Cymru v Iwerddon: Rhybudd i gefnogwyr baratoi eu taith
- Cyhoeddwyd

Roedd cannoedd o filoedd o bobl yng nghanol Caerdydd ar gyfer gemau rhyngwladol yr hydref yn 2022
Gyda disgwyl i tua 90,000 o gefnogwyr gyrraedd Caerdydd ar gyfer gêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, mae 'na rybudd i bobl gynllunio eu taith ymlaen llaw.
Bydd ffyrdd yng nghanol Caerdydd yn cael eu cau ddydd Sadwrn wrth i Gymru herio Iwerddon am 14:15.
Yn dilyn streic gan rai o weithwyr cwmni trenau Great Western Railway (GWR) ddydd Gwener, mae disgwyl i 60 o drenau deithio i mewn ac allan o'r brifddinas ar gyfer y gêm ddydd Sadwrn.

Mae disgwyl i dros 74 mil o gefnogwyr fod yn Stadiwm Principality ar gyfer y gêm rhwng Cymru ac Iwerddon
Bydd nifer o fysiau hefyd yn cludo cefnogwyr o wahanol rannau o Gymru.
Mae Stadiwm Principality wedi gwerthu tua 74,000 o docynnau, gyda disgwyl hefyd i filoedd yn rhagor o gefnogwyr fod yn nhafarndai Caerdydd i wylio'r gêm.
Hon fydd gêm gyntaf Warren Gatland wrth y llyw ers iddo ddychwelyd fel hyfforddwr tîm rygbi Cymru am yr eildro.
Bydd y gêm yn cael ei chwarae hefyd ar ddiwedd wythnos pan mae Undeb Rygbi Cymru wedi cael ei ysgwyd i'w seiliau gan , dolen allanol, ac fe ddaeth penderfyniad i wahardd corau sy'n perfformio yng ngemau Cymru yn Stadiwm Principality rhag canu'r gân Delilah.
Cau ffyrdd
Bydd ffyrdd yng nghanol Caerdydd, dolen allanol ynghau rhwng 10:15 a 18:15 ddydd Sadwrn.
Mae disgwyl i'r M4 fod yn brysur iawn hefyd, ac mae Cyngor Caerdydd yn cynghori pobl i ddefnyddio'r gwasanaeth parcio a theithio yn Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd.
Trenau
Yn ôl Trafnidiaeth Cymru mae disgwyl i dros 25,000 o gefnogwyr rygbi deithio i mewn ac allan o Gaerdydd ar drenau ddydd Sadwrn, gan ategu'r angen i bobl gynllunio eu siwrne ymlaen llaw.
Bydd Trafnidiaeth Cymru hefyd yn rhedeg bysiau o Lanelli, Y Fenni, Cwmbrân, Caerffili a Phontypridd i gyd-fynd â'r amserlen drenau, dolen allanol.

Mae cwmni GWR yn rhedeg rhagor o drenau yn dilyn y streic ddydd Gwener
Gyda streic aelodau undeb Aslef yn effeithio ar wasanaethau GWR ddydd gwener, bydd dros 60 o drenau yn rhedeg ddydd Sadwrn, gan ddarparu tua 30,000 o seddi i deithwyr.
Yn ôl y cwmni bydd 38 o drenau yn cyrraedd canol Caerdydd cyn y gic cyntaf, gyda 23 o drenau yn cludo cefnogwyr gartref ar ôl y gêm - gyda gwasanaethau i Gasnewydd, Llundain a Swindon.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Gwasanaethau Cwsmer GWR, Richard Rowland: "Fe hoffem ni atgoffa cefnogwyr y bydd y trenau yn brysur iawn yn y cyfnodau cyn ac ar ôl y gêm."
"Rydym yn annog cwsmeriaid i wirio amseroedd teithiau a chaniatáu digon o amser i giwio i fynd ar y trenau yn ddiogel."
Bysiau
Bydd gwasanaethau bysiau yng Nghaerdydd, dolen allanol yn cael eu dargyfeirio tra bod ffyrdd canol y ddinas ynghau.
Mae cwmni Stagecoach hefyd yn rhybuddio y bydd yna oedi i'w gwasanaethau oherwydd lefel y traffig sydd i'w ddisgwyl yn yr ardal.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2022