Iechyd meddwl: 'Sawl ffermwr yn cael amser caled'

  • Cyhoeddwyd
Charlotte
Disgrifiad o’r llun,

Mae Charlotte Llewellyn yn aml yn mynd am ddyddiau heb weld person arall

Mae elusen sy'n cefnogi ffermwyr yng Nghymru gyda'u hiechyd meddwl yn dweud eu bod wedi gweld cynnydd o 28% yn nifer sy'n defnyddio eu gwasanaeth ac yn derbyn cwnsela dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae rheolwr elusen Sefydliad DPJ, Kate Miles, yn disgrifio'r ffigwr fel un "dramatig".

Dywedodd wrth raglen Wales Live: "Mae'n wych bod pobl yn derbyn help ac mae hynny'n galonogol iawn, ond ar yr un pryd mae hefyd yn awgrymu bod yna lawer o bobl allan yna yn cael amser caled ac yn ei chael hi'n anodd iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Kate Miles fod cynnydd "dramatig" wedi bod yn nifer y ffermwyr sydd eisiau cymorth

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi bod yn codi arian ar gyfer Sefydliad DPJ diolch i gyfres o frecwastau ffermdy ledled Cymru.

Yn ôl llywydd yr undeb, Glyn Roberts, mae sawl ffactor yn effeithio ar iechyd meddwl ffermwyr.

"Mae yna sawl newid ar y gorwel," meddai.

"Mae gennym y don newydd o gyllidebau amaethyddol - roedd ganddon ni'r Taliad Sengl, mae'r Cynllun Ffermydd Cynaliadwy ar y gweill rŵan.

"Mae llawer o reolau a rheoliadau ar y ffordd o ran y Parthau Nitradau, a pheth arall y mae pobl yn poeni amdano - yn enwedig mewn rhai ardaloedd o Gymru - yw'r broblem TB mewn gwartheg."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Glyn Roberts y gallai'r holl newidiadau fod yn cael effaith negyddol ar iechyd meddwl ffermwyr

Mae Charlotte Llewellyn yn aelod o UAC ac yn cadw fferm bîff a defaid ar ei phen ei hun ar gyrion Caerdydd.

Mae sawl llwybr troed yn rhedeg drwy ei fferm, a dywed y gall hynny arwain at wrthdaro â cherddwyr lleol.

"Lle rydw i ar y cyrion trefol, mae'n eithaf anodd ffermio," meddai.

"Os ewch chi i ddweud wrth rywun am gadw at y llwybr troed, i gadw eu ci ar dennyn byr, rydych chi'n aml yn cael eich ateb yn ôl ac rwy'n teimlo'r straen.

"Pe bai yna gi yn erlid defaid, mae hynny'n arswydus. Mae straen hynny'n anghredadwy."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Charlotte yn cadw fferm bîff a defaid ar ei phen ei hun ar gyrion Caerdydd

Mae Charlotte yn aml yn mynd dyddiau heb weld person arall, ac yn dweud bod unigrwydd hefyd yn broblem iddi.

"Mae pethau fel os ydych chi wedi cael ŵyna anodd iawn, yn colli'r fam neu'n tynnu ŵyn marw allan o fam - mae hynny'n anodd.

"Mae'n golled fawr i beidio â chael neb i siarad gyda... mae'n eithaf anodd."

Mae Sharon Pritchard yn swyddog sirol i'r undeb sydd wedi bod yn gweithio gyda Charlotte.

"Mae Charlotte yn cymryd rhan weithredol, ac rwy'n meddwl bod hynny'n ei helpu'n aruthrol," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sharon Pritchard wedi bod yn gweithio gyda Charlotte

Mae Charlotte yn dal i wynebu pwysau ffermio, ond mae hi bellach yn delio gyda hynny'n well.

"Mae ffermio yn waith caled, mae'n gorfforol galed ac mae'n unig, ond mae hefyd yn rhoi cymaint o foddhad," meddai.

"Mae ffermwyr yn ffermio oherwydd ei fod yn alwedigaeth. Y wobr yw gweld anifeiliaid o ansawdd uchel yn pori'ch caeau a gwybod eich bod wedi gwneud gwaith da."

Mae hi nawr yn annog unrhyw un yn y gymuned ffermio sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl i ofyn am help.

Pynciau cysylltiedig