Oriel: Olion o bensaernïaeth fodernaidd Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Caffi Kardomah, Stryd PortlandFfynhonnell y llun, Catrin James
Disgrifiad o’r llun,

Caffi Kardomah, Stryd Portland

Yn ei llyfr newydd mae'r artist Catrin James o Abertawe yn cadw cofnod o'r ddarnau yn ei dinas sy'n araf deg yn diflannu.

Mae pensaernïaeth wedi bod rhan fawr o'i hunaniaeth erioed ac ers blynyddoedd bellach mae hi wedi bod yn dogfennu adeiladau modernaidd y ddinas.

Mae'r olion hyn o Abertawe yn ein hatgoffa o oes a fu ac yn enwedig o'r math o bensaernïaeth wnaeth gyrraedd y ddinas wedi bomio'r Ail Ryfel Byd.

Fel aelod o The Twentieth Century Society mae Catrin yn helpu i ofalu am bensaernïaeth fodernaidd ar draws Prydain. Dyma gipolwg tu fewn i gloriau ei llyfr Abertawe Fodernaidd.

Ffynhonnell y llun, Catrin James
Disgrifiad o’r llun,

Catrin James yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar furlun

Ffynhonnell y llun, Catrin James

Eglwys Gatholig St Benedict's, Sgeti

Ffynhonnell y llun, Catrin James
Disgrifiad o’r llun,

Eglwys Gatholig St Benedict’s, Sgeti - "mae’n adeilad modernaidd arbennig iawn gyda’i ffenestri onglog ailadroddus"

Ffynhonnell y llun, Catrin James
Disgrifiad o’r llun,

Drysau siop sglodion The Windsor Café, wedi’i golli yn 2016

Ffynhonnell y llun, Catrin James
Disgrifiad o’r llun,

Caffi Kardomah, Stryd Portland – popeth yn wreiddiol o 1957

Ffynhonnell y llun, Catrin James
Disgrifiad o’r llun,

Eglwys Gatholig Blessed Sacriment, Gorseinon. "Mae’r eglwys yn grwn ei ddynodiad efo to sy’n debyg i babell syrcas"

Ffynhonnell y llun, Catrin James
Disgrifiad o’r llun,

Adeiladau Morris, 1956. Ffordd y Brenin

Ffynhonnell y llun, Catrin James
Ffynhonnell y llun, Catrin James
Disgrifiad o’r llun,

Adeiladau siopau ar Ffordd y Brenin

Ffynhonnell y llun, Catrin James
Disgrifiad o’r llun,

Teils gwreiddiol o 1961 ar siopau a fflatiau yng nghanol y dref – wedi eu colli yn 2022

Ffynhonnell y llun, Catrin James

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig