Cynnal angladd Clare Drakeford, gwraig Prif Weinidog Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae angladd Clare Drakeford, gwraig Prif Weinidog Cymru, wedi ei gynnal yng Nghaerdydd.
Bu farw'n sydyn yn 71 oed fis diwethaf.
Cyrhaeddodd Mark Drakeford gyda'i deulu ar gyfer y seremoni breifat yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig yn y brifddinas fore Iau.
Mewn neges ar ei gyfrif Twitter, dywedodd Mr Drakeford fod yr "wythnosau diwethaf wedi bod yn anodd, ond rydym yn ddiolchgar o bob neges o gydymdeimlad".
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd Llywydd y Senedd, Elin Jones, arweinydd Plaid Cymru, Adam Price ac arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies ymhlith y rhai oedd yno.
Roedd y cyn-brif weinidog Carwyn Jones hefyd yn bresennol, a gweinidogion Llafur yn cynnwys Vaughan Gething, Jeremy Miles, Jane Hutt, Julie James a Julie Morgan, a'r Democrat Rhyddfrydol Jane Dodds.
Mynegwyd cydymdeimlad ar draws y sbectrwm gwleidyddol pan gyhoeddwyd marwolaeth Mrs Drakeford ar 28 Ionawr.
Dywedodd Prif Weinidog y DU, Rishi Sunak ei fod yn gwybod "pa mor ymroddedig oedd Mark a Clare i'w gilydd".
Dywedodd arweinydd Llafur y DU, Syr Keir Starmer, fod Mark Drakeford a'i deulu "i gyd yn ein meddyliau a'n gweddïau".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2023