Galw am ymchwiliad Senedd i honiadau Undeb Rygbi Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyn-brif weinidog Carwyn Jones wedi galw am ymchwiliad Senedd i honiadau o fwlio a gwahaniaethu ar sail rhyw o fewn Undeb Rygbi Cymru (URC).
Daeth ei sylwadau yn dilyn ymchwiliad gan BBC Cymru i "ddiwylliant gwenwynig" o fewn URC, gyda honiadau fod un gweithiwr gwrywaidd wedi dweud ei fod eisiau "treisio" cyn-bennaeth benywaidd.
Dywedodd Mr Jones fod ffydd pobl yn URC wedi ei ysgwyd "i'w seiliau", ac nad oedd yr undeb wedi bod yn ddigon agored.
"Beth sy'n amlwg i fi yw nad yw hyn yn mynd i fynd bant," meddai. "Mae pobl eisiau gwybod beth ddigwyddodd."
'Enw da wedi sarnu'
Cafodd honiadau difrifol eu gwneud gan gyn-bennaeth rygbi merched yng Nghymru a chyn-gadeirydd Bwrdd Rygbi Proffesiynol Cymru ar raglen BBC Wales Investigates yn gynharach yn yr wythnos.
Yn eu plith, dywedodd un o gyn-benaethiaid rygbi merched yng Nghymru iddi ystyried lladd ei hun oherwydd "diwylliant gwenwynig" o ragfarn rhyw o fewn URC.
Yn ôl Charlotte Wathan, fe ddywedodd cydweithiwr gwrywaidd wrthi ei fod eisiau ei threisio, a hynny o flaen pobl eraill.
Mae dynes arall, oedd yn gweithio i'r undeb, yn dweud iddi baratoi llawlyfr i'w gŵr rhag ofn iddi ladd ei hun.
Dywedodd URC eu bod yn ymroddgar i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Wrth siarad gyda BBC Radio Wales ddydd Mercher, dywedodd Carwyn Jones fod gan y Senedd "y grym i gynnal ymchwiliadau... [a] gwysio tystion i ymddangos mewn ffordd dyw Llywodraeth Cymru ddim".
"Bydd enw da nid yn unig Undeb Rygbi Cymru, ond rygbi'n gyffredinol yng Nghymru, yn parhau i gael ei sarnu os yw pobl ddim yn teimlo fod camau digon cryf wedi eu cymryd," meddai.
Mae cyn-ymgynghorydd ar drais rhyw i Lywodraeth Cymru eisoes wedi galw ar brif weithredwr URC, Steve Phillips i ymddiswyddo.
Fe wnaeth un o brif noddwyr rygbi yng Nghymru, Cymdeithas Adeiladu Principality, hefyd alw am gamau "brys a phendant".
'Beth am y diwylliant ers hynny?'
Mae Mr Jones, wnaeth arwain Llywodraeth Cymru o 2009 i 2018, newydd orffen gwneud cyfres gydag S4C ar hanes y gêm - 'Rygbi Cymru: Y Gêm yn y Gwaed'.
Dywedodd bod angen i URC nawr daflu cymaint o oleuni â phosib ar "beth sy'n mynd i ddigwydd nawr er mwyn sicrhau nad yw'r sefyllfa yma'n codi eto".
"Os yw hynny'n golygu cael pwyllgor Senedd i edrych ar y peth, fi'n meddwl bod hynny'n well i bawb," meddai.
"Beth sy'n amlwg ar hyn o bryd yw bod ffydd pobl yn Undeb Rygbi Cymru wedi cael ei ysgwyd i'w seiliau."
Dywedodd y newyddiadurwr rygbi profiadol, Peter Jackson nad oedd ymddiheuriad Mr Phillips am y "diwylliant rhwng 2017 a 2019" yn mynd yn ddigon pell.
"Beth am y diwylliant rhwng 2020 a 2021?" gofynnodd. "Maen nhw'n siarad am y safonau uchaf posib o ymddygiad personol a phroffesiynol gan eu holl staff.
"Wnaeth neb rhwng 2017 a 2019 feddwl y dylen nhw ddweud wrth rywun, beth am ein gwerthoedd craidd... mae'n warthus."
Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan unrhyw faterion yn y stori yma, mae gan BBC Action Line gysylltiadau i sefydliadau all gynnig cymorth a chyngor.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2023