Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru yn ymddiswyddo
- Cyhoeddwyd
![Steve Phillips (chwith) a Nigel Walker (dde)](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/16B4D/production/_128450039_cdf_130721_nigelwalker20.jpg)
Fe benodwyd Nigel Walker (dde) fel Cyfarwyddwr Perfformiad URC gan Phillips (chwith) yn 2021.
Mae Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Steve Phillips, wedi ymddiswyddo.
Mae wedi bod dan bwysau ers i ymchwiliad gan raglen BBC Wales Investigates ddatgelu cyfres o honiadau o ragfarn rhyw, hiliaeth a chasineb at ferched o fewn y sefydliad.
Cyn-chwaraewr Cymru, Nigel Walker - y cyfarwyddwr perfformiad presennol - fydd yn camu i'r adwy tra fod URC yn chwilio am Brif Weithredwr newydd.
Cyfaddefodd Walker fod rygbi Cymru yn wynebu "argyfwng dirfodol" ac fod angen i URC wneud yn "lawer gwell".
Galwadau cynyddol
Roedd Phillips, 58, wedi wynebu pwysau am y modd yr ymdriniodd y corff llywodraethu â'r materion a godwyd yn y rhaglen.
Roedd y pedwar rhanbarth wedi cefnogi galwadau gan gyfarwyddwr o Gaerdydd i Phillips a'r bwrdd adael, tra roedd Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru yn dweud eu bod wedi'u "brawychu gan yr honiadau".
![Steve Phillips](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/11D2D/production/_128450037_cdf_140422_cf_wru_media_005.jpg)
Yn wreiddiol roedd Phillips wedi gobeithio parhau yn ei rôl, ond mae bellach wedi gwrando ar y galwadau cynyddol arno i adael.
"Gyda chryn ofid yr wyf wedi penderfynu cyflwyno fy ymddiswyddiad," meddai Phillips.
"Rwyf wastad wedi bod â lles gorau rygbi Cymru wrth wraidd pob gweithred a meddwl, ond wedi dod i'r casgliad ei fod bellach yn bryd i rywun arall arwain y ffordd."
'Diolch am ei ymroddiad'
"Mae hon yn gamp rwy'n ei charu ac yn un sy'n cael ei hedmygu cymaint ledled y byd, a dymunaf bob llwyddiant i bawb sy'n ymwneud â'r gêm a fy nymuniadau gorau," ychwanegodd Phillips.
"Rwyf eisoes wedi dweud cymaint rwy'n difaru'n fawr y teimladau a'r emosiynau a fynegwyd yn ddiweddar gan gyn-aelodau o staff."
Mae ymddiswyddiad prif weithredwr URC yn 'tawelu'r dyfroedd - am y tro', medd y sylwebydd rygbi, Gareth Charles
Pwysleisiodd URC na wnaed unrhyw honiadau yn erbyn Phillips yn rhaglen ddiweddar y BBC ac ni chafodd ei gyhuddo o unrhyw gamwedd.
"Rwy'n diolch i Steve am ei ymroddiad a'i gefnogaeth i rygbi Cymru," meddai Cadeirydd URC, Ieuan Evans.
"Mae wedi gwneud cyfraniad sylweddol i'n cynnydd ar lwyfan y byd, ac yn fwyaf diweddar bu'n allweddol wrth sicrhau bod Warren Gatland yn dychwelyd i'r llyw.
Cyfaddefodd Nigel Walker ei fod yn cymryd y llyw ar adeg gythryblus.
"Does dim dwywaith fod rygbi Cymru yn wynebu argyfwng dirfodol," meddai.
![Nigel Walker](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/261B/production/_128455790_walker_snip.jpg)
"Gwella" yw'n nod nawr, medd Nigel Walker, wedi i'r undeb wneud "llawer o gamgymeriadau"
Mewn cyfweliad pellach nos Sul, dywedodd Mr Walker bod yr honiadau a gafodd eu darlledu ar raglen BBC Wales Investigates yn "ddirdynnol" a bod hygrededd yr undeb "mor isel ag erioed"
Fe fynegodd "edifeirwch" ar ran yr undeb "ac ymddiheuriad i'r gweithwyr hynny a aeth drwy'r hyn y gwnaethon nhw, ac awydd i gael pethau'n iawn"
"Rydym yn cydnabod nad ydyn ni wedi cyrraedd y safonau uchel angenrheidiol," dywedodd ar raglen Scrum V.
"Rydym yn ymddiheuro, rydym yn derbyn ein bod wedi gwneud llawer o gamgymeriadau. Nid ydym nawr yn edrych ar sut allwn ni liniaru'r helynt rydym ynddo.
"Yr hyn rydym am ei wneud nawr yw gwella, a chael rhyw fath o hygrededd yn ôl gan ein bod yn deall bod hwnnw bellach ar ei lefel isaf erioed."
![Ieuan Evans](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/B2AD/production/_128414754_cdf_131222_be_warren_gatland_025.jpg)
Cafodd Ieuan Evans ei benodi'r gadeirydd Undeb Rygbi Cymru yr yr hydref
"Y cam cyntaf i unrhyw adferiad yw cyfaddef y broblem.
"Rhaid i ni nawr wrando'n astud ar yr hyn y mae pobl o'r tu allan i'n sefydliad yn ei ddweud wrthym.
"Rydym yn malio ac yn ymroddedig i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac rydym yn gweithio'n galed yn y maes hwn gydag adnoddau a buddsoddiad ymroddedig.
"Ond mae angen i ni wneud yn well. Mae angen i ni wneud yn llawer gwell ac mi fyddwn ni."
Dywedodd Ieuan Evans, a gymerodd yr awenau yn Nhachwedd 2022, wrth raglen Sunday Supplement Radio Wales ei fod yn aros ymlaen i geisio gyrru newid llywodraethu oddi fewn y sefydliad.
'Dechrau ac nid diwedd y newidiadau strwythurol'
Mae ymddiswyddiad Steve Phillips wedi ei groesawu gan rai ffigyrau gwleidyddol.
Dywedodd Aelod Seneddol Gorllewin Caerdydd, Kevin Brennan, fod y penderfyniad yn "anochel".
Ychwanegodd Mr Brennan, sy'n aelod o'r Pwyllgor Dethol ar Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn San Steffan: "Mae angen arwydd clir o'r ffordd ymlaen oherwydd, ar drothwy'r Chwe Gwlad, fe ddylen ni fod yn sôn am lwyddiant Cymru ar y maes ar bob lefel."
Mae Aelod o'r Senedd Plaid Cymru, Heledd Fychan, hefyd wedi dweud fod sefyllfa Mr Phillips wedi dod yn "annaladwy".
"Rhaid i benodiad Nigel Walker fel Prif Weithredwr dros dro nodi dechrau ac nid diwedd y newidiadau strwythurol a diwylliannol sylweddol sydd eu hangen yn URC," meddai Ms Fychan, llefarydd chwaraeon, diwylliant a rhyngwladol y Blaid.
"Dylai llywodraeth Cymru nawr ystyried a yw'n briodol i URC dderbyn unrhyw arian cyhoeddus pellach hyd nes y bydd y newidiadau hyn yn cael eu gwneud."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2023