Staff wedi 'taflu deunydd ailgylchu gyda'r sbwriel'

  • Cyhoeddwyd
Ffordd Garth Uchaf ym MangorFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cadarnhaodd Cyngor Gwynedd eu bod yn ymchwilio i'r "digwyddiad ynysig"

Mae Cyngor Gwynedd yn ymchwilio i honiadau fod casglwyr biniau wedi bod yn taflu sbwriel ailgylchadwy i finiau gwastraff cyffredinol.

Dywedodd un o drigolion Bangor ei fod wedi cael sioc o weld gweithwyr y cyngor yn cymysgu'r sbwriel tra'n casglu'r deunydd ailgylchu wythnosol.

Yn ôl Medryn Williams, sy'n byw yn Ffordd Garth Uchaf, cafodd "ei synnu" o weld gweithwyr y cyngor yn "taflu plastig, caniau a phapur ailgylchadwy" i mewn i finiau gwastraff cyffredinol.

Cadarnhaodd Cyngor Gwynedd eu bod yn ymchwilio i'r "digwyddiad ynysig".

'Beth yw'r pwynt?'

"Mae'n ymddangos yn ddibwrpas fy mod i ac eraill yn mynd i'r ymdrech o ddidoli a golchi ein heitemau ailgylchu, yna eu rhoi allan i'w casglu bob wythnos, er mwyn iddyn nhw gael eu cymysgu gyda'r holl sbwriel arall," meddai Mr Williams.

Dywedodd y technegydd bwrdd dŵr iddo weld y casglwyr yn taflu eitemau bocs ailgylchu glas i'r biniau olwynion sbwriel gwyrdd arferol, gan effeithio ar tua 20 o gartrefi.

"Pan ddaeth y cerbyd sbwriel cyffredinol, roedd yn casglu'r eitemau ailgylchu wedi'u cymysgu â sbwriel, popeth mewn un bin.

"Mae'n hollbwysig ein bod ni'n ailgylchu, ond mae hyn wedi gwneud i mi gwestiynu beth ydi'r pwynt?

"Rwy'n treulio fy amser yn ailgylchu, fel y mae trigolion eraill yr ardal, rydym yn rhoi pethau yn y blychau cywir bob wythnos, yna mae'r gweithwyr yn gwneud hyn."

Dywedodd Mr Williams ei fod o a chymdogion eraill wedi sôn am y mater wrth bennaeth adran amgylchedd y cyngor Dafydd Wyn Williams, arweinydd y cyngor Dyfrig Siencyn, a'r prif weithredwr Dafydd Gibbard.

'Sawl ffynhonnell'

Cadarnhaodd ei gynghorydd lleol, Huw Wyn Jones, ei fod wedi'i hysbysu am y cwynion.

"Rwyf wedi clywed yr un stori o sawl ffynhonnell arall ac mae'r cyngor yn ymchwilio i beth ddigwyddodd," meddai.

Dywedodd Cyngor Gwynedd mewn datganiad: "Rydym yn ddiolchgar i holl drigolion Gwynedd sy'n cymryd eu hamser i ddidoli eu gwastraff ac am chwarae eu rhan i sicrhau bod mwy na 65% o wastraff y sir yn cael ei ailgylchu.

"Rydym am roi sicrwydd i bobl bod cymaint o wastraff â phosib sy'n cael ei gasglu o'r blychau glas a'r biniau brown yn cael ei ddefnyddio'n dda."

Pynciau cysylltiedig