Myfyrwyr yn osgoi seremonïau graddio o achos y gost
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alwadau am ragor o gefnogaeth i fyfyrwyr sy'n methu fforddio mynychu seremonïau graddio oherwydd yr argyfwng costau byw.
Yn ôl Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, mae nifer o fyfyrwyr wedi penderfynu nad ydyn nhw'n gallu cyfiawnhau gwario arian ar bethau fel gynau a chapiau academaidd.
Mae costau teithio, tocynnau ychwanegol ar gyfer y seremonïau, lluniau swyddogol a'r gost o aros mewn gwesty hefyd yn achosi trafferthion.
Mae nifer o sefydliadau yn cynnig cymorth ariannol i rai myfyrwyr penodol.
Ond mae'r costau cynyddol yn golygu bod fwy a fwy o'r rheiny sydd ddim yn gymwys am gymorth yn dewis peidio â mynychu'r seremonïau.
Jared Evitts, 21, ydy aelod cyntaf ei deulu i raddio. Doedd ganddo ddim syniad am y costau.
"I logi cap a gŵn ar gyfer diwrnod fy ngraddio yn unig byddai'n costio £45," meddai.
"Roedd yn rhaid talu £60 arall wedyn am y lluniau swyddogol ro'n i'n gwybod bod Mam yn ysu i'w cael."
Mae'n rhaid i nain Jared, Eileen Ridding, 82, dalu £20 am docyn ychwanegol er mwyn mynychu'r seremoni.
"Rydw i wedi aros blynyddoedd am hyn," meddai.
"Dydi ei daid ddim yma i ddathlu ac mi ydw i wir isho fod yn rhan o'i ddiwrnod mawr.
"Dydw i erioed wedi cael y cyfle i fynd i seremoni raddio, ac mi faswn i mor falch i gael y cyfle i ddathlu ei lwyddiant," meddai Ms Ridding.
Cyn ystyried prisiau gwesty na chostau teithio i'w deulu ddod i Gaerdydd, fe fydd yn rhaid i Jared dalu £145.
Heb incwm sefydlog eto mae wedi gorfod ystyried a fedr gyfiawnhau'r gost am un diwrnod yn unig.
'Mae gen i filiau a rhent i'w talu'
Mae Serenity Davis, 25, yn graddio o Brifysgol Metropolitan Caerdydd eleni.
Maen nhw wedi penderfynu peidio a mynychu eu seremoni graddio oherwydd y gost.
"Mae gen i filiau ynni a rhent i'w talu, ac rydw i'n dod o deulu incwm isel, felly dydw i ddim yn cael cymorth ganddyn nhw, dydyn nhw ddim yn gallu fforddio dod draw i Gaerdydd am ddiwrnod.
"Mae'n rhaid iddyn nhw gael amser i ffwrdd o'r gwaith a thalu am gost tanwydd i yrru lan yma."
Bydd Sian Billington a Rhys Churchill, y ddau yn 23 oed, yn mynd i fethu â mynychu pedair seremoni raddio rhyngddynt.
Ar ôl cwblhau eu graddau isradd a meistri ym Mhrifysgol Bangor, mae'r ddau yn methu â fforddio'r naill seremoni na'r llall oherwydd y gost.
Dywedodd Mr Churchill ei fod yn meddwl bod prisiau graddio fel rhoi halen yn y briw i lawer o fyfyrwyr.
"Dwi wedi gweithio'n galad ers pedair blynedd ac wedi cael sawl adeg anodd yn fy mywyd yn ystod y cyfnod, ond gweithio i gael gradd wnes i, ddim er mwyn cael lluniau ffansi a seremoni," meddai.
"Mae cael eich gradd yn y post yn 'chydig o anti-climax," meddai Miss Billington.
"Dydi be' maen nhw'n ei godi ddim yn gyfnewid teg am yr hyn 'dach chi'n ei gael yn ôl."
'Prisiau gwestai yn ddwbl'
Fe raddiodd Elliot Dollner, 23, o Brifysgol Caerdydd y llynedd cyn symud yn ôl i gartref ei deulu yn Brighton.
Mae o wedi dewis peidio â theithio yn ôl i Gaerdydd i fynychu ei seremoni raddio.
"Dwi ddim yn meddwl bod y brifysgol wedi ystyried costau i bobl sy'n teithio yn ôl i Gaerdydd ar gyfer graddio," meddai.
"Mae prisiau gwestai yn ddwbl, weithiau'n dair gwaith y gost arferol am benwythnos yng Nghaerdydd.
"Mae costau petrol wrth deithio pellter hir yn ddigon i atal unrhyw un."
Graddiodd Olivia Morgan, 21, o Brifysgol De Cymru y llynedd, ac fe aeth i'w seremoni raddio ym mis Ebrill.
"Fe wnes i edrych i aros yn y gwesty lle roedd fy ngraddio yn cael ei gynnal am noson.
"Roedd yng nghanol yr wythnos, sydd fel arfer yn llai costus, ond roedd y pris wedi saethu lan."
Er bod llawer o fyfyrwyr yn cwyno am gostau graddio, mae rhai prifysgolion wedi cael eu canmol am eu seremonïau fforddiadwy.
Gorffennodd Emma Blackmore, 22, ei gradd Saesneg ym Mhrifysgol Caerwysg yn 2021.
Mae hi bellach yn astudio MA ym Mhrifysgol Caerdydd, a doedd ddim yn rhaid iddi dalu am ei seremoni raddio BA.
"Fe gawson ni fenthyg gŵn a chap am ddim ac fe gawsom ni eu gwisgo o amgylch y campws a'n hannog i dynnu lluniau ein hunain yn eu gwisgo nhw ac roedd hynny'n brafiach o lawer na lluniau ffurfiol," meddai.
Cefnogaeth i fyfyrwyr
Mewn datganiad dywed Prifysgol Caerdydd ei bod yn cydnabod bod y sefyllfa ariannol presennol yn achosi trafferthion i rai, ond nad oedden nhw'n ymwybodol o unrhyw un oedd yn methu â graddio oherwydd y gost.
Ychwanegodd y brifysgol eu bod nhw yn cynnig gynau a lluniau am ddim i fyfyrwyr fu'n cael eu cefnogi wrth adael y system gofal, myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu rhieni, sy'n ofalwyr ifanc, cyn-aelodau o'r lluoedd arfog neu yn geiswyr lloches.
Mae Prifysgol De Cymru yn cynnig arian i rheiny sy'n gadael y system gofal i fynd i'w seremonïau graddio tra bod Prifysgol Aberystwyth yn annog myfyrwyr i wneud cais am arian o Gronfa Caledi Myfyrwyr y brifysgol.
Does dim cynlluniau penodol gan brifysgolion Abertawe, Wrecsam Glyndŵr, Bangor na Met Caerdydd.
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn annog myfyrwyr sy'n cael trafferthion i gysylltu â'r tîm Cyngor Ariannol yn yr adran Gwasanaethau Myfyrwyr.
Yn ôl Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr mae hi yn "annheg" bod myfyrwyr yn cael eu "prisio allan" ac yn gorfod gwneud "dewisiadau anodd" oherwydd yr argyfwng costau byw.
Mae'r undeb wedi galw hefyd ar brifysgolion i "wneud beth y gallan nhw" i wneud seremonïau graddio'n fwy fforddiadwy fel bod myfyrwyr ddim yn colli'r cyfle i ddathlu eu llwyddiant gyda theulu a ffrindiau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2021