Strydoedd yn 'frwydr go iawn' mewn cadair olwyn
- Cyhoeddwyd
"Mae e yn gwneud fy mywyd i mor anodd. Mae fy mywyd i yn anodd fel mae e."
Mae Cat Dafydd o Landysul mewn cadair olwyn ers dros wyth mlynedd wedi damwain achosodd niwed i'w chefn.
Mae mynd o un lle i'r llall yn frwydr iddi oherwydd palmentydd anwastad a chul a cheir wedi eu parcio yn anghyfreithlon.
Yn ôl Cat, os nad ydy hi'n llorwedd (horizontal) yn ei chadair, mae hi mewn poen, felly mae'n rhaid iddi fod yn ofalus.
"[Rhaid] eistedd lan mewn cadair olwyn os mae rhywle yn bumpy - mae'n achosi mwy o boen i fi. Y broblem fwyaf yw pafin sydd ddim yn fflat neu dropped kerbs sydd ddim yna neu mae car wedi parcio yna," meddai.
"Mae yna lot o broblemau dyw pobl sydd ddim mewn cadair olwyn just ddim yn sylwi.
"Os dw i'n mynd mas dw i'n dewis mynd mas gyda theulu a gyda ffrindiau - dydw i ddim mo'yn dod yn ôl gartref mewn lot mwy o boen. Dyna beth yw e - mae'n gwneud i fi deimlo fel dw i ddim yn bwysig."
Mae Cat yn ofni na fydd pethau'n newid dros nos.
"Dw i'n gobeithio bod pobl yn dechrau deall beth yw'r effaith," ychwanegodd.
"Ond dyw'r arian ddim yna i newid pethau yn syth. Mae'n rhaid aros nes bod arian felly mae'n broses hir iawn i gael unrhyw beth yn newid.
"Ond dw i'n gobeithio y bydd mwy o bobl yn sylwi ar y drop kerb neu bod hwnnw'n anodd i rywun mewn cadair olwyn."
'Brwydr go iawn'
Mae Juno Sinclair, 22, yn dweud bod bywyd yn wahanol iawn ers iddyn nhw ddechrau defnyddio cadair olwyn, gan olygu weithiau eu bod nhw'n cael eu trin fel "gwrthrych anfyw".
Mae'n "frwydr go iawn" ceisio mynd o gwmpas mewn cadair olwyn, meddai, oherwydd ceir yn parcio yn y llefydd anghywir a dodrefn stryd.
O ganlyniad, maen nhw wedi sefydlu tudalen Instagram o'r enw Inaccessible Cardiff i dynnu sylw at y rhwystrau ymarferol maen nhw'n wynebu o gwmpas y brifddinas.
Yn ôl Juno, dydy cwynion i'r cyngor ddim wedi arwain at welliannau.
Maen nhw bellach yn gofyn am ddeddfwriaeth well ac addysgu pobl i ddeall yr heriau o ddefnyddio cadair olwyn.
"Mae pawb werth unrhyw beth o'r foment ry'ch chi'n cael eich geni ond mae hynny'n cael ei anghofio, dyna pam mae problem gyda hygyrchedd a gwahaniaethu."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Dinas Caerdydd bod y cyngor yn gweithio gydag amrywiol sefydliadau fel rhan o'r Fforwm Cydraddoldeb Mynediad er mwyn datrys materion sy'n ymwneud â mynediad pobl anabl i'r rhwydwaith ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Ychwanegodd bod parcio ar gyrbau is yn groes i reolau'r cyngor a'i bod yn cosbi'r rhai sy'n euog o hynny.
Mae mynediad i bobl anabl yn ofyniad cyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Mae'r Confensiwn ar Hawliau Personau ag Anableddau hefyd yn ceisio amddiffyn hawliau ac urddas pobl sydd ag anabledd.
Ond yn ôl Kat Watkins, swyddog prosiect gydag Anabledd Cymru, mae'r realaeth yn wahanol ac yn "hit and miss".
"Mae ceir yn parcio ar balmentydd ac chyrbiau is sy'n anghyfreithlon," meddai. "Mae fel cwrs chicane wrth geisio mynd mewn ac allan rhwng dodrefn stryd fel A-boards."
Mae hi'n cytuno bod angen addysg well er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r broblem.
"Mae'n baffling iawn pan mae rhywun wedi parcio ar gyrbiau isel neu ar balmant," ychwanegodd.
"Maen nhw'n dweud eu bod nhw'n cefnogi hawliau i bobl anabl ond maen nhw wedi ein hatal ni rhag cael mynediad drwy ddefnyddio cyrb isel.
"Nid dim ond defnyddwyr cadair olwyn sy'n cael eu heffeithio. Mae hefyd yn berthnasol i bobl sy'n defnyddio ffyn, tywysydd, cŵn cymorth neu bobl sydd â pushchairs. Ry'ch chi'n eu rhwystro nhw a dydi hynny ddim yn deg."
Fe ddylai cynghorau ddechrau dirwyo pobl, meddai, i ledaenu'r neges ei bod yn annerbyniol parcio mewn llefydd sy'n rhwystro mynediad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2021