Gyrwyr sy'n parcio ar balmentydd i wynebu dirwy?
- Cyhoeddwyd
Fe allai gyrwyr sy'n parcio ar balmentydd dderbyn dirwy o £70 yn fuan os ydyn nhw'n rhwystro'r llwybr i eraill.
Mae parcio, gan rwystro'r palmant, yn gallu achosi problemau i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn, sydd â nam golwg neu â phramiau neu blant bach.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu rhoi'r grym i gynghorau i ddelio gyda'r broblem.
Yn ôl un sy'n defnyddio cadair olwyn, mae'n broblem rheolaidd ac yn effeithio ar ble y mae'n gallu mynd.
"Mae'n 'neud fi bach yn grac bo' nhw'n parcio ar y palmant," dywedodd Tina Evans.
"Os bydden i wrth fy hunan, mewn automatic wheelchair, mae'n galed wedyn achos weithiau does dim dropped kerb ar bwys, ac wedyn bydden i jyst yn stuck yna achos does dim un ffordd i fynd heibio na mynd lawr y kerb i fynd rownd.
"Mae yn berygl, ti ffili mynd mas ar yr hewl i fynd rownd y car.
"Mae isie' i bobl ystyried pobl anabl, pobl sydd â plant a buggies. Mae gyda nhw yr un trafferth hefyd, ond mae'n waeth i bobl anabl, achos s'dim ffordd arall o fynd rownd."
'Ddim yn deg'
Yn ôl Tina mae'n gallu effeithio ar ble mae hi'n mynd.
"Os dwi'n meddwl am rywle cul, ble dwi'n gwybod bod pobl yn parcio ar y palmentydd, na'i gadw bant o'r lle yna, neu fe fydd rhaid fi wneud yn siŵr bod rhywun efo fi. Mae'n cymryd fwy o drefnu.
"Dyw e ddim yn deg ar bobl anabl i wneud y mwy o drefnu. Dyle bod e'r un mor syml i bawb".
Ar hyn o bryd mae'r rheolau ynglŷn â pharcio ar y palmant yn amrywio ar draws y Deyrnas Unedig.
Dim ond yn Llundain y mae parcio ar y palmant yn anghyfreithlon. Mae Llywodraeth Yr Alban wedi pasio deddf yn ei wahardd, ond nid yw'n cael ei weithredu eto.
Yng Nghymru, gall awdurdodau lleol ddefnyddio gorchymyn rheoleiddio traffig i'w wahardd mewn strydoedd penodol, ond mae hyn yn gallu bod yn gostus a chymryd amser.
Mae'r heddlu yn gallu erlyn gyrwyr am achosi rhwystr ond anaml iawn mae hynny yn digwydd.
'Rhwystredig o araf'
Roedd Llywodraeth Cymru yn aros i lywodraeth San Steffan i newid y gyfraith a'i wahardd, ond dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd Lee Waters bod "cynnydd wedi bod yn rhwystredig o araf".
Maen nhw nawr yn bwriadu rhoi'r grym i gynghorau roi dirwy o £70 i'r troseddwyr gwaethaf.
"'Dan ni isio' rhoi pwerau i gynghorau ar draws Cymru i daclo'r broblem o barcio ar y palmant - 'dan ni'n gwybod bod hwn yn creu problem enfawr i bobl, i rieni a phobl sy'n anabl hefyd," meddai.
"Ar hyn o bryd mae'r heddlu gyda'r pwerau ond 'dyn nhw ddim yn defnyddio nhw, felly drwy roi pwerau ychwanegol i gynghorau hefyd rydym ni'n gobeithio helpu taclo'r broblem."
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU: "Dylai pawb allu llywio eu strydoedd heb rwystr a byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol ac elusennau i gadw palmentydd yn glir lle bynnag y bo modd.
"Yn 2020, fe wnaethom lansio ymgynghoriad i archwilio opsiynau ar gyfer mynd i'r afael â pharcio ar balmentydd a pharatoi cynghorau'n well i weithredu. Byddwn yn cyhoeddi ei ymatebion ac yn cyhoeddi'r camau nesaf cyn gynted â phosibl."
'Blaenoriaethu eu ceir dros bobl'
Mae gan Gwenllian Wyn, sy'n byw yng Nghaerdydd, fabi chwe mis oed ac mae'n credu y gallai dirwy helpu newid ymddygiad pobl.
"Beth mae pobl yn gwneud wrth barcio ar y palmant yw 'dyn nhw ddim eisiau i'w ceir gael eu bwrw gan y ffrwd arall o geir sy'n pasio. Mae pobl wedyn yn blaenoriaethu eu ceir dros bobl," meddai.
"Mae'n beth hunanol i wneud. Bydde fe'n neis petai pobl yn bod yn fwy ystyriol, bod yn fwy ymwybodol o beth maen nhw'n wneud ond yn anffodus dyw rhai pobl jyst ddim yn poeni.
"Dwi wedi codi fe efo ambell berson wrth weld nhw'n parcio ar y palmant a be' maen nhw'n dweud yw 'dim ond dwy funud fydda i', ond yn y ddwy funud yna mae rhywun wedi trio pasio eu ceir ac wedi methu gwneud hynny gyda pram neu gadair olwyn."
'Haws i gosbi'
Mae ymgyrchwyr wedi bod yn galw am waharddiad llwyr, ond eto mae Sarah Philpott o elusen Living Streets Cymru yn croesawu'r newyddion.
"Mewn byd delfrydol bydd 'na waharddiad llwyr ar barcio ar y palmant," meddai.
"Ar hyn o bryd mae'n anodd cosbi pobl sydd yn parcio ar y palmant, ond gyda'r ddeddfwriaeth fydd, gobeithio, yn dod i rym ddiwedd y flwyddyn, mi fydd hi'n haws i awdurdodau lleol i gosbi pobl sy'n parcio ar y palmant."
Ac maen nhw'n credu bod yna gefnogaeth eang i'r polisi.
Gofynnodd Living Streets i bobl yng Nghymru faint o broblem oedd hyn, ac mewn arolwg o 1,000 o bobl dywedodd 82% ei fod yn broblem ac roedd 83% yn cefnogi gwahardd parcio ar balmentydd.
Mae arolwg gan elusen Sustrans o bobl anabl ar draws y Deyrnas Unedig wedi canfod bod 73% yn credu y byddai gwahardd ceir rhag parcio ar y palmant yn eu helpu nhw i gerdded neu olwyno'n fwy.
Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn cynnal ymgynghoriad gyda'r nod o gyflwyno'r ddeddfwriaeth erbyn diwedd 2023.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut i gychwyn sgwrs am anabledd yna ewch i wefan Siarad Anabledd BBC Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd12 Mai 2022