Kaylea Titford: 'Ddylai'r un plentyn gael ei drin fel hyn'
- Cyhoeddwyd
Mae elusen NSPCC Cymru wedi dweud fod angen "troi pob carreg" er mwyn dysgu gwersi o farwolaeth Kaylea Titford a hynny er mwyn gwarchod plant eraill.
Cafodd y ferch 16 oed, oedd â chyflwr spina bifida, ei chanfod yn farw yn ei chartref yn Y Drenewydd ym mis Hydref 2020 ar ôl mynd yn ordew i raddau peryglus.
Clywodd y llys fod Kaylea Titford yn byw mewn amodau fyddai'n "anaddas ar gyfer unrhyw anifail", a bod cynrhon (maggots) a phryfed arni pan gafodd ei chanfod.
Mae ei thad, Alun Titford, bellach wedi cael ei ganfod yn euog o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol - cyhuddiad yr oedd ei mam Sarah Lloyd Jones eisoes wedi pledio'n euog iddo.
'Esgeulustra bwriadol ac estynedig'
Wrth ymateb i'r ddedfryd dywedodd y Ditectif Arolygydd Steven Lewis o Heddlu Dyfed Powys: "Roedd yr amodau y cafwyd hyd i Kaylea yn ffiaidd, ac yn dangos esgeulustod enbyd dros gyfnod hir.
Ychwanegodd bod amgylchiadau marwolaeth Kaylea yn "drasig".
"Bydd rhaid i'w rhieni fyw gyda'r rhan y chwaraeon nhw yn hynny am weddill eu bywydau," meddai.
"Bu'r ymchwiliad yn un helaeth ac yn anodd, gan ystyried oed Kaylea a'r amodau y canfuwyd hi.
"Serch hynny gweithiodd ein swyddogion a'n partneriaid yn ddiwyd a phroffesiynol yn ystod yr ymchwiliad. Hoffwn ddiolch iddynt am eu hymdrechion ac am gael cyfiawnder i Kaylea."
Dywedodd dirprwy gyfarwyddwr NSPCC Cymru, Tracey Holdsworth, na ddylai'r un plentyn "orfod dioddef y driniaeth afiach gafodd Kaylea".
"Mae'r esgeulustra bwriadol ac estynedig a gafodd gan y rheiny ddylai fod wedi gofalu amdani yn dorcalonnus tu hwnt.
"Mae ymchwil yn dangos bod pobl ifanc ag anableddau yn wynebu risg deirgwaith yn uwch o gamdriniaeth, ac er mai rhieni Kaylea sydd ar fai am ei marwolaeth, mae'r achos yma'n dangos pa mor hanfodol yw cael systemau gwarchod effeithiol yn ein cymunedau.
"Dylai Adolygiad Arfer Plant droi pob carreg i ddod o hyd i beth yn fwy allai fod wedi cael ei wneud i atal marwolaeth Kaylea, a sicrhau nad yw plant eraill yn dioddef esgeulustra afiach fel hyn heb i unrhyw un sylwi."
'Un o'r achosion gwaethaf dwi wedi weld'
Dywedodd Elwyn Vaughan, cynghorydd sir Bro Ddyfi ar Gyngor Powys, ei bod hi'n "hanfodol" dysgu gwersi o'r "drasiedi".
"Be' dwi'n gobeithio yw bydd y Cyngor Sir a chyrff eraill yn adolygu beth yw'r sefyllfa, beth sydd wedi digwydd, beth sydd wedi mynd o'i le, er mwyn sicrhau bod y math hyn o beth ddim yn digwydd eto," meddai.
"Mae isie sicrwydd yn y lle cyntaf o ran rôl y gyfundrefn addysg - a gafwyd sylw teilwng i'r sefyllfa? A dynnwyd sylw gwasanaethau cymdeithasol at y sefyllfa? A leisiwyd pryderon, a weithredwyd yn unol â disgwyliadau?
"Achos ar ddiwedd y dydd mae 'na ddyletswydd cyfreithiol arnon ni fel cynghorwyr sir, be' maen nhw'n alw yn rieni corfforaethol, am ein pobl ifanc yn y sir 'ma."
