'Angen datganoli grym am ffyrdd y gogledd o Gaerdydd'
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyn-weinidog trafnidiaeth wedi galw am ddatganoli'r holl benderfyniadau dros ffyrdd gogledd Cymru i'r rhanbarth o Gaerdydd.
Roedd Ken Skates yn ymateb i'r cyhoeddiad bod pob prosiect mawr i adeiladu ffyrdd yng Nghymru wedi eu canslo gan Lywodraeth Cymru.
Ar hyn o bryd, mae penderfyniadau ynghylch a ddylid gwella'r A483, A55, A494 a'r A5 yn cael eu gwneud yng Nghaerdydd.
Mae Mr Skates eisiau i'r penderfyniadau hynny gael eu gwneud yng ngogledd Cymru - ochr yn ochr â'r cyllid.
Dywedodd: "Rydym angen sicrwydd ynghylch sut y bydd trafnidiaeth yng ngogledd Cymru yn cael ei wella.
"Rwyf wedi bod yn Weinidog Trafnidiaeth a'r Economi. Mae'r ddwy rôl bellach wedi'u hollti, ond mae'r ddwy yn hynod o feichus.
"O gael y profiad hwnnw, rwy'n credu'n gryf mai'r ffordd orau o wneud penderfyniadau ynghylch ffyrdd, bysiau, rheilffyrdd a theithio llesol yw ar lefel ranbarthol.
"Mae'n bryd datganoli i'r gogledd, gan ddechrau gyda'n prif ffyrdd."
'Methu'n llwyr'
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad bod cynlluniau am drydedd bont ar draws Y Fenai wedi eu cyfnewid am adolygiad i edrych ar wella tagfeydd a gwytnwch y pontydd presennol, dywedodd Aelod o'r Senedd Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru, bod "Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu'n llwyr a deall heriau gwytnwch ar draws y Fenai".
Wrth siarad yn y Senedd, cyhuddodd ef y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd Lee Waters o droi'r cloc yn ôl 15 mlynedd a "dadwneud y gwaith da" a oedd wedi'i wneud i gyflwyno'r achos dros drydedd bont.
"Rwyf wedi fy syfrdanu gan y penderfyniad hwn, y ffordd y mae wedi'i wneud a'r anghysondebau yn y ffordd y mae'r llywodraeth hon wedi gwneud y penderfyniad hwn heddiw," ychwanegodd.
'Siomedig iawn'
Wrth ymateb i'r newyddion bod y cynllun dadleuol am Lwybr Coch yn Sir y Fflint wedi ei wrthod, dywedodd Jack Sargeant, AS Llafur dros Alun a Glannau Dyfrdwy, ei fod yn "siomedig iawn".
Dywedodd bod y llwybr coch "yn ymwneud â lleihau llygredd aer".
"Mae'n bryd i chi gyflawni nawr. Mae angen gweithredu ar unwaith ar gyfer fy etholwyr. Does dim angen mwy o adolygiadau arnyn nhw."
Ond mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds, wedi croesawu Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol Llywodraeth Cymru.
"Ers yn rhy hir, rydym wedi gwario miliynau ar ffyrdd newydd heb unrhyw welliannau gwirioneddol mewn diogelwch ffyrdd na thagfeydd," meddai.
Esboniodd Ms Dodds yn y Senedd, "rwy'n sefyll yma yn dweud fy mod yn cefnogi'r adolygiad hwn, ac rwyf yma i ddweud bod angen inni gymryd cam dewr ymlaen ar gyfer y mater mwyaf dybryd sydd o'n blaenau, sef yr argyfwng hinsawdd.
"Byddaf yn amddiffyn hyn, ac rwy'n siŵr y byddaf yn cael llawer o feirniadaeth, ond mae angen inni fod yn dweud 'Gadewch inni gael mwy o wasanaethau bysiau, gadewch inni edrych ar sut yr ydym yn datblygu ein cyfle i fod yn wlad gyffrous, fywiog sy'n dangos nad oes angen inni ddibynnu ar ffyrdd, ein bod yn cymryd yr argyfwng hinsawdd o ddifrif, a gadewch inni fwrw ymlaen ar sail hyn'."
'Anhrefn llwyr'
Ond dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar drafnidiaeth, Natasha Asghar, fod polisi trafnidiaeth Llywodraeth Cymru mewn "anhrefn llwyr".
"I mi, roedd yn teimlo fel eich bod yn dweud bod y rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru mor wael, byddai'n well gennych gadw pobl gartref yn hytrach na darparu atebion clir.
"Mae hyn i gyd heddiw, yn gymysg â'r terfynau cyflymder 20 milltir yr awr cyffredinol a'r sibrydion am dâl atal tagfeydd, yn tynnu sylw at agenda gwrth-gar, gwrth-dwf, gwrth-swyddi Llafur.
"I mi mae'n ymddangos bod polisi trafnidiaeth Llafur mewn anhrefn llwyr."
Galwodd Aelod o'r Senedd Llafur Blaenau Gwent, Alun Davies am "feddwl mwy cydgysylltiedig" gan weinidogion.
"Os ydyn ni'n mynd i gymryd gwasanaethau oddi wrth bobl, yna'r hyn sy'n rhaid i ni allu ei wneud yw darparu'r opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael i bobl gyrraedd y gwasanaethau hynny, a dyw hynny ddim wedi digwydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd27 Awst 2022