'Fy mhartner wedi gweld teulu'n cael eu tynnu o rwbel yn farw'

  • Cyhoeddwyd
Chwith i dde: Eylem, Busra, EmineFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai aelodau o deulu Busra, sydd yng nghanol y llun, yn dal ar goll yn Nhwrci wedi'r daeargrynfeydd

Mae partner menyw sydd wedi teithio i Dwrci ar ôl i aelodau ei theulu gael eu dal yng nghanol dinistr y daeargrynfeydd yn dweud ei fod yn "byw diwrnodau gwaethaf ei fywyd".

Dywedodd partner Busra Yildiz, Sam Thomas, o Ben-y-bont: "Roedden nhw i gyd yn galaru am eu tad-cu, ac yna fe ddigwyddodd hyn.

"Mae'n torri fy nghalon eu bod yn byw drwy hyn."

Fe deithiodd teulu Busra, sy'n byw yng Nghaerdydd, i Dwrci o Swindon ar gyfer angladd ei thad-cu wedi iddo farw ddiwedd mis Ionawr.

Roedd Busra wedi aros yn y Deyrnas Unedig i ofalu am ei chwiorydd, gyda disgwyl i'w mam, modryb, ewythr a chefnder blwydd oed ddychwelyd yr wythnos ddiwethaf.

Ond oherwydd tywydd garw, fe gafodd eu taith adref ei gohirio.

Ar ôl i'r ddau ddaeargryn daro ddydd Llun, mae'r bloc o fflatiau yr oedden nhw'n aros ynddo bellach yn rhan o'r rwbel, a Busra wedi teithio allan i Besni i gynnig helpu.

'Gweddïo eu bod nhw'n fyw'

Mae mam Busra, Eylem Yildiz, yn dal ar goll, gyda mam-gu Busra, Saadet Onder, a thri aelod arall o'r teulu o Dwrci hefyd yn dal ar goll.

Mae ei modryb Emine Onder-Nizan, ei hewythr, Engin Onder-Nizan a'i chefnder Mete Onder-Nizan - a deithiodd o'r DU - wedi eu darganfod.

Ffynhonnell y llun, Sam Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae partner Busra, Sam Thomas, yn dweud fod calonnau'r teulu'n torri

Dywedodd Mr Thomas: "Ddydd Mawrth roedd 'na arwyddion o fywyd, roedden nhw'n credu eu bod wedi clywed eu mam-gu oherwydd roedd 'na synau'n dod o'r adeilad.

"Roedden nhw'n gallu siarad â'r modryb ddydd Mercher. Yna fe aeth popeth yn dawel."

Mae prinder peiriannau'n golygu fod nifer o bobl yn cloddio neu balu drwy'r rwbel â'u dwylo.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sam Thomas yn dweud fod ei bartner, Busra, "mor ddewr"

Ychwanegodd: "Mae jyst yn dorcalonnus gwybod eu bod yn gallu clywed pobl mewn 'na.

"Yr wythnos hon mae Busra wedi gweld ffrindiau a theulu'n cael eu tynnu [o'r rwbel] yn farw.

"Mae wedi gweld plant marw. Alla i ddim dychmygu sut mae hi'n teimlo.

"Dw i'n gweddïo eu bod nhw i gyd yn fyw ac yn gobeithio y down nhw i gyd allan," dywedodd Mr Thomas.

"Dw i wir eisiau fy anwyliaid allan o'r adeilad 'na."

Disgrifiad o’r llun,

Y dinistr yn Antakya - un o'r ardaloedd i gael eu taro waethaf yn Nhwrci

Fe ddechreuodd y dinistr yn Nhwrci a Syria pan darodd daeargryn 7.8 ger Gaziantep fore Llun, gyda chryniadau llai yn dilyn.

Mae nifer y bobl sydd wedi eu darganfod yn farw bellach wedi cyrraedd o leiaf 25,000.

'Pum niwrnod dan y dinistr'

Er bod dyddiau wedi mynd heibio, mae rhai adroddiadau o bobl yn cael eu hachub o'r adfeilion yn fyw yn cynnig gobaith.

Yn eu plith - menyw 50 oed a dyn 57 oed - yn cael eu hachub gan rai diffoddwyr tân o Gymru.

Roedd y ddau wedi bod yn sownd dan y rwbel am bum niwrnod llawn yn ninas Antakya.

Fe ddechreuodd y timau ar y gwaith o'u hachub brynhawn Gwener, gan weithio drwy'r nos tan iddyn nhw gyrraedd y fenyw am 03:30. Fe gafodd y dyn ei achub rai oriau'n ddiweddarach.

Dywedodd Phil Irving, un o'r pump o ddiffoddwyr o Gymru sy'n rhan o Dîm Chwilio ac Achub Rhyngwladol y Deyrnas Unedig fod "ymdrechion achub llwyddiannus yn cymell y tîm i barhau".

Ychwanegodd eu bod yn Nhwrci er mwyn helpu teuluoedd ac y byddan nhw'n parhau i geisio achub rhagor o bobl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Mae gwaith DEC yn dod â gobaith a llawenydd," wrth i filoedd gael eu tynnu o'r rwbel, dywedodd Nan Powell Davies

Fe lansiodd DEC (Pwyllgor Argyfyngau Brys) Cymru apêl swyddogol am roddion ar gyfer cymorth i Dwrci a Syria yr wythnos hon.

Yn ystod diwrnod cyntaf yr apêl, fe gafodd mwy na miliwn o bunnoedd ei godi yng Nghymru, gyda degau o filiynau'n rhagor ar draws apêl y Deyrnas Unedig.

Erbyn prynhawn Sadwrn, roedd y ffigwr yng Nghymru wedi cyrraedd £1.7m.

Wrth sirarad ar Dros Frecwast fore Sadwrn, dywedodd Nan Powell, Cadeirydd Cymorth Cristnogol yng Nghymru fod "gwaith DEC yn waith sy'n dod â llawenydd a gobaith".

"Yma ym Mhrydain mae 'na 14 o fudiadau yn eu plith nhw... yn cydweithio efo'i gilydd.

"O ran yr hyn sy'n digwydd rwan, mae'r gofal meddygol, adeiladu llochesau...

"Ond o ran y tymor hir, 'dan ni'n gweld bod rhaid i ni fod yn wyliadwrus o ran byd addysg, 'dan ni hefyd yn ymwybodol am yr ail adeiladu fydd yn rhaid gwneud hefyd wrth gwrs."

Pynciau cysylltiedig