Dyn Gwyrdd: Llywodraeth ar 'frys osgoadwy' i brynu fferm
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru weithredu gyda "brys osgoadwy" wrth brynu fferm ym Mhowys ar gyfer defnydd Gŵyl y Dyn Gwyrdd, yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Mewn adolygiad i'r penderfyniad i brynu Fferm Gilestone am £4.25m, dywedodd Adrian Crompton mai defnyddio arian oedd dros ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol oedd "y ffactor mwyaf arwyddocaol a gyfrannodd at gyflymder proses benderfynu Llywodraeth Cymru".
Dywedodd Mr Crompton nad yw cyflymder y pryniant yn "tanseilio cywirdeb gweithdrefnol y penderfyniad hwnnw'n sylfaenol", ond yn ei farn ef ni fyddai'r llywodraeth wedi prynu'r fferm pe na bai'r Dyn Gwyrdd wedi cysylltu â nhw gyda "dim llawer mwy nag amlinelliad lefel-uchel o ddyheadau Gŵyl y Dyn Gwyrdd".
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod yr adolygiad yn ei gwneud yn glir fod y pryniant wedi dilyn y prosesau cywir, ei fod yn rhoi gwerth am arian a'i fod yn cyd-fynd ag uchelgeisiau economaidd y llywodraeth.
Mae gweinidogion wedi dweud yn y gorffennol y gallai prynu'r fferm helpu sicrhau dyfodol yr ŵyl gerddoriaeth annibynnol yng Nghymru.
Mewn llythyr i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd, ysgrifennodd Mr Crompton: "Gyda mwy o amser gallai Llywodraeth Cymru wedi cynnal diwydrwydd dyladwy cyn gwneud unrhyw benderfyniad.
"Trwy brynu Fferm Gilestone pan wnaeth hynny, derbyniodd Llywodraeth Cymru risg ariannol osgoadwy, er ei bod yn un fach y gellid ei rheoli ym marn swyddogion a bwysleisiodd hynny wrthym ni.
"Ac, yn ein barn ni, pe bai Llywodraeth Cymru wedi cwblhau'r broses o ystyried cynlluniau Gŵyl y Dyn Gwyrdd cyn gwneud unrhyw benderfyniad ynglŷn â phrynu'r Fferm neu beidio, gallai'r modd y cyfleodd Llywodraeth Cymru ei gweithredodd yn allanol fod wedi bod yn fwy eglur wedyn hefyd."
Mae'n nodi hefyd na wnaeth swyddogion gadw cofnod o "faterion a drafodwyd gyda Gŵyl y Dyn Gwyrdd mewn amryw gyfarfodydd rhithwir wrth iddi ystyried yr amlinelliad o gynllun busnes Gŵyl y Dyn Gwyrdd a'r broses a arweiniodd at gaffael Fferm Gilestone".
Dywed Mr Crompton y byddai nodiadau o'r trafodaethau hynny "wedi ategu'r trywydd archwilio ar gyfer proses benderfynu Llywodraeth Cymru yn well".
Ychwanegodd, trwy brynu'r safle yn y fath ffordd, "mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn risgiau ariannol na fyddent wedi codi pe bai wedi oedi cyn gwneud penderfyniad terfynol ynglŷn â phrynu tan ar ôl iddi orffen rhoi ystyriaeth lawn i gynlluniau Gŵyl y Dyn Gwyrdd, ac addasrwydd Fferm Gilestone ar gyfer defnyddiau bwriadedig yn y dyfodol".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "croesawu'r adolygiad".
"Mae'n amlwg o'r adolygiad fod pryniant Fferm Gilestone wedi dilyn y prosesau priodol, yn dangos gwerth am arian ac yn cyd-fynd yn amlwg gyda'n huchelgeisiau economaidd," meddai.
"Mae'r gwaith diwydrwydd dyladwy ar gynllun busnes manwl a chynhwysfawr y Dyn Gwyrdd yn parhau, a bydd yn dod i ben yn yr wythnosau nesaf.
"Ni fydd penderfyniad terfynol ar ddyfodol Fferm Gilestone yn cael ei wneud tan i'r broses diwydrwydd dyladwy gael ei chwblhau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd19 Awst 2022
- Cyhoeddwyd19 Mai 2022