'Dyfodol Undeb Rygbi Cymru yn y fantol' heb newidiadau

  • Cyhoeddwyd
Ieuan Evans a Nigel WalkerFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bu'r cadeirydd Ieuan Evans a'r prif weithredwr dros dro Nigel Walker yn wynebu'r wasg ddydd Llun

Mae prif weithredwr dros dro Undeb Rygbi Cymru (URC) yn dweud fod dyfodol y sefydliad yn y fantol os na fydd newidiadau'n cael eu gwneud.

Mae URC wedi cael wythnos dymhestlog wedi i honiadau o rywiaeth a chasineb at fenywod gael eu gwneud ar raglen BBC Wales Investigates.

Fe wnaeth Steve Phillips ymddiswyddo fel prif weithredwr ddydd Sul yn dilyn galwadau arno i adael gan y rhanbarthau a gwleidyddion.

Cyn hyn roedd wedi mynnu mai ef oedd y person cywir i arwain URC, ac roedd y cadeirydd Ieuan Evans wedi ei gefnogi.

Nigel Walker sydd wedi ei benodi fel prif weithredwr dros dro yn sgil ymadawiad Phillips, a bu'n siarad mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Llun.

Disgrifiad,

Ieuan Evans: "Torcalonnus" i glywed honiadau am Undeb Rygbi Cymru

Dywedodd Mr Walker, oedd yn gyfarwyddwr perfformiad yr undeb cyn cael ei rôl newydd, fod y sefydliad mewn cyfnod argyfyngus.

"Os nad ydyn ni'n barod i newid dyfodol rygbi Cymru, mae Undeb Rygbi Cymru mewn perygl," meddai.

"Mae angen i ni adfer ein hygrededd, a phobl o du allan i'r sefydliad fydd yn dweud wrthym ni pan ry'n ni wedi llwyddo i wneud hynny.

"Rwy'n siŵr pe bydden ni'n gofyn i'n rhanddeiliaid nawr beth maen nhw'n feddwl ohonom ni, byddai'r sgôr yn isel.

"Y prawf fydd mewn 12 mis neu ddwy flynedd. Os ydych chi'n gofyn yr un cwestiwn, pa atebion fyddwn ni'n eu cael? Bydden ni'n gobeithio gweld y graff yn mynd am i fyny."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Steve Phillips ymddiswyddo fel prif weithredwr ddydd Sul

Bydd tasglu allanol yn cael ei sefydlu er mwyn edrych ar bob agwedd o'r undeb.

Bydd Chwaraeon Cymru yn rhoi cyngor am bwy ddylai fod yn rhan ohono, a beth yn union y byddan nhw'n edrych arno.

Mae cadeirydd URC, Ieuan Evans a dirprwy weinidog chwaraeon Llywodraeth Cymru, Dawn Bowden wedi cytuno i hyn.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

"Os nad ydyn ni'n barod i newid, mae Undeb Rygbi Cymru mewn perygl," meddai Nigel Walker

Dywedodd Mr Walker mai ei obaith ef yw y bydd modd canolbwyntio ar rai agweddau yn syth, cyn ehangu i edrych ar y sefydliad yn ehangach.

"Dy'n ni ddim eisiau bod yn eistedd yma mewn tri i bum mis yn dal i ddisgwyl i'r tasglu adrodd am ei fod yn edrych ar bethau mor eang," meddai.

"Ry'n ni eisiau cael yr argymhellion cyn gynted â phosib, bod yn addas i bwrpas, ac mae angen i ni weithredu'r newidiadau sydd eu hangen.

"Mae angen i ni newid, ac ry'n ni eisiau dechrau'r rhaglen yna o newid cyn gynted â phosib."

Modd ailagor yr ymchwiliad

Yn y rhaglen BBC Wales Investigates codwyd pryderon am ddiwylliant "gwenwynig" o fewn URC, gyda phrofiadau cyn-bennaeth rygbi merched Cymru yn peri'r gofid mwyaf.

