'Mor bwysig portreadu rhywun digartref fel fi'
- Cyhoeddwyd
Mae Reece, 19, yn byw ar hyn o bryd yn hostel Gisda - llety i bobl di-gartref yng Nghaernarfon.
"Mae'n refreshing i weld fod pawb yn wahanol, fod pobl yn homeless am wahanol resymau," meddai wrth fodio llyfr newydd sy'n darlunio pobl bregus a'u cynorthwywyr.
Mae'r gyfrol Rhanna Fywyd, sydd newydd ei chyhoeddi, wedi deillio o weithdai celf sy'n cefnogi pobl di-gartref a bregus yng Nghaerdydd - canolfan sy'n cael ei harwain gan Eglwys Gymunedol Glenwood.
Yn y gyfrol ceir portreadau o ugain o bobl gan yr artist Katherine Holmes, a phwt o gerdd gan Phil Ellis yn adrodd ychydig o hanes y bobl.
"Cefais fy hun yn eistedd gyda rhai caeth i gyffuriau, ceiswyr lloches, bridwyr pysgod trofannol, eneidiau coll a breuddwydwyr," meddai Ms Holmes.
"Mae portreadau yn dueddol o gael eu cyfyngu i bobl cyfoethog ond mae'n bwysig portreadu pob unigolyn beth bynnag ei statws neu ei amgylchiadau."
Nid cyfrol i'w gwerthu yw hi ond cyfrol i rannu profiadau ac yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg mae nifer wedi ymateb i'w chynnwys.
'Am wneud rhywbeth 'da bywyd fi'
Mae Reece yn hostel Gisda o'i ddewis ei hun.
"Oedd pethau yn medru bod yn rough yn aml adra' ac roeddwn i'n methu expressio fy hun. Ro'n i methu mynd am dream fi tra oeddwn i adra, so nes i roi iechyd meddwl fi gynta a symud i fama," meddai.
"Dwi wedi cael support Gisda, mae o'n werthfawr uffernol i mi achos dwi angen y support yna a dwi'n cael fy mhwsio i feddwl be dwi eisiau wneud yn bywyd."
Wrth edrych ar y gyfrol dywed bod y gerdd 'Y Llwybr Llai Cyfarwydd' yn sefyll allan iddo achos "mae ganddo fo un peth mae o eisiau ei wneud yn bywyd, ac er bod mor gymaint o stwff yn stopio fo mae o yn dal parhau i trio dim ots be sydd yn digwydd".
"Dwi isio gweithio mewn support work pan dwi'n hynach," ychwanegodd Reece.
"Dwi'n gorfod gweithio at y goal yna, otherwise be ydi'r point? Dwi eisiau gweithio er mwyn cael allan o'r sefyllfa dwi ynddi a gwneud rhywbeth efo bywyd fi."
'Gall ddigwydd i unrhyw un'
Mae gan Phil Ellis yr awdur ambell ffefryn ymhlith y portreadau ond cerdd am digartrefedd athrawes ysgol gynradd cefn gwlad aeth â'i sylw.
"Yn sydyn mae amgylchiadau yn newid a hithau yn cael ei hun yn ddigartref, roedd hynna wedi fy nharo i," meddai.
"Mae o'n gallu digwydd i unrhyw un. Mae nhw yn dweud nad ydach chi ond un neu ddau gam o golli eich tŷ, mae hwnna wedi aros yn fy meddwl i."
"Mae gyda ni ryw fath o arwyddair fel eglwys,' meddai Mr Ellis am Eglwys Glenwood a hynny yw "cymuned ar gyfer eraill".
"Dan ni yn ceisio edrych allan, dyna un o'r pethau mawr sydd wedi dylanwadu arna i, ceisio edrych allan am bobl sydd mewn amgylchiadau anodd iawn."
'Portreadu pobl fregus mor bwysig'
"Mae hon yn gyfrol arbennig iawn," yn ôl Siân Thomas, Prif Weithredwr Gisda, yr elusen sy'n gwasanaethu pobl ifanc digartref yng Ngwynedd.
