Argyfwng digartrefedd yn wynebu 'storm berffaith'
- Cyhoeddwyd
"Rwy'n un o'r rhai lwcus, mae rhai sydd ddim yn dod drwyddi," medd Steven Burke yn eistedd yn ei fflat newydd ar gyrion Abertawe.
Ar ôl 20 mlynedd heb gartref sefydlog, mae'r gŵr 36 oed wrth ei fodd i gael lle parhaol i fyw.
Ond ar draws Cymru mae miloedd yn aros am lety addas, wrth i elusennau digartrefedd rybuddio bod y sefyllfa'n wynebu "storm berffaith".
Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn "falch iawn" o'r ymateb i'r argyfwng a'i bod yn buddsoddi i atal digartrefedd.
'Y pethau bach'
"Does dim geiriau i ddisgrifio sut rwy'n teimlo ar hyn o bryd," medd Steven.
Gyda chymorth gan staff a gwirfoddolwyr Cyfiawnder Tai Cymru mae e wedi gallu addurno'r fflat a gosod carped newydd.
"Mae'r ffaith fy mod i'n teimlo mor gyfforddus yma ers cael y carped, y pethau bach...
"Carped yw carped i rai pobl, ond i mi mae'n beth mawr."
'Storm berffaith'
Ar draws Cymru mae miloedd o bobl yn aros am ganlyniad tebyg i Steven.
Yn ôl ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru roedd 8,652 o bobl mewn llety dros dro yng Nghymru ar ddiwedd mis Medi, gyda'r ffigwr wedi bod ar gynnydd ers Awst 2020, dolen allanol.
Yn ôl elusennau mae'r gwir gyfanswm yn agosach at 14,000 pan yn cynnwys ffoaduriaid gan gynnwys pobl sydd wedi ffoi'r rhyfel yn Wcráin.
"Mae gyda ni storm berffaith yng Nghymru ar hyn o bryd," medd Bonnie Williams, cyfarwyddwr Cyfiawnder Tai Cymru wrth raglen Politics Wales BBC Cymru.
"Byddwn i'n dweud ei fod o ganlyniad i sawl ffactor yn dod at ei gilydd ar unwaith - rhai oedd wedi eu cynllunio er enghraifft newid cyfeiriad polisi Llywodraeth Cymru er mwyn rhoi terfyn ar ddigartrefedd, sef y peth cywir i'w wneud.
"Ond mae rhai problemau wedi dod nad oedden ni'n eu disgwyl, er enghraifft Covid a'r sefyllfa yn Affganistan ac wrth gwrs Wcráin.
"Mae'r holl bethau yna gyda'i gilydd yn golygu bod llawer iawn mwy o bobl angen llety fforddiadwy nawr nag y gallen ni fod wedi ei ragweld."
Strategaeth digartrefedd
Mae'r argyfwng costau byw hefyd yn cael effaith ac yn golygu bod "pobl na fyddai erioed wedi dychymgu y byddan nhw'n profi digartrefedd" yn wynebu'r sefyllfa yna.
Ers dechrau'r pandemig mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu strategaeth digartefedd ble does neb yn "cael eu gadael allan".
Mae elusennau tai yn cefnogi'r polisi sydd â'r bwriad o roi terfyn ar ddigartrefedd.
Ond mae'r sector yn rhybuddio bod codi mwy o gartrefi addas yn allweddol i lwyddiant y cynllun.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adeiladu 20,000 o dai cymdeithasol carbon isel cyn yr etholiad nesaf i Senedd Cymru.
Ond fe wnaeth y gweinidog sy'n gyfrifol am y polisi, Julie James, gydnabod yn ddiweddar bod y targed "yn y fantol" oherwydd yr amgylchiadau economaidd presennol.
Mewn cyfweliad â Politics Wales dywedodd Ms James ei bod hi'n "falch iawn" o'r ymateb sydd wedi bod ar draws y sector i'r argyfwng digartrefedd yng Nghymru.
Ychwanegodd bod y llywodraeth wedi buddsoddi £65m yn y "rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro" a fydd yn darparu "1,000 o gartrefi dros y 18 mis nesaf".
"Fydd rheini ddim yn gartrefi parhaol ond byddan nhw o ansawdd uchel a byddant yn ein caniatau ni i gynnig y gwasanaethau y mae pobl eu hangen."
Ystyried gadael
Mae pwysau ar y sector rhentu preifat hefyd wedi dwysau'r broblem o ddiffyg cartrefi.
Mae landlordiaid yn dweud eu bod nhw'n wynebu costau uwch yn sgil yr argyfwng costau byw a deddfwriaeth newydd. , dolen allanol
O ganlyniad mae nifer o landlordiaid yn dweud eu bod yn ystyried gadael y diwydiant neu gynnig llety gwyliau yn lle, medd Steven Bletsoe o'r Gymdeithas Genedlaethol Landlordiaid Preswyl.
"Rydym wedi gweld bod 64% o landlordiaid presennol yn edrych i werthu o leia' un eiddo, felly anghofiwch ble ry'n ni nawr, edrychwch ar ble ry'n ni'n mynd pan mae 64% o'r diwydiant yn edrych i adael," meddai.
Politics Wales, BBC1 Wales 10:00dydd Sul ac ar iPlayer.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd11 Awst 2022