Cwpan Pinatar: Cymru 0-0 Gwlad yr Iâ

  • Cyhoeddwyd
Cymru v Gwlad yr IaFfynhonnell y llun, FAW

Doedd yna ddim gôl i ferched Cymru yn erbyn Gwlad yr Iâ yng Nghwpan Pinatar yn ne Sbaen nos Sadwrn er iddynt chwarae'n hyderus.

Roedd y Cymry yn llawn hyder ers y cychwyn cyntaf a hynny wedi iddynt ennill yn erbyn y Philippines ganol wythnos.

Roeddynt yn pwyso ar Wlad yr Iâ yn barhaus.

Daethant yn agos iawn i sgorio sawl gwaith drwy Ceri Holland, a bu bron iawn i Lilly Woodham sgorio yn uniongyrchol o gic gornel. Roedd nifer helaeth o ymdrechion tuag at y gôl ond dim un yn llwyddiannus.

Mae Gwlad yr Iâ yn cael eu cyfri ymhlith y timau cryfaf yn y gystadleuaeth, ond Cymru oedd yn ymddangos gryfaf yn ystod y gêm nos Sadwrn.

Tua diwedd y gêm, yn enwedig wedi i Jess Fishlock adael y maes, roedd chwarae Cymru ychydig yn llai trefnus ac fe gafodd Gwlad yr Iâ ambell gyfle ond di-sgôr oedd hi ar ddiwedd y 90 munud.

Bellach mae Gwlad yr Iâ a Chymru yn gyfartal ar frig y grwp, pedwar pwynt yr un, ond mae cyfartaledd goliau Gwlad yr Iâ yn uwch na Chymru.

Bydd gêm olaf Cymru brynhawn Mawrth a hynny yn erbyn Yr Alban.

Pynciau cysylltiedig