"Mae hi mor liwgar, mae hi'n denu rhywun ac mae'r cydweithrediad rhwng yr artist a'r awdur yn eitha gwahanol. Mae 'na stori tu ôl i bob llun a ddim yn aml y mae pobl bregus fel hyn yn cael pobl yn tynnu eu llun a phobl yn rhoi amser iddyn nhw.
"Mae'n ddiddorol hefyd fod dau neu dri gweithiwr cefnogol yn cael eu portreadu. Mae'n braf eu bod nhw hefyd yn cael sylw achos mae o'n waith heriol, anodd. Mae'n dda eu bod yn cael cydnabyddiaeth am eu gwaith achos mae'r berthynas maen nhw yn ei feithrin efo pobl yn gallu newid bywyd rhywun."
Dewis y gerdd 'Y Wlad Bell' wnaeth Ms Thomas - cerdd sy'n adrodd hanes swyddog yng nghyngor Caerdydd a fu drwy gyfnod anodd ond sydd bellach wedi cyflawni ei freuddwyd.
Pan welodd Walis George, cyn-brif weithredwr Cymdeithas Tai y gyfrol roedd yn gweld arwyddocâd arbennig i'r cynnwys yn syth.
"Rydan ni i gyd yn gwybod fod na ragfarnau yn bodoli o fewn cymdeithas, a bod unigolyn sydd yn cael ei weld yn cysgu ar y stryd, neu yn aros mewn hostel dros dro yn cael eu gweld fel gwehilion cymdeithas, ac mae hwn yn gam bach ond yn gam pwysig i unioni'r camargraff yna, a dangos fod mwyafrif helaeth y bobl sydd yn y sefyllfa yma yn bobl fel chi a fi.
"Mae stori y Gôl-geidwad yn denu fy sylw yn syth, oherwydd y geiriau cyntaf sef "Llygada fy llun ond meddylia bêl-droed / Nid rhyw hen drempyn pum deg oed".
'Angen gweithredu ar frys'
Mae niferoedd y rhai sydd yn ddigartref wedi codi yn sylweddol yn ôl Siân Thomas a Walis George.
"Be sydd yn wahanol rŵan," yn ôl Walis George, "ydi bod na leihad cyson yn y nifer o dai cymdeithasol sydd ar gael dros ddeugain mlynedd, ers yr hawl i brynu a gyflwynwyd gan Margaret Thatcher.
"Pe byddai'r sylfaen yna o gartrefi ganddo ni, fyddai llawer o'r problemau 'dan ni'n wynebu ar hyn o bryd ddim yn debygol o fodoli.
"Ond yn fwy diweddar 'dan ni wedi gweld llai a llai o dai rhent preifat, landlordiaid yn rhoi gorau i osod oherwydd rheolau newydd y llywodraeth ac yn ein hardaloedd glan môr ni wrth gwrs dan ni i gyd yn ymwybodol o'r symudiad sydd wedi bod i gynnig llety gwyliau oherwydd mae'r arian y gellir ei gynhyrchu yn dipyn uwch."
"Mae angen holi beth yw diben y system dai, ai asedau ariannol yw tai neu gartrefi, mae angen trafodaeth genedlaethol ar y mater.
"Er mwyn sicrhau'r drafodaeth hon mae angen i fudiadau ac eglwysi ymgyrchu am newid. Dwi'n credu os oes gan rywun ddaliadau Cristnogol mae'n rhaid iddyn nhw fyw eu gwerthoedd neu eu crefydd ac yn hynny o beth peidio bod ofn ymgyrchoedd cyhoeddus sydd eisiau newid y drefn. Mae 'na le i'n henwadau crefyddol ni fod yn flaenllaw yn yr ymgyrch.
"Yn yr un ffordd ag y mae angen iddyn nhw weld adeiladau capeli diangen fel asedau cymunedol yn hytrach nag asedau ariannol, ac mae na fudiadau fel Housing Justice sydd yn ceisio cynorthwyo cydweithio rhwng eglwysi a chymdeithasau adeiladu a'u tebyg.
"Rhaid i ni gael ein hysbrydoli fod newid gwleidyddol yn bosib ond mae rhaid gweithredu ar lawr gwlad hefyd."
Mae modd clywed mwy am y gyfrol a'r drafodaeth arBwrw Golwg 29 Ionawr ac yna ar BBC Sounds.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd11 Awst 2022