Ymateb 'annigonol' i achosion TB yn Sir Gâr - adroddiad
- Cyhoeddwyd
Roedd yr ymateb i achosion o TB yn Sir Gaerfyrddin dros gyfnod o ddegawd a mwy yn "annigonol", yn ôl adroddiad annibynnol.
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi "nad yw'r achosion wedi dod i ben eto ac mae'n parhau i achosi pryder".
Mae hynny 13 mlynedd wedi iddyn nhw gael eu hadnabod gyntaf gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn Llwynhendy yn 2010.
Bu farw un ddynes o Lwynhendy - Margaret Pegler - o TB, neu'r diciâu, yn 2018.
Yn ôl yr adroddiad, ni chafodd yr achosion eu "trafod yn ffurfiol ar lefel bwrdd" rhwng y bwrdd iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru tan 2019, er ei bod hi'n bosib i sgyrsiau ddigwydd "ar lefel is".
Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu o ganlyniad i ba mor hir wnaeth yr achosion bara, a faint o bobl gafodd eu heffeithio yn Llwynhendy.
Agwedd 'ddi-hid' ar y dechrau
Cafodd yr adroddiad ei gadeirio gan yr Athro Mike Morgan, cyn-Gyfarwyddwr Clinigol Cenedlaethol Clefyd Anadlol i'r GIG yn Lloegr.
Gwelwyd yr achos cyntaf pan gafodd dynes 71 oed oedd yn gweithio mewn tafarn yn Llwynhendy y clefyd yn 2010.
Mae'r adroddiad yn dweud fod y ddynes yn heintus am gyfnod hir, oherwydd oedi gyda'r diagnosis.
Mae'n ychwanegu bod achosion sy'n gysylltiedig â hynny yn dal i gael eu canfod dros ddegawd yn ddiweddarach.
Fe wnaeth yr adroddiad amcangyfrif fod o leiaf 31 achos o TB gweithredol wedi bod yn gysylltiedig â'r achos cyntaf yn 2010, a dros 300 o achosion o TB cudd.
Ychwanegodd y gallai rheolaeth iechyd cyhoeddus o'r achosion "fod wedi bod yn well" ar y dechrau, gan nodi nifer o fethiannau.
Er mai Bwrdd Iechyd Hywel Dda oedd yn gyfrifol am reoli'r achosion, dywedodd yr adroddiad y dylai Iechyd Cyhoeddus Cymru fod wedi cynnig "mwy o oruchwyliaeth" o'r cychwyn.
Roedd yr agwedd gychwynnol yn "rhy ddi-hid", meddai'r adroddiad, a wnaeth neb sylwi pa mor heintus oedd yr achos cyntaf.
Mae'n dweud nad oedd gweithwyr iechyd cyhoeddus proffesiynol yn meddwl i ddechrau y byddai'r achosion yn mynd "mor ddifrifol ag y gwnaethon nhw".
"Roedd yn amlwg wrth edrych yn ôl bod yr achos cyntaf yn hynod heintus, fel sy'n amlwg o'r gyfradd drosglwyddo cychwynnol uchel (18.6%)," meddai'r adroddiad.
Bu methiannau hefyd gydag olrhain cyswllt, gan ei fod wedi canolbwyntio'n bennaf ar y teulu yn hytrach na chwsmeriaid eraill yn y dafarn.
"O ganlyniad, chafodd pobl oedd wedi'u heintio ddim eu hadnabod, a datblygodd afiechyd actif, gan drosglwyddo'r haint i eraill."
Rheswm arall pam nad oedd yr ymateb cychwynnol yn ddigonol oedd prinder staff o fewn gwasanaethau lleol, a diffyg clinigydd i arwain yr ymateb.
'Risg pellach' o hyd
Doedd "dim gwasanaeth TB clinigol ffurfiol na chydgysylltiedig yn Hywel Dda" pan welwyd yr achosion i ddechrau, meddai'r adroddiad.
Cafodd Dr Llywellyn Jones wedyn ei benodi yn 2014 fel clinigydd arweiniol i oruchwylio'r ymateb i'r achosion.
Ers ei benodi, bu "gwelliant sylweddol yng ngofal cleifion â TB, a'u cysylltiadau", a nodwyd bod Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi dangos "dylanwad cryfach ar ddigwyddiadau" maes o law.
Ond mae'r adroddiad yn rhybuddio bod yr achos cychwynnol "yn parhau i achosi pryder nawr", ac y gallai fod yn gyfrifol am "achosion yn y dyfodol".
Mae'r adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion, gan gynnwys mwy o ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o symptomau TB.
Mae'n dweud bod risg pellach o ragor o achosion a marwolaethau, gan fod oedi cyn cyflwyno symptomau a bod "lefel uchel" o haint TB cudd yn y boblogaeth.
Mae'n ychwanegu y dylai unrhyw achosion yn y dyfodol gael eu goruchwylio gan Iechyd Cyhoeddus Cymru o'r dechrau.
Nododd yr adroddiad hefyd bod y gwasanaeth TB lleol wedi gwella, ond bod ganddo ddiffygion o hyd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mai 2019
- Cyhoeddwyd30 Medi 2021
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2019