Richard Rees: Fy hoff ganeuon serch
- Cyhoeddwyd

Mae'n Ddiwrnod Santes Dwynwen ac yn esgus i wrando ar ganeuon rhamantaidd unwaith eto. Mae 'na gannoedd o ganeuon serch ac yma mae'r cyflwynydd Richard Rees yn dewis tair o'i hoff rai.
Y darlledwr Richard Rees sy'n dewis ei hoff ganeuon serch ar gyfer dydd Santes Dwynwen.
Meic Stevens, Môr o Gariad
Mae Meic wedi ysgrifennu nifer o ganeuon am gariad ond y gân dwi wedi ei dewis yw Môr o Gariad achos os chi'n sôn am ganeuon rhamantus mae Môr o Gariad yn dweud y cyfan.

Meic Stevens yn perfformio yn ystod Gŵyl Arall
Fflur Dafydd, Y Ferch sy'n Licio'r Gaeaf
Un o'r hoff berfformwyr sy' gen i yw Fflur Dafydd - mae hi'n awdur ac yn ddramodydd ac mae hynny'n dangos yn y ffordd mae'n ysgrifennu ei chaneuon. Y gân dwi wedi ei dewis yw Y Ferch sy'n Licio'r Gaeaf. Mae'n stori am ferch sy'n cerdded drwy'r dre yng nghanol cawod o eira ac yn cyfarfod â rhywun sy'n effeithio ar weddill ei bywyd.
Elin Fflur, Gweddi Cariad
Mae Elin wedi bod yn ysgrifennu a pherfformio ers dros 20 mlynedd bellach ac mae nifer o ganeuon rhamantus ganddi yn ei chasgliad. Y gân dwi fwyaf hoff ohoni yw Gweddi Cariad o'r albym Lleuad Llawn - mae llais Elin yn hollol hudolus.
