Chwaraeon Cymru i gynghori tasglu adolygiad URC

  • Cyhoeddwyd
Ieuan EvansFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ieuan Evans ei benodi'r gadeirydd Undeb Rygbi Cymru yr yr hydref

Bydd y corff Chwaraeon Cymru yn darparu cyngor ynghylch cyfansoddiad a gorchwyl y tasglu fydd yn edrych i honiadau o gasineb at fenywod, rhywiaeth, hiliaeth a homoffobia o fewn Undeb Rygbi Cymru.

Daeth cadeirydd yr undeb, Ieuan Evans a'r Dirprwy Weinidog Chwaraeon, Dawn Bowden i gytundeb ynglŷn â'r ffordd ymlaen mewn cyfarfod ddydd Gwener.

Bydd Mr Evans a Ms Bowden yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Chwaraeon Senedd Cymru wythnos nesaf wedi i raglen BBC Wales Investigates ddarlledu honiadau o ddiwylliant "gwenwynig" o fewn yr undeb.

Ac mewn llythyr agored at Mr Evans ddydd Gwener, mae'r corff sy'n cynrychioli chwaraewyr rygbi proffesiynol Cymru wedi galw am "y camau gweithredu cryfaf posib i sicrhau bod y fath ddigwyddiadau'n cael eu hatal yn y dyfodol".

Mae Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru (WRPA) hefyd yn galw am "dryloywder" ar ddiwedd adolygiad annibynnol i'r honiadau.

Mae pedwar rhanbarth rygbi Cymru eisoes wedi cefnogi e-bost yn galw ar brif weithredwr a bwrdd Undeb Rygbi Cymru i ymddiswyddo neu gael eu diswyddo.

Hyd yn hyn mae'r prif weithredwr, Steve Phillips, wedi gwrthod galwadau i ymddiswyddo ac mae Mr Evans wedi dweud y bydd yn aros yn y swydd tra bod tasglu allanol yn ymchwilio i'r honiadau.

Mae'r undeb hefyd wedi dweud ei fod wedi ymroddi i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac yn cymryd honiadau staff ynghylch ymddygiad, agwedd a ieithwedd o ddifri.

Mae galwadau o sawl cyfeiriad am weithredu ac atebion ers i'r rhaglen nos Lun ddarlledu honiadau difrifol gan gyn-bennaeth rygbi merched yng Nghymru a chyn-gadeirydd Bwrdd Rygbi Proffesiynol Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd un o gyn-benaethiaid rygbi merched yng Nghymru, Charlotte Wathan iddi ystyried ceisio lladd ei hun oherwydd ei phrofiadau wrth weithio i'r undeb

Chwaraeon Cymru - corff sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru - sy'n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgaredd corfforol yng Nghymru.

Roedd prif weithredwr dros dro Chwaraeon Cymru, Brian Davies, prif weithredwr URC Steve Phillips a'r Farwnes Tanni Grey-Thompson yn y cyfarfod gyda Ieuan Evans a Dawn Bowden.

Roedd y cyfarfod yn un "adeiladol" yn ôl pawb oedd yno, medd URC mewn datganiad nos Wener.

Ychwanegodd y datganiad: "Daethpwyd i'r casgliad, er mwyn cynnal annibyniaeth, y bydd Chwaraeon Cymru nawr yn rhoi cyngor ar y broses er mwyn penodi cadeirydd i oruchwylio'r ymchwiliad, pennu'r gorchwyl a phenodi staff allweddol i'w panel."

Dywedodd Mr Evans: "Rydym yn awyddus i symud ymlaen gyda'r ymchwiliad yma gynted â phosib ac rydym yn croesawu'n fawr gyfraniadau pawb oedd yn bresennol heddiw.

"Fe wnaeth y cyfarfod drafod y camau brys nesaf a phenderfynu y bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar ddiwylliant ac ymddygiadau."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hyd yn hyn mae'r Prif Weithredwr, Steve Phillips, wedi gwrthod galwadau i ymddiswyddo

Bydd Ieuan Evans yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Chwaraeon ddydd Iau 2 Chwefror mewn cyfarfod a fydd yn cael ei ddarlledu'n fyw ar senedd.tv.

Dywedodd y pwyllgor eu bod wedi "newid ei amserlen i neilltuo'r cyfarfod nesaf... o ystyried difrifoldeb yr honiadau a wnaed am yr Undeb yr wythnos hon".

Fe ofynnodd y pwyllgor am gyngor cyfreithiol ynghylch ei bwerau ymchwilio mewn cysylltiad â'r undeb yn dilyn yr holl alwadau iddo ymchwilio i'r materion sydd wedi codi.

Dywed y pwyllgor mai "bwriad y cyfarfod yw trafod a deall yn well y cyhuddiadau a ddaeth i'r amlwg yn rhaglen BBC Cymru Wales yr wythnos hon ac archwilio'r tasglu a sefydlwyd gan Undeb Rygbi Cymru mewn ymateb".

Mae Dawn Bowden hefyd wedi cael gwahoddiad "i roi tystiolaeth ynghylch beth mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ei wneud.

Mae'r pwyllgor yn pwysleisio "nad ymchwiliad yw'r cyfarfod... ond yn hytrach cyfle i archwilio'r materion sydd wedi codi a thrafod sut maen nhw'n gweithredu eisoes".

Ychwanegodd y bydd "yn ystyried pa gamau pellach i'w cymryd yn dilyn trafodaethau'r wythnos nesaf".

Mewn ymateb i'r gwahoddiad, dywedodd llefarydd URC: "Rydym yn croesawu'n fawr y cyfle i roi mwy o fanylion ynghylch sut rydym am ymateb i'r her a sicrhau bod URC yn gorff cynhwysol a chroesawgar."

'Annerbyniol'

Mewn datblygiad arall nos Wener, fe gyhoeddodd Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru (WRPA) lythyr agored at Ieuan Evans yn dweud eu bod wedi "arswydo gan yr honiadau diweddar o gasineb at fenywod ac anffafriaeth".

"Mae'r digwyddiadau annerbyniol yma, yn deillio o ddiwylliant sy'n hwyluso'r fath ymddygiad, yn cael effaith ddofn ar unigolion a chymunedau trwy gymdeithas, ac o fewn y gamp ry'n ni'n ei charu.

"Mae'n bryd i URC a'i harweinyddiaeth wir gymryd y cyfrifoldeb am wireddu'r gwerthoedd cynhwysol y mae rygbi'n honni i ymfalchïo ynddynt.

"Rydym yn erfyn ar URC i ymchwilio i'r broses pan godwyd yr honiadau yn wreiddiol ac adolygu'r canlyniadau.

"Rydym hefyd yn gofyn am drylowyder gyda'r holl randdeiliaid a'r cyhoedd ynghylch canlyniad yr adolygiad yr ydym yn deall fydd yn cael ei gynnal i ddiwylliant URC, a pha ddatrysiadau fydd yna o ganlyniad i sicrhau bod y fath ddigwyddiadau yn cael eu hatal yn y dyfodol.

"Yn y pen draw, rydym yn cefnogi'r camau gweithredu cryfaf posib gynted â phosib i fynd i'r afael â'r pryderon eang sydd wedi eu lleisio ar draws y gamp a'r wlad.

"Pe na bai'r camau priodol yn cael eu cymryd, bydd yn danfon neges i ddioddefwyr rhywiaeth, gwraig-gasineb ac unrhyw fath arall o anffafriaeth, nad ydyn nhw'n cael eu gwarchod a'u cefnogi gan yr arweinwyr."