Dyn Gwyrdd: Pryderon am ddigwyddiadau ar safle fferm
- Cyhoeddwyd
Mae pryder y bydd perchnogion Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn cynnal digwyddiadau mawr ar Fferm Gilestone, eiddo sy'n berchen i Lywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth gynghorwyr cymunedol lleol bod cynlluniau i gynnal hyd at dri digwyddiad y flwyddyn ar gyfer hyd at 3,000 o bobl ar y safle, ond gan bwysleisio nad ydynt yn bwriadu ei droi yn safle ar gyfer gŵyl gerddorol arall.
Mae 'na feirniadaeth o'r llywodraeth am brynu Fferm Gilestone am £4.25m, gyda'r nod o'i rentu i'r Dyn Gwyrdd, cyn i'r cwmni ddarparu cynllun busnes llawn.
Mae 'na bryder yn lleol ynglŷn â'r cynlluniau, ac fe gafodd rhain eu codi mewn cyfarfod rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Cymuned Tal-y-bont ar Wysg ar 17 Tachwedd.
'Ecoleg a'r amgylchedd'
Yn ôl munudau'r cyfarfod "dywedodd gweithgor y Cyngor Cymunedol mai'r broblem sylfaenol oedd y pryder ynglŷn â digwyddiadau mawr a'r effaith ar yr ecoleg a'r amgylchedd".
Dywedodd cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru yn y cyfarfod "na fydden nhw'n caniatáu i'r penderfyniadau effeithio ar y safle mewn ffordd negyddol".
Ond mae Phil Darbyshire o grŵp Cadwraeth Dyffryn Gwy yn dweud nad oes yna "unrhyw dryloywder wedi bod o'r dechrau i'r diwedd," a'i fod yn poeni am effaith digwyddiadau mawr yno ar yr amgylchedd.
Roedd Mr Derbyshire yn rhan o'r cyfarfod a dywedodd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi sicrwydd iddyn nhw mai "nid dim ond pwynt cychwynnol" oedd y tri digwyddiad y flwyddyn.
Mae'n poeni y bydd y cwmni "yn gwthio'r ffiniau mor bell ag y gallen nhw am resymau masnachol".
"Dyw'r syniad o 3,000 yn crwydro'r ardal ddim yn ddeniadol iawn", meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedd unrhyw benderfyniad terfynol wedi'i wneud ynglŷn â dyfodol y fferm.
Ond ychwanegodd bod "gan Fferm Gilestone hanes o gynnal dau ddigwyddiad yn flynyddol gyda chapasiti o 1,500 - yn ogystal â nifer o ddigwyddiadau llai".
"Bydd unrhyw ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal yn destun craffu ac angen caniatâd y cyrff perthnasol.
"Roedd y cyfarfod diweddar rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Cymuned Tal-y-bont a Brynbuga yn gadarnhaol ac edrychwn ymlaen at barhau gyda'r trafodaethau."
Mae BBC Cymru yn deall bod Llywodraeth Cymru yn disgwyl gwneud penderfyniad ar gynllun busnes y Dyn Gwyrdd ar gyfer y safle cyn y Nadolig.
Bydd Fferm Gilestone yn parhau i gael ei redeg fel fferm, ond mae hefyd yn cynnwys 240 erw o dir, safle glampio bach a ffermdy sydd wedi cael ei osod i dwristiaid yn y gorffennol.
Ond mae cynlluniau hefyd ar gyfer bragdy a siop fara ar y safle, yn ddibynnol ar gael yr hawliau cynllunio a thrwyddedau perthnasol.
Diffyg tryloywder?
Dywedodd llefarydd ar ran y Dyn Gwyrdd bod Llywodraeth Cymru yn mynd trwy'r cynllun busnes ar hyn o bryd ac "nad oes penderfyniad terfynol wedi'i wneud ynglŷn â Fferm Gilestone, felly byddai'n anaddas i ni wneud unrhyw sylw".
Ond yn y gorffennol mae Fiona Stewart, perchennog y Dyn Gwyrdd, wedi dweud mai un o'r atyniadau i'w busnes hi oedd bod y fferm eisoes yn cael ei ddefnyddio ar gyfer twristiaeth a digwyddiadau.
Dywedodd "ei fod yn gwneud synnwyr i adeiladau ar hynny" tra hefyd yn ei gadw fel fferm.
Cafodd Llywodraeth Cymru eu cyhuddo o ddiffyg tryloywder pan brynwyd y fferm ac ynglŷn â'i ddefnydd yn y dyfodol.
Mae Aelod Ceidwadol y Senedd dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, James Evans, yn dweud ei fod "yn poeni yn fawr" am y diffyg tryloywder.
"Yn ddiweddar dywedodd y Gweinidog Lesley Griffiths wrtha'i eu bod yn ystyried gwerthu'r safle a nawr mae gweinidogion Llafur yn dweud y bydden nhw'n cynnal nifer o ddigwyddiadau ar gyfer miloedd o bobl.
"Does 'na ddim byd ynglŷn â'r broses yma sy'n gwneud synnwyr, a 'da ni angen goleuni ar y sefyllfa yma ar frys gan ei fod yn teimlo eu bod yn gwneud pethau i fyny wrth fynd ymlaen."
'Pwrpas ddim yn glir'
Dywedodd llefarydd materion gwledig Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor nad ydy wedi bod yn glir "beth yw pwrpas na bwriad y pryniant".
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod wedi bod mewn trafodaethau gyda Dyn Gwyrdd am nifer o flynyddoedd ynglŷn â'r posibilrwydd o gefnogi a thyfu'r brand yng Nghymru.
Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn un o'r pum gŵyl annibynnol fawr sy'n cael eu cynnal tu allan yn flynyddol yn y DU.
Ers 20 mlynedd, mae wedi ei chynnal ar stad Glanwysg ym Mhowys.
Y disgwyl yw y bydd yn parhau ar y safle yna, ac na fydd yn symud i Fferm Gilestone.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd26 Mai 2022
- Cyhoeddwyd19 Mai 2022
- Cyhoeddwyd19 Awst 2021