae'n galluogi i'r caffi agor eu drysau dair gwaith yr wythnos i'r gymuned ddod i mewn i gael paned a rhywbeth i fwyta am ddim.
"Ti'n isda yn fama yn cael dy baned a dy fisget, ac mae hwnna wedi cael ei gyfro gan grant gan Mantell Gwynedd. Mae gynno ni tomato soup a bara yn barod i fynd yn y cefn i pwy bynnag sydd isio.
"Nid yn unig y mae o'n helpu'r gymuned hefo costau byw, ond mae o'n ein helpu ni hefo'r caffi hefyd.
"Mae'r niferoedd wedi bod yn reit isel hyd yn hyn ond 'da ni heb fod ar agor ers lot. 'Da ni dal yn y broses o gael y neges allan o ran be 'da ni'n ei gynnig. Dydi pobl ddim yn sylweddoli bod o ar gael i bawb, a rhai yn meddwl bod o 'mond ar gael os dwyt ti ddim yn gallu ei fforddio fo. Dim dyna ydi ei unig bwrpas o, mae o ar gael i unrhyw un, a dyna lle 'da ni angen cael gwared o'r stigma.
"Ond 'da ni hefyd angen cyrraedd y bobl sydd wirioneddol ei angen o. Mae 'na bres i ni fynd i'w nôl nhw, i gael tacsi, neu i dalu petrol i wirfoddolwyr. Dros y gaeaf, mae hi'n dywyll ac yn oer, a dydi pawb ddim isio mentro allan."
Gobeithiol am y dyfodol
Mae Sasha yn gobeithio y bydd 'na ddyfodol disglair i fenter Perthyn, ac yn bwriadu ehangu ar y gwasanaeth y maen nhw'n ei gynnig i'r gymuned. Mae'n cael cymorth unigolion gweithgar fel Elen Foulkes, a ychwanegodd: "Os fasa' ein landlord ni'n fodlon, mi fasa'n braf cael gwneud gigs a pethau yma yn yr haf!
"'Da ni hefyd yn gobeithio cydweithio hefo'r bobl sydd yn defnyddio'r ystafell fawr yng nghefn yr adeilad. Maen nhw'n cynnig sesiynau tecstiliau, ac mi fasa'n braf i ni allu cynnig paned a rhywbeth i fwyta yn y caffi iddyn nhw wedyn."
I Sasha, yr ysbryd cymunedol sydd yn bwysig, a dyna fydd eu blaenoriaeth dros y cyfnod nesaf.
"Adeiladu arno fo 'da ni'n gorfod ei wneud. Mae 'na bethau fel nwyddau hylendid ar gael yma yn barod am ddim, mae cwmni Morrisons wedi helpu ni hefo hynna. Mae 'na lyfrgell cymunedol yma hefyd, lle mae pobl yn prynu llyfr am bunt neu dod a llyfr i mewn eu hunain a swapio nhw. Mae'r syniadau yn ddiddiwedd!"
Gwrandewch ar rai o griw Menter Perthyn yn siarad ar Dros Frecwast ar Radio Cymru.
Hefyd o ddiddordeb: