Costau byw: Myfyrwyr yn gweithio tair swydd er mwyn goroesi

  • Cyhoeddwyd
Gwirfoddolwyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwirfoddolwyr, gyda chyngor staff yr undeb, yn bwriadu rhedeg y banc bwyd yn wythnosol

Mae gwirfoddolwyr o Brifysgol Abertawe wedi sefydlu banc bwyd i fyfyrwyr wrth i'r argyfwng costau byw ddwysáu, gyda chymorth Undeb y Myfyrwyr.

"Mae rhai myfyrwyr gyda ni sy'n gwneud dwy neu dair swydd er mwyn cefnogi eu hunain," meddai llywydd yr undeb, Esyllt Rosser.

"Mae nifer o fyfyrwyr yn teimlo eu bod nhw dan bwysau."

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cydnabod yr heriau ariannol sy'n wynebu myfyrwyr, a'i bod wedi cynyddu'r arian fydd ar gael i fyfyrwyr o fis Medi.

'Mae arian yn dynn'

Cyn y Nadolig y llynedd roedd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe wedi cynnal digwyddiad un tro er mwyn darparu bwyd i bobl oedd mewn angen.

Cafodd tua 70 o flychau eu hawlio o fewn hanner awr.

Penderfynodd y myfyrwyr ddechrau'r ymgyrch ar ôl i gyd-fyfyrwyr "pryderus" ddweud eu bod yn ansicr ynglŷn â sut roedd eu ffrindiau'n mynd i dalu am fwyd.

"Mae nifer o bobl 'da ni ar hyn o bryd sy'n gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn," meddai Gwern Dafis, swyddog cymdeithasau a gwasanaethau Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe.

"Mae arian yn dynn. Mae pobl yn gorfod dewis a dethol be' maen nhw'n gallu gwneud."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Esyllt Rosser a Gwern Dafis yn helpu i redeg banc bwyd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe

Mae gwirfoddolwyr, gyda chyngor staff yr undeb, yn bwriadu rhedeg y banc bwyd yn wythnosol.

Mae myfyrwyr yn cael hawlio'r cymorth heb orfod esbonio eu sefyllfa.

"Mae e'n gwbl iawn iddyn nhw ddod mewn a chymryd bwyd heb orfod teimlo bod nhw'n cael eu hedrych arno yn wahanol," meddai Gwern.

Dywedodd Prifysgol Abertawe ei bod yn gweithio gyda'r undeb myfyrwyr er mwyn ceisio lleihau effaith y cynnydd mewn costau byw.

'Boddi o dan gostau'

Yn ôl Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru (UCM Cymru) mae'r sefyllfa yn un "dorcalonnus", ond nid yn syndod.

"Dylai myfyrwyr fod yn ffynnu, nid dim ond goroesi. Serch hynny mae gormod yn boddi o dan gostau rhent, biliau ynni a phrisiau bwyd cynyddol," meddai llefarydd.

Yn ôl arolwg costau byw UCM Cymru mae 96% o fyfyrwyr yn torri'n ôl ar eu gwariant, gyda bron i draean yn gorfod byw ar gyn lleied â £50 y mis ar ôl rhent a biliau.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae arian ychwanegol ar gael i'r rhai sy'n dioddef waethaf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae ansefydlogrwydd ariannol yn gwneud problemau iechyd meddwl yn fwy tebygol, medd Dr Simon Williams

Ym Mhrifysgol Abertawe mae Dr Simon Williams yn astudio sut mae'r sefyllfa bresennol yn effeithio ar bobl yn feddyliol.

Yn ôl Dr Williams a'i dîm, nid pawb sy'n cael yr un profiad economaidd.

Mae e'n dweud fod y sefyllfa yn profi'r anghydraddoldebau sy'n bodoli o fewn cymdeithas.

"Mae myfyrwyr sy'n ansefydlog yn ariannol bum gwaith yn fwy tebygol o deimlo bod eu hiechyd meddwl yn gwaethygu," meddai Dr Williams.

'Myfyrwyr yn colli mas'

Mae Esyllt a Gwern yn yr undeb hefyd wedi cael cynnydd yn nifer y bobl sy'n gofyn am gefnogaeth emosiynol yn sgil y pryderon economaidd.

"Ni wedi bod yn pryderu bydd myfyrwyr yn colli mas," meddai Esyllt.

Yn dilyn pryderon fod myfyrwyr yn astudio heb fwyta, mae'r undeb hefyd wedi dechrau cynnig brecwast am ddim ddwywaith yr wythnos.

"Dwi'n credu bod yr argyfwng yn bryderus iawn i ni gyd," meddai Elen Jones, sydd yn ei thrydedd flwyddyn yn y brifysgol.

"Dwi'n pryderu am faint o arian sydd gen i ar ôl ar ôl talu'r biliau."

Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'n pryderu am faint o arian sydd gen i ar ôl ar ôl talu'r biliau," medd Elen, sydd yn ei thrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe

Dechrau'r flwyddyn fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd yr arian sydd ar gael i fyfyrwyr yn cynyddu 9.4% o fis Medi ymlaen.

Fe wnaeth UCM Cymru groesawu'r newyddion, gan ychwanegu fod yna fwy i'w wneud eto i helpu myfyrwyr sy'n dioddef yn economaidd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mewn datganiad ei bod yn cydnabod yr heriau ariannol sy'n bodoli i nifer o fyfyrwyr a phobl ifanc ar hyn o bryd.

Ychwanegodd mai Cymru sy'n cynnig y cymorth mwyaf hael i fyfyrwyr yn y Deyrnas Unedig, gan annog pobl i ofyn am help os oes angen.