Yr Athro Sally Holland oedd Comisiynydd Plant Cymru rhwng 2015 a 2022, ac mae'n dweud mai dyma'r math o achos yr oedd asiantaethau wedi pryderu amdano wrth i blant bregus fod i ffwrdd o'r ysgol yn ystod y cyfnod clo.
"Yn ystod y pandemig roedd pawb yn gweld pa mor bwysig yw ysgolion i blant, nid jyst i addysgu nhw, ond i gefnogi nhw, i wrando arnyn nhw, i ddiogelu nhw," meddai.
"Mae 'na bobl yna sy'n 'nabod y plant, ac sy'n gwrando arnyn nhw, ac mae plant yn dibynnu ar oedolion yn yr ysgol pan dydy popeth ddim yn dda gartref.
"Felly roeddwn i, fy nhîm, a phobl eraill sy'n gweithio gyda phlant, a phobl yn y llywodraeth yng Nghymru, yn poeni am blant bregus sydd ddim yn gallu mynd i ysgol pob diwrnod."
Clywodd y llys nad oedd Kaylea Titford wedi bod yn mynd i'r ysgol ar ôl i ddosbarthiadau ailagor yn dilyn y cyfnod clo cyntaf, gyda'i mam yn dweud wrth yr ysgol ei bod hi'n sâl ond y byddai'n dychwelyd yn fuan.
Dywedodd yr Athro Holland fod y manylion a glywodd am yr achos yn "ofnadwy", gan gynnwys sut y bu i iechyd Kaylea ddirywio.
"Mae wedi bod yn ofnadwy i glywed am faint o boen mae Kaylea wedi bod mewn," meddai.
"I ddweud y gwir mae e'n un o'r achosion mwyaf gwael dwi wedi gweld, fel rhywun sydd wedi gweithio yn y sector am ddegawdau."
'Gwersi i'w dysgu'
Dywedodd Delyth Lloyd Griffiths, sy'n ymgynghorydd gwaith cymdeithasol, fod angen i'r adolygiad weld "os yw'r plentyn yma wedi syrthio drwy'r craciau", ond bod profiad ysgolion hefyd yn hollbwysig.
"Roedden nhw'n gallu dweud, wel, dyma'r profiad rydyn ni wedi'i gael o'r teulu hwn yn y gorffennol ac roedden nhw'n gallu dweud, chi'n gwybod mae angen help ar y teulu hwn," meddai.
"Ac yn yr achos penodol hwn, o'r hyn ry'n ni'n gwybod o'r achos llys, ac sydd eisoes wedi'i adrodd yn y cyfryngau yn barod, roedd y fam yn benodol wedi dweud ei bod yn ei chael hi'n anodd, oedd yn sbardun clir iawn i'r ysgol i ofyn am wasanaethau."
Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i ni gofio mewn gwirionedd bod pob teulu wedi cael eu heriau yn ystod y pandemig."
Er bod "cwestiynau i'w gofyn", meddai'r seicolegydd clinigol Dr Mair Edwards, roedd cyfnod y pandemig hefyd wedi golygu ei bod hi'n anoddach i asiantaethau gadw llygad ar unigolion bregus fel Kaylea.
"Roedd hynny yn amlwg wedi cael ei golli, ac mae'r ffaith wedyn ei bod hi wedi methu mynd 'nôl i'r ysgol ym mis Medi pan oedd yr ysgol wedi ailagor iddi hi, a bod 'na nifer o rwystrau wedi bod mae'n debyg o ran ei hiechyd hi," meddai.
"Roedd hynny wedyn yn golygu bod 'na gyfleoedd wedi cael eu colli, a bydd angen yn amlwg edrych ar hynny.
"A tase bod 'na gyfnod clo yn digwydd yn y dyfodol, bod ni'n dysgu gwersi fel bod yr un camgymeriadau ddim yn cael ei gwneud."
Ychwanegodd nad yw'n credu ei fod yn "achos unigryw o esgeulustod a diffyg gofal yn ystod y cyfnod clo".
"Roedd teuluoedd dan bwysau aruthrol am gyfnodau," meddai.
"Roedd y diffyg adnoddau oedd ar gael, a'r problemau o gysylltu efo pobl broffesiynol yn 'neud i rai teuluoedd fynd yn fwy ynysig na fuasai wedi bod pe bai'r cyfnod clo ddim yn bodoli."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2023