Llwyfan i actorion ifanc gyda Theatr Ieuenctid yr Urdd

  • Cyhoeddwyd
Yr actor Iddon Alaw, sydd wedi ymddangos ar lwyfannau'r West End yn sioeau fel Wicked, yn serennu yng nghynhyrchiad y cwmni o Les Miserables yn 2005Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yr actor Iddon Alaw (ar y blaen), un o sêr y West End, yn serennu yng nghynhyrchiad Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd o Les Misérables yn 2005

Mae actorion ifanc o Gymru'n cael eu hannog i ymuno gyda Theatr Ieuenctid yr Urdd ar gyfer y cynhyrchiad cyntaf ers ei ail-lansio y llynedd.

Cafodd y cwmni ei sefydlu yn y 1970au, ac mae wedi rhoi cyfleoedd i bobl ifanc fwynhau ac ehangu eu profiadau celfyddydol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn 2019, fe ddaeth y cwmni i ben, cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydden nhw'n rhoi £1m i'r mudiad dros bum mlynedd i'w ail-sefydlu.

Y sioe gyntaf ar lwyfan fydd drama 'Deffro'r Gwanwyn' ac mae galw ar bobl ifanc ddangos diddordeb ac ymgeisio, dolen allanol.

Disgrifiad,

Branwen Davies, Trefnydd Theatr Ieuenctid yr Urdd

Mae'r ddrama gerdd yn gynhyrchiad gan Dafydd James, ac yn addasiad o'r sioe Spring Awakening gafodd ei pherfformio gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2010.

Mae'n ymdrin â themâu sy'n "dal yn anghyfforddus i'w trafod" yn ôl trefnydd y cwmni, Branwen Davies, gan gynnwys "deffroad rhywiol, ieuenctid yn rebelio a hunan ddarganfyddiad".

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dau o sêr y dyfodol yn y sioe Brenin Arthur (1980) - Siân James (canol y drydedd res) a Martyn Geraint (rhes gefn ail o'r chwith)

"Mae'n gyfle i genhedlaeth ifanc sydd wedi dioddef yn ystod cyfnod Covid i fynegi eu rhwystredigaethau ac i wahodd trafodaeth am eu barn ac am eu gweledigaeth nhw o'r byd.

Ychwanegodd Branwen ei bod hefyd yn gyfle i "ystyried gobaith ar gyfer y dyfodol."

Clyweliadau fis nesaf

Bydd clyweliadau'n cael eu cynnal ym Mangor, Abertawe ac ar-lein ym mis Mawrth. Mae modd recordio clyweliad a'i rannu, hefyd.

Mae gofyn i actorion ifanc rhwng 16-25 oed sydd â diddordeb baratoi cân a monolog, o dan dair munud o hyd ar gyfer y clyweliad.

Yn ogystal â phrif gymeriadau a chast, mae'r Cwmni yn chwilio am fand byw a thîm o bobl ifanc i gynorthwyo cefn llwyfan o fis Ebrill.

Ers ail-lansio'r cwmni yn yr hydref, dywedodd Cyfarwyddwr Eisteddfod a Chelfyddydau'r Urdd, Sian Eirian, ei bod hi'n amlwg fod yr "awch am gyfleoedd celfyddydol yn y Gymraeg" yn parhau.

"Hoffwn ddiolch unwaith eto i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth ariannol o £1 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd sydd wedi ein galluogi i wireddu'r freuddwyd o ail-sefydlu Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd, a chynnig cyfleoedd a phrofiadau llwyfan i bobl ifanc ar draws Cymru."

Pynciau cysylltiedig