Dywedodd Charlotte Wathan fod cydweithiwr gwrywaidd - sy'n dal yn URC - wedi gwneud jôc o flaen cydweithwyr eraill am y ffaith ei fod eisiau ei "threisio" hi.

Mae URC yn dweud y bu ymchwiliad i'r honiad hwnnw ac na chafodd ei brofi, ac nad yw'n gallu gwneud sylw pellach ar y mater oherwydd "setliad cyfreithiol".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd URC na chafodd honiad Charlotte Wathan am gydweithiwr gwrywaidd ei brofi

Dywedodd Mr Walker ddydd Llun fod "cwmni cyfreithiol adnabyddus, un o'r mwyaf yng Nghymru" wedi ymchwilio i'r honiad.

Ond ychwanegodd y byddai modd ailagor yr ymchwiliad pe bai'r tasglu yn penderfynu gwneud hynny.

Adroddiad damniol i weld golau dydd?

Dywedodd `Mr Phillips yr wythnos ddiwethaf y byddai adroddiad damniol o 2021 am gêm y merched yng Nghymru yn cael ei wneud yn gyhoeddus, yn dilyn beirniadaeth ei fod wedi aros yn fewnol hyd yma.

Fe ymunodd Mr Walker â'r undeb wedi i'r adroddiad hwnnw gael ei gwblhau, ac ers hynny mae wedi gwneud newidiadau mawr i gêm y merched yng Nghymru, gan gynnwys cyflwyno cytundebau proffesiynol am y tro cyntaf.

Dywedodd y byddai'r tasglu yn cael yr adroddiad llawn, a'i fod yn disgwyl "y byddwn ni'n cyrraedd safle ble bydd yr adroddiad yn cael ei wneud yn gyhoeddus".

Ychwanegodd Mr Walker fod rygbi merched wedi cymryd "camau enfawr" ymlaen yn yr amser byr ers yr adroddiad.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cadeirydd Ieuan Evans wedi wynebu beirniadaeth am gefnogi Phillips yn gyhoeddus cyn ei ymddiswyddiad

Dim ond ers yr hydref mae Ieuan Evans wedi bod yn gadeirydd URC, ond yn sgil yr honiadau, a'r ffaith ei fod wedi cefnogi Phillips yn gyhoeddus cyn ei ymddiswyddiad, mae cwestiynau wedi'u codi am ei ddyfodol yntau hefyd.

Dywedodd yn y gynhadledd ddydd Llun fod "nawr yn gyfle i symud ymlaen, sefydlu diwylliant, cael cyfeiriad ac arweinyddiaeth newydd".

"Rydyn ni wedi cyrraedd pwynt o argyfwng yma. Mae angen i ni dawelu meddyliau a rhoi hyder i bobl fod gennym y gallu i ddod trwy hyn fel sefydliad cryfach," meddai.

"Rwy'n benderfynol o arwain newid, ac fe fydda i'n flaenllaw wrth wneud hynny."

Clybiau Cymru fydd yn penderfynu

Mae Mr Evans yn ymgyrchu i gael cadeirydd annibynnol ar URC, fyddai'n cymryd ei le ef.

Bydd yn rhaid iddo berswadio clybiau Cymru o'r angen am y newid yma mewn cyfarfod cyffredinol arbennig fis Mawrth, wedi i'r cais gael ei wrthod yn 2022.

Fe allai'r cyfarfod arwain at newidiadau mwy fyth yn system lywodraethu URC, yn ddibynnol ar beth mae'r tasglu yn ei awgrymu, ac os fydd unrhyw adroddiadau wedi dod i'r amlwg erbyn hynny.

Mae aelodaeth bwrdd URC wedi wynebu beirniadaeth am ddiffyg amrywiaeth a phrofiad busnes proffesiynol.

Ond undeb o glybiau ydy URC, ac fe fyddai'n rhaid i'r clybiau bleidleisio o blaid gwneud y newidiadau.