Cyngor Powys eisiau codi treth ychwanegol ar gwmnïau dŵr ac ynni
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Powys yn dymuno codi treth ar gwmnïau sy'n cymryd dŵr ac ynni o'r sir ar gyfer ardaloedd eraill.
Maen nhw wedi ysgrifennu at Lywodraethau Cymru a'r DU yn gofyn am yr hawl i wneud hynny.
Yn ôl y cyngor, byddai'r arian a fyddai'n cael ei godi yn cael ei wario ar warchod yr amgylchedd o fewn y sir.
Ond does dim sicrwydd y bydd caniatâd yn cael ei roi i'r cynllun, gydag un cynghorydd Ceidwadol yn dweud mai'r nod ydy creu drwgdeimlad rhwng Cymru a Lloegr.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi gwahodd Cyngor Powys i drafod y cynnig ymhellach.
Ond dywedodd llefarydd y byddai angen "achos cryf iawn" i godi treth ychwanegol o'r fath.
Cafodd y cynnig ei gymeradwyo gan Gyngor Sir Powys mewn cyfarfod ym mis Rhagfyr, o 40 pleidlais i 19.
Mae'r cynnig yn galw am dreth sydd werth o leiaf £1 am bob mega-litr, a £1 am bob mega-watt, ar gwmnïau sy'n mynd â dŵr ac ynni i lefydd y tu allan i Bowys.
Pryder costau byw
Ymhlith y rheiny sy'n cefnogi'r syniad mae un o aelodau'r rhanbarth ar Senedd Cymru, sef arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds.
"Dros y blynyddoedd mae o'n wir i dd'eud... dros ganrifoedd i ddeud y gwir... 'dan ni 'di bod yn gweld dŵr yn mynd o Bowys, o Gymru i Loegr - Llyn Fyrnwy yn un enghraifft," meddai.
"Felly mae'r cynnig yma o'r cyngor isio gwneud yn siŵr bod 'na ryw fath o compensation, rhyw fath o arian yn dod i mewn i helpu pobl yma ym Mhowys."
Ond nid yw pawb yn cytuno.
Mae Aled Davies, arweinydd Grŵp Ceidwadwyr Cymru sydd ar Gyngor Powys, yn gwrthwynebu'r cynnig.
"Fel Ceidwadwr dwi ddim yn hoffi gweld trethi'n mynd fyny a bydd hynny'n ychwanegu at gostau byw pobl sydd yn byw yn Birmingham a Lerpwl ac ati," meddai.
"Os 'dach chi'n codi mwy o arian fan hyn bydd costau'n cael eu pasio i lawr i bobl sy'n byw yn Lloegr, a'r amser yma efo costau byw mor uchel, dyma'r peth diwetha' 'dan ni isio 'neud.
"Y cymhelliad yma ydy codi'r friction rhwng y ddwy wlad."
Galw am 'gydnabyddiaeth ariannol'
Dydy Cyngor Powys ddim wedi cynnig ffigwr o ran faint o arian y byddai'r trethi'n ei godi.
Cannoedd o filoedd o bunnau ydy amcangyfrif yr economegydd Dr Eurfyl ap Gwilym, oedd yn aelod o'r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru - a enwebwyd gan Blaid Cymru - rai blynyddoedd yn ôl.
"Mewn egwyddor mae'n beth da oherwydd dwi'n meddwl bod y rhan fwya' o bobl yng Nghymru'n teimlo bod ni'n allforio dŵr a dylen ni gael dipyn bach o gydnabyddiaeth ariannol oherwydd hynny," meddai.
"'Dach chi isio codi degau o filiynau os 'dach chi'n mynd i 'neud e ac ar hyn o bryd mae'n gymhleth oherwydd nid dim ond y dimension gwleidyddol, ond hefyd y ffaith fod y dŵr yma ym meddiant cwmnïau preifat.
"Dywedwch [yn achos] y diwydiant olew, mae'r gwledydd sy'n cynhyrchu olew, maen nhw ddim yn cynhyrchu'r olew, mae'r olew yn y ddaear, mae cwmnïau preifat yn aml iawn - Shell, Exxon - yn mynd yno i gael yr olew allan ond maen nhw'n gorfod talu treth ar hynny i'r gymuned leol."
Mae Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Gareth Ratcliffe, wedi anfon llythyr at weinidogion yn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gofyn am ganiatâd i fedru codi treth.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi gwahodd Cyngor Powys i drafod y cynnig fel rhan o'n trafodaethau rheolaidd ag awdurdodau lleol.
"Fodd bynnag, byddai angen cyflwyno achos cryf iawn dros osod baich ychwanegol o ran treth ar fusnesau.
"Mae llawer o fusnesau, gan gynnwys busnesau ynni adnewyddadwy a chyflenwyr dŵr, eisoes yn cyfrannu at gyllido gwasanaethau lleol drwy ardrethi annomestig."
Dywedodd Llywodraeth y DU mai rhywbeth i Lywodraeth Cymru wneud sylw arno fyddai hwn, ond maen nhw'n cyfeirio at gytundeb ar y cyd rhwng y ddwy lywodraeth gafodd ei arwyddo bron i chwe blynedd yn ôl.
Mae hwnnw'n dweud na ddylai polisïau yng Nghymru na Lloegr amharu ar y cyflenwad dŵr yr ochr arall i'r ffin.
Pe bai hynny'n digwydd, ac yn arwain at anghytuno, byddai'n rhaid i bwyllgor o weinidogion ar y cyd drafod y mater ymhellach.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd25 Awst 2022
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2023