Pum munud gyda'r chwaraewr futsal Alice Evans

  • Cyhoeddwyd
Alice EvansFfynhonnell y llun, Alice Evans

Mae Alice Evans o Aberhonddu yn chwaraewr futsal proffesiynol sy'n chwarae fel gôl-geidwad i glwb Santu Predu yn Sardinia, Yr Eidal.

Alice yw'r unig chwaraewr futsal proffesiynol ym Mhrydain ac mae hefyd wedi chwarae fel gôl-geidwad dros Gymru cyn newid byd a symud i'r Eidal i chwarae. Dyma hi'n rhannu rhai o'i phrofiadau gyda Cymru Fyw:

Sut wnes di ddechrau chwarae futsal?

Dechreuais chwarae ochr yn ochr a phêl-droed yn 2010 pan oeddwn yn 16 oed. Gofynodd Cardiff City FC i fi ymuno â'u rhaglen newydd nhw lle gallwn astudio fy nghwrs coleg a chwarae. Ar y pryd roedden nhw'n credu y byddai futsal yng Ngemau Olympaidd 2016 felly roedd ymdrech fawr i gael mwy o bobl i chwarae futsal ym Mhrydain. Cwympais mewn cariad yn syth gyda'r gamp.

Beth wyt ti'n hoffi am futsal?

Dwi wrth fy modd â pha mor gyflym yw'r gêm, chi bob amser yn symud, does dim amser i bwyllo yn gorfforol neu'n feddyliol. Yn futsal safle gôl-geidwad yw'r pwysicaf. Mae'n golygu 'mod i bob amser dan lawer o bwysau i berfformio, dwi yn hoffi hyn achos mae'n adrenalin mawr i fi.

Dwi hefyd wrth fy modd fod y gêm yn gallu newid mor gyflym, gall fod yn gêm sgorio uchel sy'n ei gwneud yn gyffrous i wylio a chwarae. Un peth arall sy'n hwyl am futsal yw fel gôl-geidwad chi yn gallu dod i chwarae fel ymosodwr ychwanegol i greu mantais, felly mae hefyd yn rhoi cyfle i fi sgorio goliau sy'n hwyl.

Ffynhonnell y llun, Alice Evans

Sut fyddet ti'n disgrifio futsal?

Mae yna bum chwaraewr ar y cwrt tu mewn gydag subs 'roll on roll off'. Mae'n 20 munud bob hanner ond gyda stopclock bob tro mae'r bêl allan o'r cwrt. Mae'r goliau fel goliau hoci, maint 4 yw'r bêl ac nid yw'n bownsio cymaint. Mae'r gêm yn gyflym iawn, gyda llawer o symudiadau, sgiliau ac 1v1s. Nid yw'n arferol i gêm orffen 0-0, os ydych chi'n gwylio gêm rydych chi'n bendant yn mynd i weld llawer o goliau neu gêm anhygoel gan y gôl-geidwad i gadw'r sgôr yn isel!

Sut mae bod yn chwaraewr proffesiynol wedi newid dy fywyd?

Es i'n broffesiynol am y tro cyntaf yn 2015 pan chwaraeais yn y gynghrair uchaf yn yr Eidal am dymor. Yn ystod y cyfnod hwnnw roeddwn i dal yn y brifysgol a'r gôl-geidwad cyntaf i dîm pêl-droed Cymru. Cyn hyn doeddwn i ddim yn sylweddoli bod modd mynd yn broffesiynol yn futsal ac ar y pryd doedd dim opsiwn i mi droi'n broffesiynol mewn pêl-droed. Roeddwn i'n gwybod wrth gymryd y cytundeb 'mod i mewn perygl o golli fy mreuddwyd pêl-droed ond roedd yn gyfle o'n i'n methu gwrthod.

Roedd fy nghontract nesaf yn 2020 yn un nad oeddwn yn ei ddisgwyl o gwbl, roeddwn yn byw 'bywyd normal' ar ôl graddio - gweithio, yn chwarae rygbi i Warrington Wolves ac yn chwarae futsal pan oedd cyfle.

Ffynhonnell y llun, Alice Evans

Roedd y tîm dwi'n chwarae i, sef Santu Predu, newydd gael dyrchafiad i'r ail gynghrair ac yn chwilio am gôl-geidwad cryf i'w carfan ddibrofiad i wneud yn siŵr eu bod yn aros ac yn cystadlu yn y gynghrair genedlaethol honno. Yn fy nghalon roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau rhoi cynnig arall arni, gyda phen aeddfed, ac roeddwn i wir eisiau profi i fi fy hun ac eraill fy mod yn gôl-geidwad talentog.

Gadewais fy swydd, fy mherthynas, fy nhîm rygbi, fy mywyd cwbl newydd. Cymerais risg a chyfle 'roeddwn yn gwybod na fyddai'n digwydd eto. Trodd allan i fod y penderfyniad gorau, rhoddodd fywyd newydd i fi a gwneud i fi gredu yn fy hun a'r dalent sy' gen i yn y gamp hon.

Oes gwahaniaeth rhwng y gêm futsal i ddynion i gymharu gyda'r gêm i fenywod?

