Chwe Gwlad: Halfpenny yn dychwelyd i Gymru yn erbyn Iwerddon

  • Cyhoeddwyd
Leigh HalfpennyFfynhonnell y llun, Ben Evans/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Leigh Halfpenny yn ennill ei 98fed cap yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn

Bydd Leigh Halfpenny yn dechrau i Gymru am y tro cyntaf mewn 19 mis ddydd Sadwrn, wrth iddyn nhw herio Iwerddon ar ddechrau eu hymgyrch ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Gyda Warren Gatland yn dewis ei dîm cyntaf ers dychwelyd fel prif hyfforddwr, bydd Joe Hawkins - a enillodd ei gap cyntaf yn yr hydref yn erbyn Awstralia - yn bartner i George North yng nghanol cae.

Mae Dan Biggar yn dychwelyd fel maswr ar ôl methu ymgyrch yr hydref gydag anaf, tra bod Gareth Thomas a Tomas Francis yn ymuno â'r capten Ken Owens yn y rheng flaen.

Cafodd Owens ei gadarnhau fel capten newydd y garfan bythefnos yn ôl, wrth i Gatland enwi pedwar chwaraewr oedd eto i ennill cap dros eu gwlad yn ei garfan gwreiddiol o 37.

Cwpan y Byd ar y gorwel

Alun Wyn Jones ac Adam Beard fydd yn yr ail reng, tra bod Gatland wedi dewis Jac Morgan, Justin Tipuric a Taulupe Faletau yn y rheng ôl.

Bydd Tomos Williams yn dechrau fel mewnwr, tra bod Rio Dyer a Josh Adams ar yr esgyll.

O'r fainc, fe allai Owen Williams a Scott Baldwin wneud eu hymddangosiadau cyntaf dros Gymru ers 2017.

Fe orffennodd Cymru yn bumed yn y bencampwriaeth y llynedd, cyn i ganlyniadau siomedig yn yr hydref olygu diwedd ar gyfnod Wayne Pivac wrth y llyw.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae Gatland nawr yn cymryd yr awenau am yr eildro, a hynny gyda Chwpan y Byd ar y gorwel yn Ffrainc yn yr hydref.

Bydd Cymru oddi cartref yn Yr Alban yn eu hail ornest yn y bencampwriaeth eleni - yna bydd Lloegr yn ymweld â Chaerdydd, cyn i'w twrnament orffen gyda thripiau i'r Eidal a Ffrainc.

Ond maen nhw'n dod i mewn i'r gystadleuaeth eleni gyda chysgod dros Undeb Rygbi Cymru, yn dilyn honiadau o "ddiwylliant gwenwynig" o fewn yr undeb ac ymddiswyddiad y prif weithredwr Steve Phillips yn sgil hynny.

Cymru: Halfpenny; Adams, North, Hawkins, Dyer; Biggar, T Williams; G Thomas, Owens (capt), Francis, Beard, AW Jones, Morgan, Tipuric, Faletau.

Eilyddion: Baldwin, Carre, Lewis, Jenkins, Reffell, Webb, O Williams, Cuthbert.