Ysgolion ar gau wrth i athrawon streicio dros dâl ac amodau
- Cyhoeddwyd
Mae athrawon sy'n streicio yn dweud fod pwysau gwaith a chostau byw yn gorfodi nifer i adael gyrfa sy'n golygu cymaint iddyn nhw.
Bydd Tomi Rowlands yn gadael ei swydd yn Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth fis Ebrill, er y bu hynny'n "benderfyniad anodd".
Mae'n un o filoedd o aelodau undeb yr NEU sy'n streicio ddydd Mercher dros dâl a chyllido ysgolion.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod tua 40% o ysgolion Cymru ar gau oherwydd y streicio, gyda'r gweddill ar agor yn llawn neu'n rhannol.
Ychwanegodd y llywodraeth y bydd trafodaethau "adeiladol" gyda'r undebau yn parhau er mwyn ceisio datrys yr anghydfod.
Mae Tomi a'i deulu yn byw yn y canolbarth ac eisiau prynu tŷ mwy yn yr ardal.
"Dwi'n treial prynu tŷ yn yr ardal 'ma, ac yn anffodus dwi methu fforddio fe achos ar hyn o bryd mae costau byw 'di mynd i fyny ond dyw cyflog ni heb," meddai.
Fe ddechreuodd ddysgu 13 mlynedd yn ôl, a dywedodd ei fod yn anodd bryd hynny i fforddio'r rhent a phrynu tŷ yn yr ardal, ond erbyn hyn mae pethau wedi gwaethygu.
Yn ôl Tomi "mae 'na argyfwng mawr" yn wynebu'r proffesiwn.
"'Da ni efo rhai pobl - staff cymorth mewn ysgolion - sydd methu fforddio byw achos mae eu cyflogau nhw mor fach yn barod, a wedyn 'da chi'n rhoi costau byw i fewn.
"Be sy'n digwydd wedyn ydy maen nhw'n mynd i'r foodbanks achos maen nhw methu fforddio byw."
Gweithio '70, 80 awr yr wythnos'
Mae'n dweud fod yr oriau hir yr oedd yn gweithio wedi cael effaith ar ei les ef a'i deulu.
"Un o'r pethau mwyaf anodd am ddysgu yw eich bod chi'n gwario lot o amser a 'da chi byth yn gallu dweud na," meddai.
"Heb edrych ar y cloc, 'da chi 'di 'neud 70, 80 awr mewn wythnos, ond y broblem ydy ma' hwnna'n llai o amser i chi efo'r teulu adre'."
Mae Tomi'n dweud hefyd ei fod yn streicio oherwydd y sefyllfa o ran cyllido ysgolion a phroblemau recriwtio a chadw staff, gydag "un ymhob tri yn gadael y proffesiwn o fewn pum mlynedd, ac mae'r realiti yn mynd i fynd lot, lot gwaeth".
Bydd cannoedd o ysgolion yng Nghymru ar gau ddydd Mercher o ganlyniad i bedwar diwrnod o streicio.
Mae disgwyl i draean o'r 1,500 o ysgolion yng Nghymru fod ar gau yn llawn, tra bod cannoedd o ysgolion eraill wedi dweud wrth ddosbarthiadau penodol i aros adre'.
Daw hynny wrth i ymchwil annibynnol gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS) ganfod bod athrawon yng Nghymru wedi gweld eu cyflogau'n gostwng 5% mewn termau real yn 2022.
Ers 2010, medden nhw, mae'r athrawon mwyaf profiadol wedi gweld toriad o 12% i'w cyflogau mewn termau real - ychydig yn llai na'r 13% a welwyd yn Lloegr.
Daw hynny o ganlyniad i'r ffaith bod chwyddiant - sef y newid mewn prisiau nwyddau dydd-i-ddydd - wedi cynyddu'n gynt na chyflogau, sy'n golygu nad yw arian pobl yn mynd mor bell ag yr oedd yn arfer gwneud.
Mae'r cynghorau yn dal i ddiweddaru manylion y streiciau ar eu gwefannau, ac yno y bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar gael.
Athrawon a staff cynorthwyol undeb yr NEU sy'n streicio, tra bydd aelodau'r NAHT - sy'n cynrychioli nifer o brifathrawon cynradd - hefyd yn gweithredu'n ddiwydiannol drwy ganolbwyntio ar eu dyletswyddau craidd yn unig.
Ar draws Cymru mae penaethiaid wedi gorfod gwneud penderfyniadau ynglŷn â chadw ysgolion ar agor ai peidio.
Roedd Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd wedi cyfyngu gwersi i ddisgyblion blynyddoedd 7, 11 a'r Chweched Dosbarth.
"Felly rhoi blaenoriaeth i'r plant ieuengaf ynghyd â'r plant sy'n sefyll arholiadau'r haf hwn," oedd y dewis meddai pennaeth yr ysgol Matthew Evans.
"Mae wedi bod yn heriol ond y gwirionedd yw, dwi'n credu bod staff eisiau cydweithio a hefyd bod staff sydd ddim yn gweithredu yn ddiwydiannol yn frwd iawn i barhau efo'u gwaith yn enwedig efo dosbarthiadau arholiad."
Yn Ysgol Aberconwy, er bod yr undeb wedi gadael iddyn nhw wybod faint o staff oedd yn mynd i fod i ffwrdd ar y diwrnod, doedden nhw ddim yn gwybod pwy fyddai i ffwrdd.
Felly ar ôl gwneud asesiad risg, fe benderfynon nhw ofyn i flynyddoedd 7, 8 a 9 aros adref.