Bydd gwahaniaethau bob amser, y mwyaf ar hyn o bryd yw nad yw'r merched erioed wedi cael cwpan byd sy'n cael ei gydnabod gan FIFA, ond o 2025 mae hyn yn cael ei roi ar waith yn ogystal â chwpan byd clwb. Bydd hyn gobeithio yn arwain at dimau rhyngwladol eraill yn creu timau merched i gystadlu a datblygu'r gamp yn rhyngwladol.

Ti yw'r unig chwaraewr futsal proffesiynol ym Mhrydain - sut deimlad yw hynny?

Mae'n deimlad gwych ac yn rhywbeth y bydda'i bob amser yn falch ohono gan fy mod yn gwybod fy mod yn rhoi Cymru a Phrydain ar y map. Ond byddwn i wrth fy modd yn gweld mwy o ferched yn gwneud yr hyn dwi'n ei wneud, yn bendant mae yna bosibiliadau allan yna.

Sut wyt ti'n teimlo am y ffaith nad oes tîm futsal gan Gymru?

Byddai'n anhygoel os fydde tîm Cymreig, byddai'n gwireddu breuddwyd a gobeithio bydd yn digwydd cyn i fi roi'r gorau i chwarae. Ond yn anffodus dwi'n teimlo fod hyn ymhell i ffwrdd gan nad oes cynghrair futsal benywaidd cenedlaethol yng Nghymru.

Mae'r gynghrair yn Lloegr yn cryfhau a dwi'n gwybod bod llawer o ferched yn teithio dros y ffin i chwarae. Hyd yn oed pe bai Lloegr yn dechrau tîm cenedlaethol benywaidd byddai hyn yn beth mawr ac yn helpu i wthio'r cenhedloedd eraill.

Os nad oes gan gamp dîm cenedlaethol i chi ei gynrychioli yna mae llawer o bobl ddim yn ei gymryd fel gyrfa, mae angen llwybr fel nod i chwaraewyr weithio tuag ato. Gyda chyflwyniad cwpan y Byd 2025, pwy a wyr!

Sut mae bywyd yn yr Eidal?

Dwi'n caru'r Eidal, dwi'n meddwl bod hi'n wlad brydferth gyda bwyd anhygoel ac hefyd pobl annwyl iawn. Ar hyn o bryd dw i yn Sardinia sy'n ynys hyfryd oddi ar yr Eidal, yn llawn traethau anhygoel a môr clir. Allai ddim aros nes yr haf i ddechrau ei fwynhau eto!

Mae fy mhrofiad yma wedi bod yn wych, mae pobl Sardinia yn ofalgar iawn ac yn gwneud i chi deimlo eich bod yn rhan o deulu. Mae'n bendant yn helpu pan dw i wedi bod i ffwrdd o gartref cyhyd. Mae fy Eidaleg yn gwella nawr sy'n bendant yn rhoi profiad mwy positif gan fy mod yn deall mwy.

Ydy futsal yn gêm poblogaidd yn yr Eidal?

Ydy, mae Eidalwyr yn caru pêl-droed yn gyffredinol - maen nhw'n ei ddilyn fel crefydd arall! Felly maen nhw'n parchu ac hefyd yn mwynhau futsal. Mae'r cynghreiriau yn genedlaethol gyda llawer o dimau yn cystadlu a llawer o arian yn cael ei wario. Mae holl chwaraewyr gorau'r byd draw yma, sy'n dod â llawer o sylw i'r gêm ac yn ei wneud yn gystadleuol iawn.

Ffynhonnell y llun, Alice Evans

Beth yw uchafbwynt dy yrfa hyd yma?

Fy mreuddwyd bob amser oedd chwarae pêl-droed dros Gymru, roedd yn rhywbeth roeddwn i'n meddwl amdano bob dydd ac yn rhywbeth roeddwn i bob amser eisiau yn tyfu lan.

Wnes i erioed ddychmygu bywyd i ffwrdd o bêl-droed a'r tîm cenedlaethol. Cefais y blynyddoedd a'r profiad mwyaf anhygoel yno (yn chwarae i dîm Cymru fel gôl-geidwad), profiadau y bydda'i bob amser yn ddiolchgar ac yn falch ohonynt.

Fy uchafbwynt nesaf oedd pan es i'n broffesiynol am y tro cyntaf, rhywbeth nad oeddwn i byth yn credu oedd yn bosibl ei wneud fel plentyn.

Beth nesaf i ti?

Bydd fy nghontract yma yn dod i ben ym mis Mai, a bydda'i wedyn yn edrych i adnewyddu neu gweld pa gyfleoedd eraill a ddaw i'r amlwg. Ond dwi'n gwybod nad ydw i'n barod i ddod adref, bydda'i yn parhau i chwarae yma yn yr Eidal neu wlad arall. Fy nod nesaf yw torri'n ôl i'r gynghrair uchaf, felly dwi'n gobeithio dros y ddau dymor nesaf y byddai'n cyflawni hynny gan fy mod yn credu y galla'i barhau i chwarae yno.

Pynciau cysylltiedig