"Dwi'n meddwl mai'r peth anoddaf yw 'dan ni ddim yn gwybod yn iawn be' sy'n digwydd," meddai'r pennaeth cynorthwyol Medwen Brookes.
"Mae'n anodd trefnu o flaen amser a 'dan ni'n gorfod 'neud yn siŵr bod yr ysgol yn ddiogel ar gyfer disgyblion a bod y disgyblion sydd adra yn OK hefyd.
"Er enghraifft, 'dan ni'n trefnu rhoi bwyd i blant sy'n cael cinio am ddim a phethau felly.
"Mae pethau felly yn gorfod cael eu trefnu o flaen amser ond 'dan ni ddim yn siŵr iawn o ran rhifau a phethau felly - mae 'na lot o gymhlethdodau."
Mae aelodau yr NAHT - undeb sy'n cynrychioli penaethiaid - hefyd wedi bod yn gweithredu'n ddiwydiannol ond nid ydynt ar streic.
Dywed yr undeb fod rhai cynghorau sir yng Nghymru wedi bygwth peidio â thalu cyflogau hyd yn oed i athrawon sydd ddim ar streic oherwydd y gweithredu ddydd Mercher.
Cyfaddawd?
Mae'r gweithredu gan aelodau'r NAHT yn cynnwys peidio â rhoi gwybod i'r cynghorau sir pa athrawon sydd ar streic.
Mae rhai penaethiaid, meddai'r undeb, wedi clywed y bydd pob aelod o staff yn colli rhan o'u cyflog.
Dywed Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru - y corff sy'n cynrychioli cynghorau sir - eu bod yn cydweithio gyda'r undeb, yr awdurdodau lleol ynghyd â Llywodraeth Cymru i geisio dod i gytundeb.
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd swyddog polisi undeb yr NEU, Stuart Williams, bod 'na le i gyfaddawdu wrth drafod codiad cyflog gyda Llywodraeth Cymru.
"'Dan ni wedi gofyn am godiad uwchlaw chwyddiant - maen nhw wedi cynnig 5%. Felly mi fydd 'na gyfaddawd wrth gwrs - mae 'na wastad gyfaddawd," meddai.
"Ac os fasa nhw'n ei gynyddu o ddau neu dri y cant, mae'n bosib iawn bydd hynny yn osgoi y streiciau nesa'.
"'Dan ni ddim yn gwybod a fydd hynny yn ddigon wrth gwrs.
"Unrhyw godiad cyflog sy'n cael ei gynnig 'dan ni yn ei roi gerbron yr aelodau - nid yr undeb sy'n penderfynu ond yr aelodau."
'Gwneud popeth allwn ni'
Yn ôl Llywodraeth Cymru, dy'n nhw ddim yn gallu cyllido mwy na'r 5% o gynnydd sydd ar hyn o bryd mewn lle ar gyfer tâl athrawon, ac mae'r undebau yn dweud nad yw'r cynnig o daliad untro yn ddigon.
Wrth sôn am y trafodaethau gydag undebau ynghylch cyflogau ar raglen Dros Frecwast, dywedodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles fod y cyd-destun ariannol yn "heriol tu hwnt".
Dywedodd fod trafodaethau pellach yn parhau yr wythnos hon i geisio "dod o hyd i ddatrysiad".
"'Wy mo'yn rhoi sicrwydd i ddisgyblion a rhieni ein bod ni'n gwneud popeth allwn ni i geisio datrys hyn," meddai Mr Miles.
"Mae trafodaethau wedi bod yn adeiladol ond wrth gwrs, dy'n nhw ddim wedi cyrraedd cytundeb felly ma' nhw'n parhau ar hyn o bryd.
"Ni eisoes wedi cynnig tâl ychwanegol ar gyfer eleni ond ni wrthi'n esbonio'n fanwl i'n partneriaid pam fod hi mor heriol i wneud hynny flwyddyn ar ôl blwyddyn.
"Ni hefyd yn trafod beth allwn ni wneud o ran pwysau gwaith, o ran amodau."
Mewn sylwadau pellach i Newyddion S4C, dywedodd Mr Miles nad oedd yn credu y byddai awdurdodau lleol yn gwrthod talu staff oedd heb streicio, yn dilyn penderfyniad aelodau yr NAHT i beidio dweud wrth awdurdodau lleol pa staff oedd wedi streicio.
"Dwi'n credu mae'n bosib datrys hyn," meddai.
"Ond dyw ysgolion ddim yn gyfarwydd â gweithredu diwydiannol felly rwy'n siŵr bod cwestiynau ymarferol mae'n rhaid gweithio drwyddyn nhw i sicrhau bod hynny ddim yn digwydd.
"Ac mae angen wrth gwrs i'r undebau a'r awdurdodau lleol gydweithio yn yr ysbryd hwnnw o bartneriaeth gymdeithasol."
Trafodaethau 'positif'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "deall cryfder y teimladau o fewn y proffesiwn dysgu".
Ychwanegodd fod trafodaethau pellach yn parhau yr wythnos hon i geisio "dod o hyd i ddatrysiad".
Yn ddiweddarach dydd Mercher dywedodd David Evans o NEU Cymru eu bod wedi cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a'u bod wedi bod yn rhai positif.
"Mae'r ffaith eu bod nawr yn rhoi amserlen ar gyfer y cyfarfodydd hyn yn hynod bositif a dwi'n gobeithio y byddant yn gallu dod o hyd i gynnig sy'n dderbyniol i ni."
Dywedodd Llywodraeth y DU mai cyfrifoldeb gweinidogion yng Nghymru ydy ariannu gwasanaethau cyhoeddus, a'u bod wedi addo mwy o gyllid nag erioed i Lywodraeth Cymru dros y tair blynedd nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2023